Dileu grant ynni hydro yn benderfyniad 'bis芒r'
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n cynrychioli busnesau ynni hydro bach wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o gefnu ar y sector ar 么l iddi ddod i'r amlwg y bydd grant allweddol yn cael ei ddileu.
Rhybuddiodd y British Hydropower Association (BHA) y byddai rhai pwerdai hydro yn rhoi'r gorau i gynhyrchu trydan o ganlyniad.
Galwodd Plaid Cymru ar i'r llywodraeth ailystyried, gan alw'r penderfyniad yn un "bis芒r".
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod pwysau'r pandemig ar gyllidebau wedi arwain at benderfyniadau anodd.
Mynnodd nad oedd wedi gweld unrhyw dystiolaeth hyd yma y byddai pwerdai yn stopio cynhyrchu.
Mae gwreiddiau'r ffrae yn y modd y cafodd trethi busnesau eu hailasesu ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban yn 2017 gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, gyda chynlluniau hydro wedi'u taro'n arbennig o galed.
Gwelodd rai gynnydd yn eu trethi o hyd at 1,000% - hyd nes bod yr holl elw yr oedden nhw'n ei wneud wrth gynhyrchu trydan yn mynd at dalu eu bil trethi busnes.
Fe arweiniodd y sefyllfa at gyflwyno grant lliniaru trethi busnes ar gyfer y sector hydro gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig ad-dalu rhai o'r costau.
Bellach, mae'r BHA wedi clywed mai ond cynlluniau hydro cymunedol fydd yn cael ceisio am y gefnogaeth o fis Ebrill ymlaen.
Mae 'na saith cynllun cymunedol yn elwa o'r grant ar hyn o bryd, o'i gymharu 芒 50 o brosiectau hydro bach sydd yn nwylo ffermwyr neu dirfeddianwyr.
Yn 么l Simon Hamlyn, prif weithredwr y BHA, dyw penderfyniad y llywodraeth yn gwneud "dim sens o gwbl", gan eu cyhuddo o "annog rhaniadau".
"Fe fydd 'na fusnesau hydro fydd yn dweud nawr 'pam ar y ddaear y dylwn i barhau i gynhyrchu trydan jest er mwyn talu fy nhrethi busnes?'"
Mae'n rhagweld y bydd nifer yn rhoi'r gorau iddi, neu'n gwerthu eu pwerdai i "dai ecwiti preifat yn Llundain gan olygu bod y berchnogaeth leol yn cael ei golli".
"Mi fyddai hynny yn drasiedi llwyr i ynni hydro yng Nghymru," meddai.
Fe honnodd bod cynnig gan y BHA, fyddai wedi arbed oddeutu 拢140,000 i'r llywodraeth o ran cost gweinyddu'r cynllun, wedi cael ei anwybyddu.
Mae 'na alwadau wedi bod am ddatrysiad hir dymor i'r problemau achoswyd gan y cynnydd mewn trethi busnes a fe gomisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar y pwnc yn 2018.
Daeth i'r casgliad bod angen cyflwyno model gwahanol ar gyfer y sector - Asesiad Rhagnodedig - sef nodi swm i'w dalu am bob megawat awr o drydan sy'n cael ei gynhyrchu.
Ond hyd yma dyw'r llywodraeth heb fwrw ati gyda'r argymhelliad.
Dywedodd awdur yr adroddiad, y syrf毛wr siartredig ac arbenigwr ynni hydro Ed Bailey, wrth 大象传媒 Cymru ei fod yn teimlo "mwy na siom".
"Dwi'n flin iawn - maen nhw wedi cefnu ar y sector i ryw raddau, a dwi ddim yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi deall yn iawn faint o niwed fydd hyn yn ei wneud."
Mae gan Lywodraeth Cymru darged i sicrhau bod 1GW o drydan yn cael ei gynhyrchu o brosiectau sydd wedi'u perchnogi'n lleol erbyn 2030, a mae am weld 70% o anghenion trydan y wlad yn deillio o ffynonellau gwyrdd erbyn yr un flwyddyn.
Dywedodd Llyr Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru ar yr amgylchedd yn y Senedd, fod cael gwared ar y grantiau i'r mwyafrif llethol o gynlluniau hydro yn "annerbyniol".
"Mae ganddon ni sefyllfa eitha' bis芒r ar hyn o bryd a dweud y gwir," meddai, "lle mae ganddon ni lywodraeth sydd ar yr un llaw wedi datgan argyfwng hinsawdd a dweud ei bod eisiau tyfu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru... ond ar y llaw arall yn gweithredu mewn ffordd sy'n tanseilio rhan bwysig o'r sector ynni adnewyddadwy sydd ganddon ni yng Nghymru ac yn gwneud cyrraedd y nod yna yn llai tebygol."
"Yn fwy na hynny, maen nhw wedi gwrthod y cyfaddawd mae'r sector wedi ei gynnig iddyn nhw a hefyd mae'n nhw'n anwybyddu adroddiad mae'r llywodraeth ei hun wedi'i gomisiynu sy'n cynnig datrysiad hir dymor."
Beth ddywedodd y llywodraeth?
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod dros hanner anghenion trydan y wlad wedi'u cyflenwi drwy ynni adnewyddadwy erbyn hyn.
"Mae hynny'n cynnwys cyfraniad o 2% gan 363 o brosiectau ynni hydro Cymru," meddai.
"Ry'n ni hefyd 83% o'r ffordd tuag at gyrraedd ein targed o sicrhau bod 1GW o brosiectau ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol erbyn 2030 - gyda 825MW o gapasiti bellach mewn perchnogaeth leol."
"Mae'r cynllun cymorth y gwnaethon ni ei gyflwyno yn 2018 wedi cyfrannu mwy na 拢1m mewn cefnogaeth ar gyfer y sector.
"Ry'n ni wedi gweithio yn agos gyda'r British Hydropower Association i liniaru effaith ailasesiad trethi busnes 2017 ar y sector, a byddwn yn ystyried opsiynau ar gyfer cymorth tymor hir ar gyfer ynni hydro a technolegau adnewyddadwy eraill pan fydd yr asesiad nesa'n digwydd.
"Mae effaith Covid 19 wedi rhoi pwysau digynsail ar gyllidebau a phenderfyniadau anodd wedi angen ei gwneud o ran ble i flaenoriaethu cymorth yn y dyfodol.
"Hyd yma dy'n ni heb weld unrhyw dystiolaeth o brosiectau ynni hydro yn rhoi'r gorau i gynhyrchu oherwydd costau anghynaladwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2017
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2016