大象传媒

Adolygiad gwariant: 'Arbed, nid gwario yw'r nod tebygol'

  • Cyhoeddwyd
arianFfynhonnell y llun, PA

Ddydd Mercher fe fydd Canghellor y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak yn cyhoeddi faint o arian fydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus am y flwyddyn nesaf.

Bydd yr adolygiad gwariant hefyd yn dynodi faint o arian fydd ar gael i lywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ond oherwydd effaith y pandemig, a'r ansicrwydd yngl欧n 芒 Brexit mae'r cefndir economaidd yn un anodd.

Mae'n bur debyg mai arbed, nid gwario fydd prif nod y canghellor.

Y disgwyl yw mai un o'r arbedion mwyaf fydd i rewi cyflogau gweithwyr yn y sector gyhoeddus. Mae'n annhebyg o gynnwys gweithwyr rheng flaen y gwasanaeth iechyd, ond fe fydd yn dal i effeithio ar filoedd o bobl yng Nghymru.

'Angen tyfu'r economi'

"Nid nawr yw'r amser i dorri" yn 么l Aelod Seneddol Llafur Llanelli, Nia Griffith.

"Mae sefyllfa ddifrifol iawn gennym ni ar hyn o bryd," meddai, "ond beth sydd eisiau gyda'r Canghellor nawr ydy creu twf yn yr economi.

"Wrth gwrs bydd amser wedyn yn y dyfodol i dalu yn 么l. Mae'n bwysig ei fod yn cydnabod, nid nawr yw'r amser i dorri lawr. Nawr yw'r amser i roi mwy o arian i'r economi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Ben Lake, AS Plaid Cymru dros Geredigion yn gobeithio na fydd y fwyell yn taro'r Gronfa Ffyniant Gyffredin - y gronfa sydd i fod i ddisodli cymorth ariannol Ewropeaidd.

"Mi gafodd Cymru nifer o addewidion na fydden ni'n derbyn unrhyw beth yn llai na beth oeddem ni dan y gyfundrefn Ewropeaidd," meddai.

"Felly fydden i'n awyddus iawn i weld bod y llywodraeth yn cadw at eu gair yn hynny o beth, a bod unrhyw arian sy'n dod fel rhan o'r gronfa yna, wir yn ychwanegol."

Gobaith AS Preseli Penfro, Stephen Crabb yw y bydd yna arian i gadw'r cynnydd o 拢20 yr wythnos a roddwyd i bobl sy'n derbyn taliadau Credyd Cynhwysol ar ddechrau'r pandemig.

"Mae'r syniad y byddem ni nawr yn cael gwared 芒'r cynnydd yma o 拢20 i'r Credyd Cynhwysol fis Mawrth nesaf, mewn cyfnod pan fo llawer o deuluoedd yn dal i wynebu cynnydd mewn diweithdra, mae hynny i mi allan o'r cwestiwn."

Ffynhonnell y llun, HM Treasury
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Rishi Sunak yn manylu ar ddifrifoldeb effeithiau'r pandemig ar yr economi

Mae'r canghellor yn mynnu "na fydd yna gynni ariannol".

"Beth welwch chi fydd cynnydd yng ngwariant y llywodraeth, ar wasanaethau cyhoeddus ddydd i ddydd," meddai Mr Sunak.

Mae'n bur debyg y bydd llawer o'r gwariant yma ar wasanaethau yn Lloegr.

Er os oes yna unrhyw wariant newydd ar y gwasanaeth iechyd ac addysg yn Lloegr, yna fe fydd yn arwain at fwy o arian i Lywodraeth Cymru hefyd, i wario ar eu blaenoriaethau nhw.

Ond mae Mr Sunak wedi rhybuddio y bydd yr adolygiad gwariant yn rhoi darlun clir o'r "sioc economaidd" sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r pandemig.

Mae rhagolygon economaidd diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn debygol o fod yn frawychus.

Erbyn diwedd y flwyddyn hon mae disgwyl i'r economi fod 10% yn llai na chyn y pandemig, a'r disgwyl yw y bydden nhw wedi benthyg mwy na 拢370bn cyn diwedd y flwyddyn.

Mae hynny yn rhoi dewis anodd i'r canghellor yn y blynyddoedd nesaf - sut yn union mae talu am hyn oll?

Fydd o'n torri gwariant ymhellach, codi trethi, neu dal ati i fenthyg mwy? Ond penderfyniad ar gyfer y gyllideb nesaf fydd hynny.