Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Merthyr: 'Angen llacio'r cyfnod clo yn raddol'
Mae arweinydd Cyngor Merthyr Tudful wedi galw am lacio cyfyngiadau yn ei ardal yn raddol wrth i'r cyfnod clo byr ddod i ben ddechrau'r wythnos nesaf.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod gan Merthyr y raddfa heintio waethaf yn y DU am bob 100,000 o'r boblogaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin O'Neill ei fod yn credu bod y ffaith fod yr ardal "mor glos yn emosiynol a chorfforol... yn cynorthwyo i ledu'r haint".
Wrth siarad ar raglen Wales Today y 大象传媒, gofynnwyd iddo a oedd yn hapus i weld Merthyr yn dod allan o'r cyfnod clo gyda gweddill y wlad ddydd Llun.
Atebodd: "Rwy'n credu bod angen llacio rhai o'r rheolau yn raddol, ond hefyd mae mwyafrif llethol y cyhoedd wedi cydymffurfio. Maen nhw angen anadlu awyr iach... maen nhw angen lle i symud."
Croesawodd Mr O'Neill ailagor tafarnau a thai bwyta, ond dywedodd fod angen "rheoli hynny gyda mesurau effeithiol gyda'r heddlu a diogelwch cymunedol yn gweithio'n agos gyda'i gilydd i fonitro hynny".