Galw am sicrwydd ynghylch llwyth gwaith athrawon

Ffynhonnell y llun, PA

  • Awdur, Geraint Thomas
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae undeb addysg yn gofyn am sicrwydd na fydd llwyth gwaith athrawon yn cynyddu ar 么l i arholiadau TGAU, AS a Safon Uwch Cymru yn haf 2021 gael eu canslo.

Ddydd Mawrth, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams, y bydd asesiadau'n cael eu cynnal o dan oruchwyliaeth athrawon, gan ddechrau yn ail hanner tymor y gwanwyn.

Byddan nhw'n cael eu gosod a'u marcio'n allanol ond yn cael eu darparu yn yr ystafell ddosbarth.

Mae undeb NASUWT Cymru yn "croesawu'r penderfyniad" ond yn rhybuddio na ellir disgwyl i athrawon "ystyried, paratoi, asesu, safoni a chymedroli" y system gymwysterau newydd.

Wrth siarad ar ran yr undeb, dywedodd Sion Amlyn ei bod yn hanfodol bod cymaint o'r llwyth gwaith yn cael ei dynnu oddi ar yr athrawon 芒 phosibl.

"Mae cwestiynau o hyd o ran beth yn union fydd y mecanwaith," meddai.

"Pan 'dach chi'n ystyried be ma' pawb wedi bod drwyddi yn ddiweddar a pan 'dach chi'n ystyried hynny mewn cyd-destun ysgol, plant efallai mewn ac allan o'r sefydliad am gyfnodau hir ar y tro, ma'n aelodau ni'n dweud eu bod nhw'n cael trafferth mawr cwblhau'r gwaith.

"'Dan ni'n gofidio bydd y drefn newydd yma yn drwm ar lwyth gwaith. Felly mae'n bwysig, beth bynnag fydd y mecanwaith, bod yr asesu, y cymedroli a'r safoni yn digwydd gan CBAC neu le bynnag, a fydd hwnna'n rhyddhau'r athrawon i ymgymryd 芒'r gwaith paratoi'r disgyblion."

Ond ychwanegodd Mr Amlyn ei bod yn fuddiol bod penderfyniad wedi bod fel y gall athrawon gynllunio ymlaen llaw.

Dywedodd Kirsty Williams y byddai canslo arholiadau yn rhoi amser i addysgu barhau drwy dymor yr haf gan ychwanegu y byddai gan athrawon hyblygrwydd o ran pryd i gynnal yr asesiadau, yng nghyd-destun amserlenni canlyniadau.