Galw am wirfoddolwyr i helpu rhandir cymunedol

Ffynhonnell y llun, Rhandiroedd Bangor

Disgrifiad o'r llun, Criw Rhandiroedd Bangor wedi bod wrthi yn paratoi'r safle ar gyfer y gwaith planu

Bydd gan bobl Bangor gyfle ddydd Sul i gymryd rhan yn y gwaith o blannu coed a gwrychoedd mewn rhandir cymunedol mewn cynllun newydd ar gyrion y ddinas.

Fe wnaeth y cynllun sicrhau dros 拢10,000 gan Lywodraeth Cymru i greu perllan gymunedol ac o leiaf 30 o randiroedd unigol i'r gymuned leol dyfu bwyd ffres.

Mae prosiect Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn Nantporth ger cae p锚l-droed y ddinas yn un o 25 o berllannau cymunedol newydd ledled Cymru.

Mae'r gwaith o baratoi'r safle wedi dechrau, gan gynnwys creu ardaloedd penodol i baratoi'r tir a phlannu.

Dydd Sul fydd y cyfle cyntaf i blannu gyda gwahoddiad i wirfoddolwyr roi help llaw.

Oherwydd mesurau pellahau cymdeithasol bydd yn rhaid er mwy rhoi help llaw.

Ffynhonnell y llun, Mair Rowlands

Disgrifiad o'r llun, Dywed y cynghorydd Mair Rowlands fod y gymuned wedi gweithio'n galed er mwyn sicrhau'r arian

"Mae hyn yn newyddion gwych i'r gymuned, yn enwedig gan fod y gwirfoddolwyr o Randiroedd Nantporth, gyda chymorth gennym ni fel cynghorwyr, wedi gwneud cais am nifer o gyllidebau ariannu, heb lwyddiant yn y gorffennol," meddai'r cynghorydd sir Mair Rowlands.

Derbyniodd Rhandiroedd Nantporth Allotments CIO ganiat芒d cynllunio gan Gyngor Gwynedd perchennog y safle, yn dilyn ap锚l codi arian llwyddiannus ymhlith cefnogwyr y gr诺p.

Mae'r awdurdod lleol wedi cytuno i ddarparu'r brydles ar gyfer y cyn dir amaethyddol ar Ffordd Caergybi.

"Mae hi wedi bod yn daith hir ceisio gwthio'r datblygiad yma yn ei flaen, ac rydym bellach wedi cyrraedd carreg filltir bwysig, lle byddwn yn gweld gweithredu a chynnydd yn digwydd ar y safle," meddai'r cynghorydd sir Elin Walker Jones.

Ffynhonnell y llun, Elin

Disgrifiad o'r llun, Elin Walker Jones: 'Wedi cyrraedd carreg filltir bwysig'

Mae'r gwaith, gaiff ei ariannu gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, yn cynnwys prynu coed ffrwythau, planhigion ar gyfer creu gwrychoedd, sied bwrpasol i storio offer ynghyd 芒 thoiled compost sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.

Yn 么l Gwen Thomas, aelod o'r pwyllgor sydd wedi bod yn allweddol wrth symud y prosiect yn ei flaen: "Mae'r gwaith rydym wedi ei wneud gyda'r cynllun wedi bod yn mynd rhagddo ers blynyddoedd ac mae awydd gwirioneddol am lecyn gwyrdd lle gall pobl gymdeithasu o bell, ymarfer corff yn yr awyr iach a thyfu bwyd cynaliadwy.

Dywedodd Lisa Mundle, Cyfarwyddwr Rhandiroedd Nantporth: "Dwi mor falch ac mor gyffrous bod y freuddwyd hon bellach yn dod yn realiti ar 么l yr holl flynyddoedd.

"Dwi'n sicr y bydd yn lleoliad all wella gwytnwch ein cymuned leol yn fawr, o gofio'r profiadau rydym wedi eu profi dros y misoedd diwethaf.