Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Nigel Owens yn paratoi ar gyfer g锚m brawf rhif 100
Nigel Owens fydd y dyfarnwr cyntaf erioed i ddyfarnu 100 o gemau prawf pan fydd yn cymryd i'r cae yn y g锚m rhwng Ffrainc a'r Eidal yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref ddydd Sadwrn.
Fe fydd yr achlysur yn garreg filltir arall o nod yng ngyrfa lwyddiannus Owens wnaeth ddyfarnu ffeinal Cwpan Rygbi'r Byd yn 2015, ynghyd 芒 nifer o gemau terfynol Ewropeaidd.
Mae'n bosib hefyd mae'r g锚m ym Mharis heno fydd yr olaf yn ei yrfa ryngwladol, gyda'r dyfarnwr 49 oed eisoes wedi cyhoeddi ei fod yn fwriad ganddo ymddeol diwedd y tymor.
"Dwi byth wedi dyfarnu i gael cyrraedd rhifau arbennig yn y g锚m," meddai wrth raglen Post Cyntaf y 大象传媒.
"Ond pan y chi yn dod at ddiwedd eich gyrfa ac ar 么l y Chwe Gwlad y llynedd o ni wedi dyfarnu 98 g锚m ac mae dwy g锚m arall a dwi wedi cyrraedd y 100," meddai.
"Ac maen rhywbeth chi'n ymwybodol ohono a rhywbeth fydda chi'n hoffi ei wneud.
"Mae yn deimlad arbennig a rhywbeth fyddai'n edrych yn 么l arno yn browd iawn yn y blynyddoedd i ddod."
Fe wnaeth Owens ddyfarnu ei g锚m brawf gyntaf yn 2003 yn y g锚m rhwng Portiwgal a Georgia.
"Falle taw hon fydd y g锚m olaf mae'n dibynnu.
"Fe hoffwn i orffen dyfarnu yn y Chwe Gwlad eleni - lle dechreuodd o gyd blynyddoedd mawr yn 么l ar lefel y Chwe Gwald.
"Ond bydd y penderfyniad yna yn cael ei wneud gan bwy fydd yn rhedeg y dyfarnwyr yn Rygbi'r Byd - felly mae hwnna mas o'n ddwylo i.
"Rwy'n gobeithio mai hynny fydd yn digwydd ond bydd rhaid aros i weld."