Ysgolion: Gwisgo masg 'ym mhobman heblaw'r dosbarth'
- Cyhoeddwyd
Fe fydd yn rhaid i ddisgyblion a staff ysgolion uwchradd wisgo gorchudd wyneb ym mhobman tu fas i'r stafell ddosbarth, gan gynnwys iard yr ysgol.
Mae'n rhan o ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru i ysgolion a cholegau wrth geisio rheoli achosion coronafeirws.
Mae'r rhan fwyaf o gynghorau eisoes yn ei gwneud yn ofynnol, neu'n argymell yn gryf, bod pawb yn gwisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd fel coridorau.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams bod y canllawiau yn dilyn y cyngor gwyddonol.
Yn 么l y canllawiau dylid gwisgo gorchuddion wyneb:
Ym mhob ardal y tu allan i'r ystafell ddosbarth gan staff a dysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau;
Ar gludiant penodol i'r ysgol a'r coleg i ddysgwyr ym Mlwyddyn 7 ac i fyny;
Gan ymwelwyr i ysgol a choleg, gan gynnwys rhieni a gofalwyr yn gollwng ac yn casglu plant
Mae'r canllawiau newydd yn dilyn cyngor gwyddonol ar effaith coronafeirws ar blant a phobl ifanc sydd yn dweud bod yna lefelau uwch o'r feirws ymhlith plant oed ysgol "na'r hyn a welwyd yn flaenorol".
Dywedodd Kirsty Williams: "Mae'n hanfodol bod pobl ifanc, rhieni, oedolion a'r gweithlu yn teimlo'n hyderus bod yr holl fesurau'n cael eu cymryd i sicrhau bod yr amgylcheddau addysgol mor ddiogel 芒 phosibl"
"Rydym wedi bod yn glir y byddwn yn parhau i adolygu pob polisi a byddwn yn parhau i ddilyn cyngor gwyddonol.
"Dyna'n union yw'r polisi yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw."
Yn Yr Alban, mae gofyn i bobl ifanc 16 ac 17 oed mewn rhai ardaloedd i wisgo gorchuddion wyneb yn y dosbarth.
Ond dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi newid y rheolau o fewn yr ystafell ddosbarth.
Dywedodd y llywodraeth bod rhaid "cydbwyso'r budd ymylol y gellir ei gael drwy ddefnyddio gorchuddion wyneb 芒'r effaith negyddol debygol ar y profiad dysgu, gan gynnwys clywed a chyfathrebu".
Profiad un ysgol
Ymwelodd 大象传媒 Cymru ag ysgol 3-16 oed ym Mlaenau Gwent cyn cyhoeddiad diweddaraf y Gweinidog Addysg, i drafod y sefyllfa hyd yma wrth i'r gorchmynion newid o ran gorchuddio'r wyneb mewn ysgolion.
N么l ym mis Medi, ar ddechrau'r tymor, doedd dim rhaid gorchuddio'r wyneb.
Wrth i nifer achosion coronafeirws godi ym Mlaenau Gwent, penderfynodd yr awdurdod addysg bod angen gwisgo mygydau mewn mannau torfol fel coridorau wrth symud o ddosbarth i ddosbarth, ac wrth fynd am egwyl neu ginio.
Ddechrau'r tymor, medd Tamsin - disgybl 13 oed yng Nghymuned Ddysgu Ebwy Fawr - "o'dd fi jyst yn gwisgo masgs rownd y corridors ond nawr ni eisiau gwisgo nhw yn y dosbarth cyn i ni gadael a pryd ni'n mynd i mewn i'r dosbarth".
Mae hi'n berffaith fodlon gyda'r drefn honno, er mwyn diogelu iechyd pawb yn yr ysgol, er bod "pobl yn ffeindo fe'n anodd" ar brydiau.
Ond mae'n ansicr a ddylid ystyried eu gorfodi yn yr ystafell ddosbarth, gan ofni na fydd athrawon yn gallu clywed disgyblion sy'n tueddu i siarad yn dawel.
'Bron 100% yn gwisgo mwgwd'
Dywedodd pennaeth Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr, Huw Lloyd ei fod yn croesawu canllawiau sy'n berthnasol i bob ysgol yng Nghymru.
"Ar y foment, [Cyngor Sir] Blaenau Gwent a ni fel ysgol sy'n gweud bod e'n orfodol, ond tase fo'n dod gan y llywodraeth, yn sicr bydde fe'n help," meddai.
"Dwi'n si诺r [os] bydde'r llywodraeth yn cyhoeddi... bod tystiolaeth tu 么l iddo fe, wneith hwnna gwahaniaeth i'r canran bach sydd ar 么l sy'n gwrthod eu gwisgo nhw."
"Ar y dechre, byddwn i'n gweud o'dd 50% o'r plant yn gwisgo. O'dd lot o brobleme yn y dechre yn ca'l y plant i'w gwisgo a rhieni yn gwrthod ac yn y blaen.
"Ond fel mae amser wedi mynd yn ei flaen, byddwn i'n gweud erbyn hyn bron bod 100% o'r plant yn gwisgo'r mygyde.
"Mae dal un neu ddou o rieni yn gwrthod gad'el i'w plant wishgo mygyde a ma' hwnna'n achosi probleme gyda plant erill ac athrawon, achos does dim rhesymeg tu h么l i'w dadl nhw."
Mae'n credu y byddai 'na gefnogaeth yn gyffredinol i ymestyn y rheol gwisgo masgiau, ar sail diogelu iechyd disgyblion a staff, petai'r dystiolaeth yn awgrymu'r angen.
Gan bwysleisio'r angen am gydbwysedd rhwng ffactorau iechyd a diogelwch a'r effaith botensial ar addysg disgyblion, mae'n ansicr ynghylch mynd gam ymhellach a gorfodi'r defnydd o fygydau yn y dosbarth.
"Ma' fe'n gallu bod yn claustrophobic," meddai.
"Ar 么l rhyw 10 munud, chwarter awr dwi'n gorfod mynd tu fas i'r drws i dynnu fe bant ac i gael awyr iach, felly dwi ddim yn credu bod gorfodi plant i wisgo nhw am bump awr y diwrnod yn rywbeth rhesymol."
Mae Huw Lloyd o blaid cynnal profion torfol o fewn ysgolion, gan y byddai'n osgoi ansicrwydd y misoedd dwytha' pwy yn union oedd wedi'u heintio a'r angen i nifer fawr o bobl hunan-ynysu.
"Byddwn i yn sicr i blaid rhywbeth fel 'na'n digwydd. Ond yn ymarferol, shwt y'n ni'n testio mil o blant - a mae dros 100 o athrawon yma - yn ddigon rheolaidd heb fod e'n amharu ar eu haddysg nhw?"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2020