Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Agor cwest i farwolaeth dyn o Wynedd fu farw mewn afon
Cafodd cwest ei agor i farwolaeth dyn o Wynedd fu farw mewn afon yn Abergwyngregyn ger Bangor fis diwethaf.
Bu farw Alun Owen, 32 oed o Fethesda wrth geisio gosod gwifren ff么n i gwsmer tra'n gweithio fel peiriannydd i Openreach ar 6 Hydref.
Wrth agor y cwest i'w farwolaeth, dywedodd y dirprwy grwner Katie Sutherland fod canlyniadau'r post mortem yn awgrymu fod Mr Owen wedi boddi.
Cafodd y cwest ei ohirio tra bod ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru a'r Gwethgor Iechyd a Diogelwch yn cael ei gynnal.
Dywedodd teulu Mr Owen yn dilyn y farwolaeth bod "dim geiriau i ddisgrifio'r boen o golli Al", a'u bod nhw'n "hollol dorcalonnus, a'n brwydro i geisio gwneud synnwyr o ddigwyddiadau trasig y diwrnod yna".