Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Covid: Nyrs yn benderfynol o atal newyddion ffug
Mae nyrs o Gasnewydd gafodd ei heintio 芒 coronafeirws, yn dweud ei fod e'n benderfynol o addysgu pobl sy'n gwrthod derbyn fod y feirws yn bodoli.
Roedd Jamie Branagan, sy'n 52 oed, yn gweithio mewn cartref gofal pan ddaliodd yr haint ym mis Ebrill.
Bu mewn coma am fis, cafodd ataliad ar y galon fe fethodd ei arennau a'i ysgyfaint.
Dywedodd ei bod yn debygol na fydd yn gallu gweithio eto a'i nod erbyn hyn yw atal marwolaethau o ganlyniad i'r haint.
Mae o am weld mwy yn cael ei wneud i fynd i'r afael 芒 phobl sy'n dosbarthu gwybodaeth ffug am y clefyd.
Yn ddiweddar fe wnaeth gweinidog iechyd Cymru Vaughan Gething feirniadau taflenni sy'n lledaenu honiadau ffug am Covid-19 gafodd eu dosbarthu yn Sir Benfro.
Mae Mr Branagan yn nyrs iechyd meddwl, ac yn 2012 roedd yn gweithio yn ardal Casnewydd yn goruchwylio tai gofal.
Ond pan ddaeth y pandemig ddechrau'r flwyddyn, penderfynodd fynd i weithio i asiantaeth fel nyrs er mwyn bod ar y rheng flaen.
Ar 么l cael ei heintio dywedodd ei fod wedi gorfod ailddysgu "sut i gerdded, siarad a sut i fwyta"
Dywedodd ei fod nawr ond yn gallu gwneud 20% o'r hyn oedd yn bosib cyn y salwch.