大象传媒

Cynghorau'n stryffaglu i gael dau ben llinyn ynghyd

  • Cyhoeddwyd
Biniau duFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cynghorau Cymru'n darparu dros 700 o wasanaethau gan gynnwys casglu gwastraff ac ailgylchu

Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Chris Llewelyn, wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru bod hi'n gynyddol anodd i gynghorau gynllunio ar gyfer y dyfodol oherwydd effaith ariannol y pandemig Covid-19.

Yn ystod chwe mis cyntaf eleni, mae cynghorau Cymru wedi dweud wrth Archwilio Cymru eu bod wedi wynebu costau o tua 拢325m oherwydd y pandemig (拢160m yn sgil colli incwm a 拢165m yn sgil gwariant ychwanegol).

Fe ofynnodd rhaglen Newyddion i bob un o'r cynghorau am effaith Covid-19 ar eu cyllidebau.

  • Dywedodd Cyngor Caerdydd fod delio gyda'r pandemig wedi costio 拢39m ym mhedwar mis cynta'r flwyddyn ariannol;

  • Fe gafodd Blaenau Gwent gostau o 拢3.047m a cholled incwm o 拢674,000 hyd at ddiwedd Mehefin;

  • Gwelodd Sir y Fflint gostau ychwanegol o 拢7m a cholled incwm o 拢3.5m;

  • Fe wariodd Merthyr Tudful 拢2.657m yn ychwanegol hyd at 31 Awst, gan golli 拢652,000 o incwm;

  • Yn Sir Benfro roedd gwariant ychwanegol o 拢6.7m a cholled incwm o 拢2.3m;

  • Dywedodd Powys bod y pandemig yn mynd i gael effaith o 拢10.7m;

  • Yng Nghonwy roedd y pwysau ariannol ychwanegol oddeutu 拢4.34m;

  • Fe wnaeth Wrecsam hawlio 拢6m o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru;

  • Mae Gwynedd yn amcangyfrif y bydd cost y pandemig tua 拢8.2m rhwng Mawrth ac Awst eleni;

  • Mae Sir G芒r yn rhagweld gorwariant o 拢7.065m ar y gyllideb refeniw net, gyda gorwariant ar lefel ardanol o 拢8.025m.

Mae nifer o gynghorau yn dweud eu bod nhw wedi gweld costau uwch i dalu am ofal cymdeithasol, addysg, prydau bwyd am ddim, digartrefedd, offer PPE a lleihad mewn incwm o gostau parcio a ffioedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae llyfrgelloedd a gwasanaethau hamdden ymhlith gwasanaethau'r awdurdodau lleol

Dyfodol ansicr

Yn 么l nifer o awdurdodau lleol, mae'r pandemig yn gwneud eu sefyllfa ariannol yn fwy ansicr, er bod yna arian sylweddol wedi dod o goffrau Llywodraeth Cymru i gynorthwyo cynghorau.

Dywedodd Sir y Fflint bod rheoli'r gyllideb mewn hinsawdd sydd yn newid yn gyflym yn heriol tu hwnt.

Yn 么l Sir Caerffili, roedd "arian Llywodraeth Cymru i'w groesawu, ond mae yna ansicrwydd mawr am arian ychwanegol yn ystod gweddill 2020/21".

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion nad oedd hi'n "gwbl glir beth yw gwerth cyllid Covid-19 Llywodraeth Cymru, pa feysydd a ariennir, sy'n golygu bod hi'n anodd gwneud rhagolygon ariannol".

Dywedodd Cyngor Gwynedd bod y sefyllfa yn "heriol iawn.. byddwn ni yn parhau i fonitro'r sefyllfa fel mae'n datblygu i'r dyfodol".

Yn 么l Torfaen, mae'r sefyllfa yn "fwy heriol, gyda mwy o bwysau ar adnoddau prin.. mae'r rhagolygon yn fwy ansicr".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'n anodd i unrhyw awdurdod i gynllunio gydag unrhyw sicrwydd," medd Chris Llewelyn

'Amser ofnadwy'

Yn 么l Chris Llewelyn, Prif Weithredwr y Gymdeithas Llywodraeth Leol, mae'r sefyllfa bresennol wedi gwneud hi'n anodd i gynghorau gynllunio yn ariannol: "Mae yna ansicrwydd mawr.

"Mae cynllunio yn hollbwysig, ond ar hyn o bryd mae'n anodd i unrhyw awdurdod i gynllunio gydag unrhyw sicrwydd, achos 'da ni ddim yn gwybod beth sydd yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol."

Yn Sir Gaerfyrddin, mae'r awdurdod wedi gweld gostyngiad o 拢1.1m yn yr incwm sydd yn deillio o gostau parcio, ar 么l cynnig parcio am ddim am chwe mis i gefnogi busnesau.

Yn 么l y Cynghorydd Hazel Evans, sydd yn gyfrifol am yr amgylchedd ar y Bwrdd Gweithredol, mae'n gyfnod heriol tu hwnt: "Ni'n colli refeniw o dros filiwn am y chwe mis.

"Roedd e'n mynd at helpu i wneud gwelliannau i'r meysydd parcio, i'r heolydd, a bysiau cefn gwlad. Mae gymaint o bethau sydd angen arian nawr. Mae'n amser ofnadwy."