Galwadau i ailagor T欧鈥檙 Cymry yng Nghaerdydd

Disgrifiad o'r llun, Mae'r adeilad wedi bod yn gartref i sefydliadau fel UCAC, yr Urdd, Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith

Mae galwadau ar berchnogion T欧'r Cymry yng Nghaerdydd i beidio 芒 gwerthu'r adeilad wedi iddo gau ym mis Medi.

Mae'r adeilad wedi bod yn gartref i nifer o sefydliadau ers iddo gael ei sefydlu yn 1936 - gan gynnwys Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, yr Urdd, Plaid Cymru, Cymdeithas yr Iaith a Chylch Meithrin T欧'r Cymry.

Mae un o gyn-denantiaid yr adeilad - Cymdeithas yr Iaith - bellach yn galw ar yr ymddiriedolwyr i gadw'r t欧 ar agor er mwyn ei ddatblygu i fod yn "ofod cymdeithasol newydd ar gyfer yr iaith yng Nghaerdydd".

Yn 么l Bethan Ruth, cadeirydd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith: "Mi fyddai cau'r lle yn gam yn 么l i'r Gymraeg yn y brifddinas."

Dywedodd ymddiriedolwyr T欧'r Cymry eu bod nhw'n "cydnabod pwysigrwydd yr adeilad i ddiwylliant cymuned Cymraeg Caerdydd", ond bod yr adeilad "wedi mynd yn adfail, ac nad oes cymorth ariannol digonol ar gael i barhau i redeg yr adeilad bellach".

Disgrifiad o'r llun, Cafodd T欧'r Cymry ei sefydlu yn 1936 "i Gymry Caerdydd"

"Mae hanes pwysig i D欧'r Cymry yn adferiad yr iaith yng Nghaerdydd, a does dim rheswm i hynny ddod i ben," meddai Ms Ruth.

"Dydyn ni ddim yn galw am gadw pethau fel maen nhw wedi bod - mae pob math o bosibiliadau, ac mae'n amlwg bod angen datblygu'r ganolfan a buddsoddi ynddi.

"Yn hytrach, rydyn ni'n galw ar y perchnogion i basio'r cyfrifoldeb ymlaen i griw newydd fyddai'n gallu ailsefydlu'r lle fel canolfan Gymraeg gyfoes ar gyfer Caerdydd yr unfed ganrif ar hugain."

Cafodd T欧'r Cymry ei roi "i Gymry Caerdydd" yn 1936 gan y ffermwr Lewis Williams o Fro Morgannwg er mwyn hybu'r iaith Gymraeg yn y ddinas.

Un sy'n cofio mynd i'r adeilad yn yr 1940au cynnar yw Gwilym Roberts o Gaerdydd.

Disgrifiad o'r llun, Mynychodd Gwilym Roberts D欧'r Cymry yn ei arddegau

"O'n i'n ddisgybl yn ysgol ramadeg y bechgyn Penarth ar y pryd," meddai.

"O'n i yn y chweched dosbarth, ac mi benderfynais fynd i ymuno a Th欧'r Cymry, ac roedd T欧'r Cymry yn yr adeg yna yn llawn bywyd.

"Mi oedd yna ddau gyfarfod bob wythnos - un ar nos Sul ac un ar nos Fawrth - ac yn y cyfnod yna, T欧'r Cymry oedd yr unig le seciwlar yng Nghaerdydd ar gyfer y Cymry Cymraeg, ac roedd pobl ifanc yn dod o bob cwr o Gymru yno.

"Ddoth T欧'r Cymry mewn gwirionedd yn fiwro priodasau, achos mi wnaeth llawer iawn o aelodau T欧'r Cymry briodi.

"O'dd o'n lle llawn bwrlwm am flynyddoedd."

'Trist bod y cwbl ar ben'

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni gofio cyfraniad T欧'r Cymry i ddatblygiad yr iaith yng Nghaerdydd.

"Mae'n drist i feddwl bod y cwbl wedi dod i ben r诺an.

"Ond ar y llaw arall mae bywyd wedi symud yn ei flaen ac mae cymaint o bethau r诺an sy' 'di cymryd lle T欧'r Cymry."

Disgrifiad o'r llun, Bu Wyn James yn defnyddio'r adeilad fel man cyfarfod cyntaf gwasanaethau Eglwys Efengylaidd Caerdydd

Mae defnydd T欧'r Cymry wedi esblygu dros y blynyddoedd, o fod yn fan cyfarfod cymdeithasol i nifer o Gymry Caerdydd yn yr 1940au, i fod yn gartref i nifer o sefydliadau sydd wedi chwarae rhan amlwg yn niwylliant Cymraeg Caerdydd.

Roedd Wyn James yn arfer mynychu gwasanaethau Eglwys Efengylaidd Caerdydd yn Nh欧'r Cymry yn yr 1980au.

Dywedodd Mr James bod y ganolfan wedi bod yn "lle pwysig iawn" o "safbwynt dysgwyr", "safbwynt y cylch meithrin", a hefyd "o safbwynt datblygu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond trwy Gymru gyfan mewn gwirionedd, trwy Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru".

"Mae'r lle wedi bod yn allweddol o safbwynt dechreuadau addysg ffurfiol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg," meddai.

"Beth fyddai rhywun yn gobeithio - hyd yn oed os yw'r t欧 presennol yn mynd am ba reswm bynnag - yw y bydde 'na falle ganolfan arall yn cael ei brynu gyda'r arian o'r t欧 mewn rhyw ran arall o Gaerdydd."