大象传媒

Drakeford: Amseriad ymestyn y cynllun ffyrlo 'yn annheg'

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi dweud ei bod hi'n "annheg" fod y cynllun ffyrlo wedi cael ei ymestyn dim ond oherwydd bod Lloegr hefyd bellach am fynd i mewn i gyfnod clo byr.

Ddydd Sadwrn fe gyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson gyfnod clo o bedair wythnos i Loegr, fydd yn dechrau ddydd Iau.

Mae Cymru eisoes ar ganol cyfnod clo byr, a bydd Llywodraeth Cymru'n cyfarfod ddydd Sul i drafod pa reolau fydd mewn grym unwaith y bydd hynny'n dod i ben ar 9 Tachwedd.

Ond dywedodd Mr Drakeford fod y cyfnod clo yn Lloegr "yn creu cyd-destun newydd" ac yn golygu y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried "unrhyw beth y bydd yn rhaid i ni ailfeddwl".

'Ddim yn deg'

Wrth siarad ar raglen Dewi Llwyd ar 大象传媒 Radio Cymru fore Sul, dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod wedi ceisio cael cyfarfod gydag arweinwyr holl wledydd y DU rai wythnosau yn 么l i drafod cael "toriad t芒n" byr.

"Ar ddiwedd y dydd ni'n gallu gwneud penderfyniadau annibynnol yng Nghymru yn defnyddio'n pwerau ni, ac mae lan i'r prif weinidog Boris Johnson i wneud yr un peth i Loegr," meddai.

Wrth gyhoeddi'r cyfyngiadau newydd i Loegr, dywedodd Mr Johnson y byddai'r cynllun ffyrlo i warchod swyddi - oedd am ddod i ben y penwythnos yma - yn cael ei ymestyn.

Ond mae Mr Drakeford wedi cwestiynu pam nad oedd Llywodraeth y DU wedi gallu cyhoeddi hynny pan ofynnodd ef am hynny fis diwethaf.

Ffynhonnell y llun, AFP

Dywedodd ei fod wedi gofyn i'r Trysorlys ddwywaith am ymestyn y gefnogaeth - y tro cyntaf cafodd "ateb yn gyflym i ddweud bod hwnna ddim yn bosibl am nifer o resymau technegol", meddai, a'r eildro cafodd "dim ateb o gwbl".

"Nawr pan mae pethau'n newid yn Lloegr maen nhw wedi newid eu meddwl am y cynllun ffyrlo, a 'di hwnna ddim yn deg," meddai.

"Dwi'n mynd i godi hwn gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig pan fydd y cyfle nesa'n dod."

Mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart wedi dweud fodd bynnag nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ymestyn y cynllun ffyrlo, ond yn hytrach "cynllun arall" a hynny ar 么l clywed nad oedd yn bosib beth bynnag.

Dan y cynllun ffyrlo mae Llywodraeth y DU yn talu 80% o gyflogau staff sydd methu gweithio oherwydd cyfyngiadau Covid-19, hyd at 拢2,500 y mis.

Bydd yn rhaid i estyniad i'r cynllun gael s锚l bendith Aelodau Seneddol, ac mae disgwyl iddyn nhw bleidleisio ar y mater ddydd Mercher.

Dim ymestyn y clo byr

Bydd gweinidogion Cymru'n trafod heddiw pa reolau newydd fydd yn dod i rym ar draws Cymru ar ddiwedd y clo byr o 17 diwrnod.

O ganlyniad i gyhoeddiad Mr Johnson, fe fyddan nhw hefyd yn trafod unrhyw drafferthion all godi o gwmpas y ffin rhwng Cymru a Lloegr os yw rheolau'n parhau'n wahanol ar y ddwy ochr - er enghraifft, gyda thafarndai fydd yn ailagor yng Nghymru tra bod Lloegr dan gyfnod clo.

Ond dywedodd y prif weinidog nad oedd angen ymestyn cyfnod clo Cymru i fis, fel yn Lloegr.

"Os chi'n gwneud pethau'n fwy cyflym, does dim rhaid i chi wneud e am gyfnod mor hir," meddai.

"Dyna pam wnaethon i'r penderfyniadau yna yma yng Nghymru bythefnos yn 么l a ni wedi cael wythnos o'r toriad t芒n yma yng Nghymru yn barod."

Ffynhonnell y llun, AFP

Cadarnhaodd Mr Drakeford na fyddai cyfyngiadau lleol yn dychwelyd wedi 9 Tachwedd, gyda Chymru gyfan yn dilyn yr un set o reolau.

Mae disgwyl y manylion llawn ddydd Llun, ond dywedodd y prif weinidog ei fod yn disgwyl y bydd llefydd fel siopau, bwytai, tafarndai, caffis ac eglwysi'n dal i gael ailagor.

"Mae arian ffyrlo 'da nhw nawr am fis arall, ond mae busnesau eisiau agor, maen nhw eisiau codi arian, maen nhw eisiau rhoi busnesau yn 么l ar eu traed cyn y Nadolig."

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio "gwneud mwy i helpu pobl" wrth lacio cyfyngiadau teithio yng Nghymru ar ddiwedd y clo byr - ond bod Llywodraeth y DU eisoes wedi cadarnhau iddo y byddai'n "anghyfreithlon i bobl o Loegr deithio tu fas i Loegr" yn ystod eu cyfnod clo hwythau.

Dywedodd y byddai'n "anoddach" llacio'r rheolau ar ymweld 芒 thai pobl eraill fodd bynnag.

"Ni'n gwybod dyna ble mae coronafeirws wedi lledaenu dros yr wythnosau yn yr hydref, felly ni'n mynd i feddwl yn ofalus i weld beth allwn ni ddweud i bobl am hynny."

'Colli rheolaeth'

Wrth ymateb ar raglen Politics Wales y 大象传媒 i'r cyhoeddiadau dros y penwythnos, dywedodd yr Aelod Ceidwadol o Senedd Cymru, Andrew RT Davies ei fod yn dal i gredu "nad cyfnod clo yw'r ateb".

"Mae cyfnod clo ond yn cael ei gyflwyno pan mae llywodraethau wedi colli rheolaeth o'r sefyllfa ac mae'n rhaid i ni dderbyn hynny," meddai.

Dywedodd bod yn rhaid dysgu byw gyda'r feirws a "pheidio dinistrio'r economi ac achosi niwed ehangach hefyd", gyda mesurau gwarchod i bobl sy'n fregus a mwy o brofion mewn llefydd sydd yn gweld nifer uchel o achosion, fel ysbytai a phrifysgolion.

Mynnodd hefyd fod Mr Drakeford wedi gweithredu'n "rhy gynnar" wrth gyhoeddi cyfnod clo byr i Gymru pan nad oedd Llywodraeth y DU wedi cadarnhau ar y pryd pa gymorth ariannol fyddai ar gael.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Andrew RT Davies a Cheidwadwyr eraill wedi bod yn beirniadu Mark Drakeford am osod cyfnod clo arall ar Gymru

Dywedodd AS Plaid Cymru, Helen Mary Jones ar y llaw arall ei bod hi'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n llacio'r cyfnod clo yn raddol.

"Dylen ni wneud hynny'n araf a ddylen ni ddim mynd yn 么l i ble roedden ni," meddai.

Ychwanegodd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cadw cyfyngiadau lleol mewn rhai ardaloedd ar 么l y clo byr, er mwyn osgoi dychwelyd i'r un sefyllfa dro ar 么l tro.