'Tagiau sobrwydd' i droseddwyr dan ddylanwad alcohol
- Cyhoeddwyd
Fe allai troseddwyr yng Nghymru sydd wedi troseddu dan ddylanwad alcohol gael eu gwahardd rhag gyrru a'u gorfodi i wisgo 'tagiau sobrwydd' gan y llysoedd o ddydd Mercher ymlaen.
Mae'r tagiau yn mesur chwys troseddwyr bob 30 munud ac yn hysbysu'r Gwasanaeth Prawf os ydy alcohol y cael ei yfed.
Os bydd troseddwr yn methu cadw at ofynion gorchymyn ymwrthod ag alcohol - sef grymoedd newydd sy'n galluogi llysoedd i orchymyn gwaharddiad alcohol am hyd at 120 dydd - fe allai'r troseddwr wynebu dirwy neu ddedfryd ychwanegol.
Bydd y camau newydd yn dod i rym yng Nghymru yn gyntaf, cyn cael eu cyflwyno yn Lloegr y flwyddyn nesaf.
Dyma'r cam diweddaraf yng nghynlluniau Llywodraeth San Steffan "i wneud dedfrydau cymunedol yn fwy cadarn...tra hefyd yn gwneud troseddwyr yn llai tebygol o aildroseddu," medd gweinidogion.
Mae alcohol yn ffactor mewn tua 39% o droseddau treisgar medd y llywodraeth, gyda'r gost gymdeithasol ac economaidd sy'n gysylltiedig ag alcohol yn ymestyn i dros 拢21bn y flwyddyn.
Mae'n cael ei ystyried yn un o'r dylanwadau mwyaf mewn achosion o drais domestig ac ymosodiadau di-rybudd ar ddieithriaid.
Mae'r tagiau'n rhybuddio staff pan fyddant wedi ymyrryd 芒 nhw ac yn gallu gwahaniaethu rhwng diodydd a mathau eraill o alcohol - fel glanweithydd dwylo neu bersawr. Maent yn gweithio 24/7 a gallant hefyd ddweud a yw rhywun yn ceisio rhwystro cyswllt rhwng y tag a'u croen.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart: "Gall alcohol gael effaith ddinistriol ar fywydau ac mae ffigurau'n dangos ei fod yn ffactor allweddol y tu 么l i ormod o droseddau.
"Mae'n galonogol gweld Cymru ar flaen y gad wrth weithredu'r dechnoleg newydd hon, a fydd, yn ein barn ni, yn cyfrannu at ostwng cyfraddau aildroseddu, gwneud ein strydoedd yn fwy diogel a chefnogi'r rhai sydd angen help."
Bydd mwy o gefnogaeth ar gael "i'r rheini sy'n barod i droi eu cefn ar droseddu trwy driniaeth ar gyfer materion iechyd meddwl a chaethiwed," medd Llywodraeth San Steffan.
Mae'r llywodraeth hefyd yn bwriadu defnyddio tagiau GPS i olrhain lladron pan g芒nt eu rhyddhau o'r carchar hefyd o dan y cynlluniau newydd.Dywedodd y Gweinidog Trosedd a Phlismona, Kit Malthouse AS: "Yn rhy aml o lawer, rydyn ni'n gweld effeithiau dinistriol ymddygiad sy'n cael ei yrru gan alcohol, troseddau di-hid a thrais achlysurol sy'n difetha ein cymdogaethau a bywydau gormod o ddioddefwyr.
"Gall yr offeryn newydd hwn dorri'r cylch hunanddinistriol y mae troseddwyr yn eu cael eu hunain ynddo, ac eu helpu i sobri os dewisant wneud hynny, a helpu'r llysoedd i gosbi'r rhai nad ydynt."
Mae'r cynllun yn dilyn dau beilot yn Llundain ac ar draws Humberside, Sir Lincoln a Gogledd Sir Efrog. Dangosodd y cynlluniau hyn fod troseddwyr yn rhydd o alcohol ar dros 97% o'r diwrnodau gafodd eu monitro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2020