'Heriau sylweddol' yn wynebu cwmn茂au ynni gwyrdd
- Cyhoeddwyd
Mae datblygwyr cynlluniau ynni gwyrdd yng Nghymru yn wynebu "heriau sylweddol" wrth geisio cysylltu 芒'r rhwydweithiau p诺er sy'n cyflenwi cartrefi a busnesau.
Dywedodd Renewable UK Cymru y gallai problemau gyda chapasiti'r grid olygu bod y wlad yn methu cyrraedd targedau i leihau allyriadau carbon.
Yn ogystal, maen nhw'n honni bod map o barthau newydd ar gyfer datblygu ffermydd gwynt sydd wedi'i gyhoeddi gan weinidogion yn cynnig "bron dim cyfle o gwbl".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn y broses o lunio fframwaith cenedlaethol sydd 芒'r nod o wella cysylltiadau rhwydweithiau ledled Cymru.
'Gwybod bod y sialens yma'n dod'
Yr wythnos hon mae sydd wedi eu trefnu gan Lywodraeth Cymru yngl欧n 芒 mynd i'r afael 芒 chynhesu byd-eang, yn ystod y cyfnod pan oedd disgwyl i gynhadledd fawr y Cenhedloedd Unedig - COP 21 - gael ei chynnal.
Thema'r sesiynau ddydd Mercher yw sut i drosglwyddo at system ynni carbon isel.
Dywedodd Rhys Wyn Jones, cyfarwyddwr Renewable UK Cymru fod angen mwy o arweiniad gan y llywodraeth, a bod angen i weinidogion fynd "y tu hwnt i gydlynu gweithgarwch" rhwng gwahanol randdeiliaid i ddatrys problemau gyda chapasiti'r grid.
"Yng Nghymru mae llawer o'n haelodau wedi profi heriau sylweddol wrth gyflwyno prosiectau," meddai.
"Rwy'n credu nad oes 'na ddigon wedi'i wneud yngl欧n 芒'r broblem yma eto.
"Mae Llywodraeth Cymru am wresogi a phweru pob cartref newydd o ffynonellau ynni gl芒n erbyn 2025, mae hefyd yn dweud yn ei strategaeth drafnidiaeth y bydd nifer fawr o gerbydau trydan yn rhoi pwysau ar y grid - felly dyw hi ddim fel nad y'n ni'n gwybod bod y sialens yma'n dod."
Yn ddiweddar fe wnaeth y gweinidog tai a llywodraeth leol, Julie James, gydnabod bod 'na broblemau gyda chapasiti llinellau p诺er ledled Cymru, gan ddweud wrth un o bwyllgorau'r Senedd: "Fyddwch chi'n ymwybodol o ba mor wael yw'r grid yn y canolbarth. Wel dyw e ddim yn wych yn y gogledd na'r de chwaith."
Mae 大象传媒 Cymru yn deall bod rhannau o'r wlad - gan gynnwys y canolbarth yn benodol - lle mae'r rhwydweithiau lleol yn orlawn neu'n agos iawn at fod yn llawn, gan olygu bod datblygwyr cynlluniau ynni newydd yn wynebu costau uchel iawn i uwchraddio'r grid cyn gallu cysylltu.
Dywedodd Ynni Ogwen - cwmni ynni cymunedol ym Methesda, Gwynedd - fod y grid yn lleol "o dan lawer o straen".
Yn 么l eu Cadeirydd Gareth Cemlyn Jones "gall arwain at naill ai prosiectau yn methu a chychwyn neu yn cael eu hisraddio fel nad ydyn nhw'n cynhyrchu trydan i'w llawn potensial".
'Angen buddsoddiad pellach'
Mae'r sefyllfa'n gymhleth oherwydd bod grymoedd dros seilwaith y grid wedi eu rhannu rhwng llywodraethau ym Mae Caerdydd a San Steffan, tra bod y rheoleiddiwr ynni OFGEM yn pennu'r swm y gall cwmn茂au sy'n rhedeg rhwydweithiau lleol ei fuddsoddi wrth eu huwchraddio bob blwyddyn.
Dywedodd Western Power Distribution, sy'n cyflenwi de Cymru yn ogystal 芒 de-orllewin Lloegr a chanolbarth Lloegr eu bod wedi ail-lunio eu rhwydwaith dros y degawd diwethaf i ganiat谩u mwy o gysylltiadau ar gyfer ynni adnewyddadwy ond eu bod yn cydnabod bod angen "buddsoddiad pellach" er mwyn sicrhau bod system ynni'r DU yn cael ei ddatgarboneiddio.
Mynnu mae Renewable UK Cymru fod angen i Lywodraeth Cymru lunio cynllun i ddelio 芒'r mater.
Mae'n alwad sydd wedi'i hategu gan lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar newid hinsawdd, Janet Finch-Saunders AS sydd am weld targedau ar gyfer cynyddu capasiti'r grid yng Nghymru.
"Ar 么l 21 mlynedd o ddatganoli, rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi bod yn fwy gweithgar o ran datrys problemau capasiti'r grid oherwydd pam ddylem ni gael ein hamddifadu o allu defnyddio'r technolegau adnewyddadwy newydd yma oherwydd hyn - dyw e ddim yn ddigon da."
5% o'r tir yn addas
Yn y cyfamser, codwyd pryderon hefyd ynghylch Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf a gyhoeddwyd yn ddiweddar dan y teitl - 'Cymru'r Dyfodol'.
Mae'n nodi cyfres o barthau lle hoffai gweinidogion weld ffermydd gwynt ar y tir yn cael eu datblygu i helpu cyrraedd targedau ynni gwyrdd ac atal newid hinsawdd.
Ond daeth dadansoddiad gan Renewable UK Cymru i'r casgliad mai dim ond tua 5% o'r tir yr oedd y llywodraeth wedi'i glustnodi fyddai'n "ddamcaniaethol addas ar gyfer datblygu" a bod hyd yn oed y ffigwr hwnnw'n optimistaidd gan ei fod yn cynnwys ardaloedd nad oedd yn ddigon mawr i gefnogi datblygiadau o arwyddoc芒d cenedlaethol.
Mewn , sy'n trafod y mater yn ddiweddarach yr wythnos hon, disgrifiodd RWE - y cwmni Almaeneg sy'n berchen ar nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy mawr yng Nghymru - y sefyllfa fel un "siomedig".
"Mae'n debygol iawn y bydd y rhan fwyaf o brosiectau gwynt ar y tir ar raddfa fawr yn cael eu cyflwyno y tu allan i'r ardaloedd yma," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae meddylfryd Cymru gyfan yn cael ei ddefnyddio wrth fynd ati i lunio Fframwaith Datblygiad Cenedlaethol fel ein bod yn gallu datblygu polisi rhesymegol i ddatblygiadau, a'r angen i gysylltu rhwydweithiau ledled Cymru.
"Mae'r fframwaith yn ei gwneud yn glir ein bod ar y cyfan yn gefnogol o ddatblygiadau ffermydd gwynt drwy Gymru (ac eithrio Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol).
"Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, y Grid Cenedlaethol a rheolwyr rhwydweithiau rhanbarthol i gynllunio rhwydweithiau ynni ar gyfer yr hir dymor, a lle mae yna gyfle i gyflymu'r broses rydym yn cytuno fod angen cydweithio o'r math yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2020
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2018