'Rydym eisiau i CPD Wrecsam gael ap锚l yn fyd-eang'
- Cyhoeddwyd
Fe allai Clwb P锚l-droed Wrecsam fod "yn rym byd-eang" yn 么l un o'r s锚r Hollywood sy'n gobeithio prynu'r clwb.
Daeth sylw Ryan Reynolds wrth i yntau a'r actor Rob McElhenney amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer datblygu'r clwb mewn cyfarfod ar-lein gydag aelodau Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam.
Mae'r clwb, sy'n chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol, ym mherchnogaeth yr ymddiriedolaeth ers 2011.
Mae aelodau'n pleidleisio ar y cynnig rhwng dydd Llun a nos Sul, a disgwyl canlyniad ddydd Llun, 16 Tachwedd.
"Dyma'r trydydd clwb hynaf ar y blaned a dydyn ni ddim yn gweld pam na all gael ap锚l fyd-eang," meddai Reynolds yn y cyfarfod.
"Rydym eisiau i Wrecsam fod yn rym byd-eang."
Pedwar egwyddor
Mae'r ddau actor wedi amlinellu gweledigaeth, sy'n cynnwys awydd i "wastad guro" CPD Caer, sef prif elynion Wrecsam.
Y prif nod yw "tyfu'r t卯m, ei ddychwelyd i Gynghrair P锚l-droed Lloegr o flaen torfeydd mwy mewn stadiwm gwell tra'n gwneud gwahaniaeth positif i'r gymuned ehangach yn Wrecsam".
Maen nhw hefyd yn nodi pedwar egwyddor sylfaenol:
"Gwarchod y dreftadaeth sydd wedi gwneud CPD Wrecsam a'r Cae Ras yn le mor arbennig i wylio p锚l-droed am y 156 o flynyddoedd diwethaf";
"Atgyfnerthu gwerthoedd, traddodiadau a gwaddol y gymuned hon";
"Defnyddio ein hadnoddau i gynyddu lefel y sylw i'r clwb";
"Gwobrwyo ffydd cefnogwyr sydd wedi aros gyda CPD Wrecsam... drwy roi popeth sydd gyda ni at yr hyn mae pob cefnogwyr yn dymuno fwyaf i'w clwb sef... ENNILL, ENNILL, ENNILL".
Mae eu datganiad yn s么n am ddatblygu "model gynaliadwy fydd yn denu'r chwaraewyr a'r staff gorau i'r Cae Ras", edrych i'r posibilrwydd o adnewyddu'r safle, a "buddsoddi mewn adnodd hyfforddi parhaol sy'n gweddu Cynghrair Genedlaethol Lloegr".
Maen nhw hefyd yn rhoi addewid i "sicrhau pan ddaw'r dydd inni adael y clwb, y bydd mewn sefyllfa well nag y mae heddiw".
Ychwanegodd Reynolds yn y cyfarfod: "Ein bwriad yw dod yn rhan o stori Wrecsam, yn hytrach nag i Wrecsam ddod yn rhan o'n stori ni."
Dywedodd hefyd, wrth ateb cwestiynau'r cefnogwyr, fod y ddau'n bwriadu gwylio gemau yn y cnawd pan nad yw gwaith yn galw.
Mae cwmni'n actorion, The R.R McReynolds Company, yn cynnig buddsoddi 拢2m yn y clwb petai yna gytundeb i'w werthu.
Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam 芒 thros 2,000 o aelodau ac mae angen i'r cynnig gael ei gymeradwyo yn y bleidlais gan 75% ohonyn nhw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd24 Medi 2020