大象传媒

Ofnau y bydd cleifion canser yn marw oherwydd Covid

  • Cyhoeddwyd
An operating theatre in a hospitalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pryderon bod Covid wedi oedi diagnosis a llawdriniaethau clefydau eraill yng Nghymru

Mae yna ofnau y gallai hyd at 2,000 o bobl farw o ganser yng Nghymru oherwydd oedi mewn triniaethau yn sgil haint Covid-19, medd yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Meddygol Rhwydwaith Canser Cymru.

Wrth i'r achosion o'r haint gynyddu, mae'n poeni y bydd yr achosion o ganser a gollwyd yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn anodd i'w trin.

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru y byddai'n 'ff么l' cael cynllun ar gyfer achosion na sydd wedi'u trin cyn bod y pandemig ar ben.

Yn 么l Mr Gething rhaid i Gymru aros nes bod mwy o sicrwydd - ond mae'n cadarnhau bod cynlluniau ar droed gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd i ddelio 芒'r mater.

Mae arbenigwyr iechyd hefyd yn poeni am afiechydon eraill a allai achosi marwolaethau diangen wrth i nifer ddisgwyl am apwyntiadau mewn meddygfeydd.

'Miloedd ddim wedi cael diagnosis'

Wrth siarad 芒'r rhaglen Wales Investigates, dywed yr Athro Tom Crosby bod Covid wedi cael sylw canolog ysbytai ar draul achosion o ganser, clefyd y galon ac apwyntiadau orthopaedig.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Athro Tom Crosby yn poeni y bydd y pandemig yn cael effaith ar wasanaethau canser ymhen dwy neu dair blynedd

"Mae miloedd," meddai, "ddim eto wedi cael diagnosis am nad ydynt wedi mynd at y meddyg oherwydd Covid.

"Ry'n yn amcangyfrif y gallai rhwng 200 a 2,000 o bobl farw yng Nghymru am nad ydynt eto wedi cael diagnosis neu am nad yw'r canser wedi cael ei drin.

"Bydd effaith hyn i gyd i'w ganfod ymhen dwy neu dair blynedd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae ffigyrau gan Brifysgol Abertawe yn dangos bod nifer y llawdriniaethau yng Nghymru wedi gostwng 80% yn Ebrill.

Yn ystod y cyfnod clo, cafodd 62,000 yn llai o gleifion lawdriniaeth yng Nghymru o gymharu 芒'r un cyfnod yn 2019.

'Dim dyfodol oherwydd y cyfnod clo'

Un o'r bobl sydd wedi dioddef wedi i Covid-19 gael gymaint o effaith ar y GIG yw'r athletwr Simon Green, sydd mewn cadair olwyn ac yn cael triniaeth ar gyfer tiwmor sy'n tyfu'n gyflym.

Dechreuodd gael triniaeth ar gyfer tiwmor ddwy flynedd yn 么l, ac roedd yn credu ei fod yn gwella ond ar ddechrau 2020 fe ddechreuodd deimlo'n s芒l eto.

Dywedwyd wrtho ei fod angen sgan MRI a oedd i fod i ddigwydd ym mis Mawrth ond fe gafodd ei ohirio.

Pan gafodd y sgan, ddeufis yn ddiweddarach, fe gafodd y newyddion gwaethaf posib.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yn rhaid i Simon Green aros amser ychwanegol cyn cael sgan ar ei ymennydd

"Fe ddywedon wrthyf bod y tiwmor yn 么l ond yn fwy a'i fod wedi lledaenu drwy'r ymennydd a bod llawdriniaeth yn amhosib," meddai.

"Rwy'n credu petawn wedi cael sgan ym mis Mawrth yn hytrach na mis Mai - byddent wedi dod o hyd i'r tiwmor ynghynt gan ei fod yn tyfu mor gyflym."

Dywed Simon nad yw'n beio'r GIG gan bod y gwasanaeth wedi'i lethu gan ofynion, ond mae'n credu pe na bai wedi gofyn y byddai yn parhau i ddisgwyl am sgan.

"Mae'r cyfnod clo wedi dwyn fy nyfodol i," meddai. "Rwy'n ofnus."

Dywed bwrdd Iechyd Simon, sef Caerdydd a'r Fro, ei bod yn anffodus eu bod wedi gorfod gohirio rhai gwasanaethau oherwydd Covid-19 a bod hynny wedi digwydd wedi cyngor gan Lywodraeth Cymru.

Ond fe wnaethon nhw annog unrhyw un oedd yn teimlo bod eu cyflwr yn gwaethygu i ofyn am gymorth.

'Rhaid oedd gweithredu'

Dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod blaenoriaethu cleifion Covid-19 yn ystod y cyfnod clo y peth iawn i'w wneud, "ond oherwydd y dewisiadau yr ydym wedi gorfod eu gwneud, heb amheuaeth fe fydd yna ganlyniadau gwael.

"A bydd hynny yn golygu y bydd mwy o bobl yn byw ag anabledd y gellid fod wedi ei osgoi ac mae'n anorfod y bydd mwy o bobl, o bosib, yn colli eu bywydau.

"Byddai peidio 芒 gweithredu wedi bod yn gwbl ddinistriol i staff ac nid fyddai cleifion Covid na chleifion eraill wedi gallu cael y gofal priodol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod rhoi blaenoriaeth i gleifion Covid wedi bod y penderfyniad iawn

Ychwanegodd Mr Gething ei bod yn rhy fuan eto i gynllunio ar gyfer gostwng rhestrau aros.

"Rhaid cyrraedd diwedd y pandemig hwn gyda mwy o sicrwydd," meddai.

"Dydyn ni ddim yn gwybod eto beth fydd yn digwydd weddill y gaeaf.

"Byddai cael cynllun ar gyfer beth fydd yn digwydd ym Mehefin y flwyddyn nesaf yn beth ff么l."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Simon Green ei fod eisiau gwneud y mwyaf o'r hyn sy'n weddill o'i fywyd

'Cymaint i'w wneud'

Dyw Simon Green bellach ddim yn cael triniaeth cemotherapi gan fod y driniaeth yn ei wneud mor s芒l. Yn lle hynny mae'n cael triniaeth radiotherapi i roi iddo gymaint o amser 芒 phosib.

Ym mis Hydref fe gwblhaodd ras marathon Llundain rithiol er mwyn codi miloedd o arian i elusen.

"Rwyf am wneud y mwyaf o'r amser sydd gen i'n weddill gan fod yna gymaint i'w wneud," meddai.

Bydd The Hidden Cost of Covid ar 大象传媒 One Wales, nos Lun, 9 Tachwedd am 20:30.