Gwrachod Cymru mewn lliw
- Cyhoeddwyd
Mae'r artist Efa Lois wrth ei bodd 芒 chwedloniaeth Cymru, ac am yr ail flwyddyn yn olynol, mae hi wedi paentio llun o wrach Gymreig bob dydd ym mis Hydref, gan roi tipyn o bwt am hanes pob un.
Yma mae hi'n egluro pam:
"Dwi wastad wedi ymddiddori mewn chwedloniaeth, a mae llawer o ngwaith arall i i'w wneud gyda menywod a hanes Cymru. Ers cwpl o flynyddoedd, dwi'n casglu llyfrau am chwedloniaeth Cymru ac yn darllen am chwedlau lleol mewn hen erthyglau a hen lyfrau, a thrio casglu'r archif yma o wrachod Cymru.
"Dwi'n meddwl fod ll锚n gwerin yn rili diddorol - ni yn gyfarwydd 芒'r Mabinogi... ond o'dd y menywod yma yn llenwi rhyw fath o fwlch yng ngwybodaeth lot o bobl.
"Beth sy'n rili diddorol amdanyn nhw, er fod rhai ohonyn nhw'n teimlo'n fwy chwedlonol na'i gilydd, y tebygolrwydd ydi eu bod nhw wedi bod yn fenywod go iawn ar un adeg. Roedd pobl yn meddwl eu bod nhw'n 'od' am ryw reswm, a bydde'r chwedlau 'ma wedi tyfu o'u cwmpas nhw.
"Mae 'na amrywiaeth o ran cyfnod - rhai yn y 15fed ganrif, rhai yn y 18fed ganrif, a rhai efallai yn fwy diweddar - ond oherwydd natur y chwedloniaeth, mae hi'n anodd mynd yn 么l a dod o hyd i'r union berson oedd wedi ysbrydoli'r chwedl, a phryd oedden nhw'n fyw.
"Dwi'n meddwl fod edrych ar y menywod 'ma drwy lens gyfoes yn beth diddorol. Roedd y gwrachod yma yn aml yn cael eu beio am bethau. Roedd Malen wedi cael ei beio fod mochyn y dyn 'ma wedi dechrau bihafio fel ci gyda rabies - a nes i g诺glo fe, a mae moch yn gallu cael rabies, mae'n debyg. Ond roedd y dyn wedi penderfynu fod Malen wedi melltithio'r mochyn.
"Ar y pryd roedd e'n haws egluro drwy feio rhywun amdano fe.
"Dwi'n trio gwneud ymdrech i wneud iddyn nhw edrych yn wahanol i'w gilydd, achos hyd yn oed os ma'r chwedlau yn eitha tebyg i'w gilydd, falle fod y menywod 'ma, o ran personoliaeth, mor wahanol i'w gilydd ag oedden nhw'n gallu bod.
"Roedd rhain yn fenywod go iawn, a ddim yn wrachod fel mae Hollywood yn portreadu gwrachod. Dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig i gynrychioli gymaint o bobl 芒 sy'n bosib, a bod pobl yn gallu edrych arno fe a dweud 'w, mae hi'n edrych fel fi'."
Ewch draw i gyfrif i weld gweddill ei lluniau o rai o wrachod Cymru
Hefyd o ddiddordeb: