大象传媒

Penderfynu ar gyfyngiadau Covid 'erbyn diwedd yr wythnos'

  • Cyhoeddwyd
VGFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd penderfyniad am gyfyngiadau coronafeirws pellach i Gymru'n cael eu gwneud "erbyn diwedd yr wythnos", meddai'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething.

Wrth siarad ar raglen 大象传媒 Breakfast fore dydd Mercher, dywedodd fod gweinidogion wedi bod yn trafod gyda chyfreithwyr y llywodraeth i weld sut oedd modd defnyddio grymoedd Deddf Iechyd Cyhoeddus 1984 "er mwyn cyflwyno ystod o gyfyngiadau i ardaloedd lle mae nifer o achosion uchel [o Covid-19] o unrhyw ran o'r DU".

"Nid yw hyn am un rhan o'r DU, ond yr ardaloedd ble mae achosion uchaf, er mwyn amddiffyn ein hardaloedd lle mae achosion yn isel er mwyn cadw coronafeirws allan. Mae'n fesur amddiffynnol a dyna sut rydym yn edrych arno," meddai.

Ddydd Mawrth fe gafodd ap锚l Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford i atal pobl rhag teithio o ardaloedd risg uchel yn Lloegr i Gymru ei wrthod gan Lywodraeth y DU.

Mewn llythyr at Boris Johnson roedd Mark Drakeford wedi ategu ei alwadau blaenorol am waharddiad statudol, gan ddadlau fod diffyg rheol o'r fath yn "tanseilio" ymdrechion yng Nghymru i atal lledaeniad coronafeirws.

Ychwanegodd Vaughan Gething yn ei gyfweliad ddydd Mercher: "Mae'n cyfreithwyr yn dod yn 么l atom gydag ystod o ddewisiadau ac yn y dyddiau nesaf fe fydd y prif weinidog a fi yn cyfarfod i wneud penderfyniad am sut yr ydym yn cadw Cymru'n ddiogel.

"Rydym wedi dangos fod modd gorfodi trefniadau teithio lleol yn llwyddiannus, felly nid wyf yn credu fod na gwestiwn am orfodaeth achos fel rwy'n dweud, rydym wedi bod yma o'r blaen.

"Y siom yw ein bod yn gorfod gwneud hyn ar sail gwledydd unigol yn hytrach na chael agwedd mwy unedig, achos fe fyddai hyn yn amddiffyn ardaloedd gyda lefelau isel yn Lloegr yn ogystal ag ardaloedd sydd gyda lefelau uchel yng Nghymru."

Yn ogystal 芒'r mesurau i atal teithwyr, mae'r llywodraeth wedi bod yn ystyried cyfnod o fesurau llym am gyfnod byr - circuit breaker.

Mae cyn-swyddog meddygol wedi codi amheuon am ba mor effeithiol fyddai hynny.

Ychwanegodd Mr Gething: "Fel 'nes i ddweud ddoe, rwy'n credu bod angen i ni wneud penderfyniad erbyn diwedd yr wythnos...

"Mae llawer o bobl yn cyfeirio at wyliau ysgol hanner tymor fel cyfle posib i gyflwyno cyfnod o doriad os ydym am wneud hynny, felly mae'r dyddiau nesaf yn rhai pwysig iawn lle'r ydym yn derbyn cyngor penodol sydd wedi ei deilwra ar gyfer Cymru er mwyn deall sut byddai hyn yn edrych."

Mae Arweinydd Plaid Cymru wedi galw am gyfnod clo byr er mwyn rhoi amser i "roi trefn" ar y system profi ac olrhain.

Dywedodd Adam Price bod hefyd angen i'r system ffyrlo ddychwelyd "yn llawn", ac y gallai'r Gwasanaeth Iechyd foddi dan y pwysau os nad yw'r llywodraeth yn gweithredu.