Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Deyah yn ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020
Mae'r rapiwr o Gaerdydd, Deyah wedi cael ei chyhoeddi fel enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020.
Cafodd ei halbwm, Care City, ei gyhoeddi fel yr enillydd mewn seremoni ddigidol nos Iau, oedd yn cynnwys ymddangosiad gan y seren Hollywood, Michael Sheen.
Cafodd y rhestr fer o 15 albwm ei gyhoeddi fis diwethaf, gan gynnwys artistiaid fel Ani Glass, Gruff Rhys, Georgia Ruth, Colorama ac Yr Ods.
Dyma'r degfed tro i'r wobr gael ei rhoi, a'r llynedd y band Adwaith enillodd y wobr gyda'r albwm Melyn.
Cafodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ei sefydlu yn 2011 gan y cyflwynydd Huw Stephens a'r ymgynghorwr cerddoriaeth John Rostron, gyda phanel o farnwyr arbenigol o'r diwydiant yn dewis yr enillydd.
Y rhestr fer
- Ani Glass - Mirores
- Colorama - Chaos Wonderland
- Cotton Wolf - Ofni
- Deyah - Care City
- Don Leisure - Steel Sakuzki
- Georgia Ruth - Mai
- Gruff Rhys - Pang!
- Islet - Eyelet
- Keys - Bring Me The Head of Jerry Garcia
- Kidsmoke - A Vision In The Dark
- Los Blancos - Sbwriel Gwyn
- Luke RV - Valley Boy
- Right Hand Left Hand - Zone Rouge
- Silent Forum - Everything Solved at Once
- Yr Ods - Iaith y Nefoedd