大象传媒

Rhai'n teithio ar drenau i Loegr 'heb reswm hanfodol'

  • Cyhoeddwyd
CaerFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru

Mae pobl yn teithio dros y ffin i Loegr am resymau "nad ydynt yn hanfodol" ar y penwythnos, yn 么l penaethiaid y rheilffyrdd.

Mae cwmni trenau Trafnidiaeth Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer y teithwyr sy'n mynd i lefydd fel Caer ers i'r prif weinidog Mark Drakeford ofyn i bobl beidio 芒 theithio oni bai fod eu taith yn hanfodol.

Mae Cymru mewn cyfnod clo am 17 diwrnod gyda busnesau ar gau, ond nid dyma'r achos dros Glawdd Offa yn Lloegr.

Dywedodd cyfarwyddwr diogelwch Trafnidiaeth Cymru, Leyton Powell, wrth 大象传媒 Radio Wales fore dydd Sadwrn fod y "mwyafrif y bobl yn ymddwyn".

"Yn sicr, dros y penwythnos mewn ardaloedd fel Caer, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer y teithwyr yn ystod y cyfnod clo, sydd yn gynnydd o gymharu gyda'r hyn rydym yn ddisgwyl ei weld.

"Mae'n rhaid i ni gydnabod bod gwahaniaethau yn y cyfyngiadau ar dafarndai, clybiau a bwytai sy'n parhau ar agor ledled Lloegr.

"Yr hyn rydyn ni wedi gorfod ei wneud yw rhoi systemau ciwio ychwanegol mewn grym, er mwyn sicrhau bod pob teithiwr yn ddiogel."

Mae Cymru ar glo tan 9 Tachwedd ond yn nhafarndai Caer, mae bariau a bwytai, er enghraifft, ar agor, er eu bod wedi'u cyfyngu i wasanaeth bwrdd yn unig a rhaid iddynt gau am 22:00 GMT.

Dywedodd Mr Powell fod amserlenni rheilffyrdd wedi cael eu lleihau "yn sylweddol" yn unol 芒 chyfyngiadau Llywodraeth Cymru i gwtogi ar bobl sy'n teithio.

"Rydyn ni wedi cwtogi ar fwyafrif ein teithiau dros y penwythnos sydd fel arfer ar gyfer mwy o deithiau cymdeithasol, ond rydyn ni wedi cadw'r gwasanaethau sydd yn cludo pobl i ysbytai neu i'r gwaith," meddai.