´óÏó´«Ã½

Cefnogwyr Wrecsam i werthu'r clwb i ddau seren Hollywood

  • Cyhoeddwyd
Ryan Reynolds a Rob McElhenney
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ryan Reynolds a Rob McElhenney eu bod "yn deall a pharchu'r teyrngarwch cryf a'r cariad at y clwb yma"

Mae cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi pleidleisio o blaid rhoi'r clwb yn nwylo dau o sêr Hollywood.

Pleidleisiodd 98% o aelodau ymddiriedolaeth y cefnogwyr - dros 1,800 - o blaid trosglwyddo'r awenau i Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Er mwyn i'r penderfyniad gael ei gymeradwyo, roedd yn rhaid i 75% o'r aelodau bleidleisio o blaid y cynnig.

Fe wnaeth 91.5% o aelodau gymryd rhan yn y bleidlais.

Yn gynharach yn y mis, dywedodd Ryan Reynolds y gallai'r clwb - sy'n chwarae yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr - fod "yn rym byd-eang".

Mae cwmni'r actorion, The R.R McReynolds Company, wedi cynnig buddsoddi £2m yn y clwb.

Dywed Bwrdd yr Ymddiriedolaeth y bydd y broses o roi perchnogaeth lawn o'r clwb i'r cwmni yn dechrau nawr ac y bydd cefnogwyr yn cael mwy o fanylion yn fuan.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Y weledigaeth

Dywedodd y ddau actor fod "trechu" CPD Caer, sef prif elynion Wrecsam, yn rhan o'u gweledigaeth.

Ond y brif nod ydy "tyfu'r tîm, ei ddychwelyd i Gynghrair Pêl-droed Lloegr o flaen torfeydd mwy mewn stadiwm gwell tra'n gwneud gwahaniaeth positif i'r gymuned ehangach yn Wrecsam".

Maen nhw hefyd yn nodi pedair egwyddor sylfaenol:

  • Gwarchod y dreftadaeth sydd wedi gwneud CPD Wrecsam a'r Cae Ras yn le mor arbennig i wylio pêl-droed am y 156 o flynyddoedd diwethaf;

  • Atgyfnerthu gwerthoedd, traddodiadau a gwaddol y gymuned;

  • Defnyddio eu hadnoddau i gynyddu lefel y sylw i'r clwb;

  • Gwobrwyo ffydd cefnogwyr sydd wedi aros gyda CPD Wrecsam... drwy roi popeth "sydd gyda nhw at yr hyn mae pob cefnogwyr yn dymuno fwyaf i'w clwb sef... ENNILL, ENNILL, ENNILL".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cefnogwyr Wrecsam wedi bod yn berchen ar y clwb ers 2011

Mae eu datganiad yn sôn am ddatblygu "model cynaliadwy fydd yn denu'r chwaraewyr a'r staff gorau i'r Cae Ras", edrych i'r posibilrwydd o adnewyddu'r safle, a "buddsoddi mewn adnodd hyfforddi parhaol sy'n gweddu i Gynghrair Genedlaethol Lloegr".

Maen nhw hefyd yn rhoi addewid i "sicrhau pan ddaw'r dydd inni adael y clwb, y bydd mewn sefyllfa well nag y mae heddiw".

Ychwanegodd Reynolds yn y cyfarfod rithiol ar ddechrau'r mis: "Ein bwriad yw dod yn rhan o stori Wrecsam, yn hytrach nag i Wrecsam ddod yn rhan o'n stori ni."

Dywedodd hefyd, wrth ateb cwestiynau'r cefnogwyr, fod y ddau yn bwriadu gwylio gemau yn y cnawd pan nad yw gwaith yn galw.

Y cefnogwyr yn 'breuddwydio' eto

Cyrhaeddodd Gareth Jones dafarn y Turf ger y Cae Ras am beint i ddathlu'r newyddion ddydd Llun - ar gefn sgwter yn lliwiau'r clwb.

"Mae'n freuddwyd yn dydi? Mae 'na gymaint o fan base yma yn Wrecsam a dwi'n gobeithio rŵan neith hwn ddod â phawb at ei gilydd ac y cawn ni eu bacio nhw a gweld lle mae'n ein cymryd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Waynne Phillips (canol) yn rhan o'r tîm drechodd Arsenal yng Nghwpan yr FA yn 1992 - un o fuddugoliaethau mwyaf hanesyddol Wrecsam

Roedd y ffotograffydd Alun Roberts, sydd hefyd yn mynychu gemau, yn tynnu lluniau o'r cyhoeddiad ar gyfer papur lleol.

"'Dan ni ddim yn gwybod lle mae'n mynd i'n cymeryd ni, ond mae'n siŵr mai'r unig ffordd yw i fyny," meddai.

"Mae pobl yn breuddwydio am lle byddan ni mewn pum neu 10 mlynedd!"

Dywedodd cyn-chwaraewr y clwb, Waynne Phillips: "Dwi'n excited am beth sydd i ddod, gobeithio, yn y blynyddoedd nesaf.

"Os ti'n edrych yn ôl ar y timau sydd wedi llwyddo yn y Gynghrair Genedlaethol, maen nhw i gyd wedi cael dynion tu ôl iddyn nhw efo ychydig bach o arian.

"Mae hynny yn mynd i fod yn help a dyna beth sydd ei angen ar Wrecsam."

Cafodd CPD Wrecsam ei ffurfio yn 1864 ac maen nhw wedi bod yn chwarae tu allan i brif gynghreiriau pêl-droed Lloegr - yn y bumed haen - ers disgyn o'r Ail Adran yn 2008.