大象传媒

Ateb y Galw: Y cyflwynydd Alex Humphreys

  • Cyhoeddwyd
Alex Humphreys

Y cyflwynydd Alex Humphreys sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Meilyr Emrys yr wythnos diwethaf.

Alex yw aelod diweddaraf t卯m Tywydd S4C, ond cyn hynny, buodd hi'n cyflwyno'r rhaglen newyddion i blant, Ffeil, am chwe blynedd. Mae hi hefyd yn gyfarwydd fel cyflwynydd y rhaglen newyddion i ddysgwyr, Yr Wythnos, Band Cymru, a Newsround.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae gennai atgof cynnar o Mam yn ceisio canu fi i gysgu gyda hwiangerddi pan o'n i'n blentyn bach. Os o'n i ddim yn hoffi be' oedd hi'n canu, fyswn i'n gwneud synau tan iddi newid y g芒n, a dwi'n cofio clywed ei rhwystredigaeth achos roedd hi'n rhedeg allan o ganeuon - o'n i mor ffysi! Fy hoff g芒n oedd The Runaway Train.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Yn gwylio The Lion King rai misoedd n么l. Dyma fy hoff ffilm Disney ond (spoiler alert...) mae'n dorcalonnus pan mae Muffasa'n marw, ac eto pan mae Simba'n gweld adlewyrchiad ei dad yn y d诺r. Mae cerddoriaeth y rhan ola' 'ma mor emosiynol - darn o'r enw This Land, a gyfansoddwyd gan Hans Zimmer - un o fy hoff ddarnau o gerddoriaeth ffilm.

Pwy oeddet ti'n ei ffans茂o pan yn iau?

Robert Downey Jr. Dyma'r adeg pan oedd o'n chwarae Larry yn Ally McBeal. O'n i am ei briodi... doedd o jyst ddim yn gwbod hynny eto! Yn anffodus 'nath hynny ddim digwydd!

Nes i bostio neges ato fo ar ei official fan page yn holi fo am ei broses o gyfansoddi ac yn gofyn os oedd ganddo fwy o ddarnau o gelf (roedd o wedi creu gwaith celf i elusen), a rhai misoedd wedyn ges i e-bost ganddo fo (yn 么l y s么n), yn ateb fy nghwestiynau!

Hyd heddiw, does gennai ddim syniad os mai fo oedd hyn go iawn, ond o'i atebion a'r pethau eraill ddudodd o yn yr e-bost, dwi yn hoffi meddwl mai fo oedd o. A hyd yn oed os ddim, o'n i'n w锚n o glust i glust am fisoedd ar 么l hynny!

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ai Robert Downey Jr oedd gwir awdur yr e-bost at Alex? Pwy a 诺yr... ond roedd hi'n hapus beth bynnag!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llaneurgain. Does nunlle'n debyg i gartref! Dwi bellach yn byw yng Nghaerdydd, ond pan fydda i'n mynd adre i weld y teulu, dwi wrth fy modd yn mynd i'r dafarn leol achos dwi wastad yn gweld rhywun dwi'n nabod (fel yn Cheers... "where everybody knows your name"). Ac ar ochrau'r pentre, mae 'na lwybrau trwy gaeau a choedwigoedd sy'n hardd i gerdded. Yn syml, mae'n rhywle dwi'n teimlo'n gartrefol ac yn hapus.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan o'n i tua 13 oed, o'n i mewn disgo ac roedd 'na hogyn o'n i'n rili ffansio. Roedd o wedi bod yn edrych arna i o bell am sbel ac yn gwenu - bendant yn rhoi'r argraff roedd o hefo diddordeb. O'n i'n meddwl bod gennai siawns, felly o'n i'n gwenu n么l. Ond pan nes i droi rownd, welais i ferch yn edrych draw ac yn gwenu ato fo. Mae'n troi allan mai dyma oedd ei gariad, yn sefyll y tu 么l i mi yr holl amser hefo'i ffrindiau - a hi oedd yr un oedd o'n edrych ar, nid fi. Gyted.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Hmm... methu penderfynu rhwng dau: Jeff Lynne o'r band ELO, a Cleopatra. Fyswn i wrth fy modd i gael eistedd lawr am beint gyda Jeff Lynne achos mae'n gynhyrchydd a chyfansoddwr mor dalentog.

Fel cerddor a chyfansoddwr fy hun (yn fy amser sb芒r), dwi wedi edmygu Jeff ers o'n i'n ifanc. Ac i feddwl bod o wedi cynhyrchu c芒n i'r Beatles a chanu gyda'r supergroup, The Travelling Wilburys, gyda Bob Dylan a Roy Orbison... mae'n rhaid bod ganddo straeon gwych!

A Cleopatra oherwydd o'n i'n fascinated gyda'r Hen Aifft pan o'n i'n ifanc. Fyswn i'n hoffi gwbod pa fath o berson oedd hi a sut oedd hi wir yn edrych.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jeff Lynne o ELO, un o arwyr Alex

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Sbio ar fy ff么n yn rhy hwyr! Oes 'na unrhywun arall yn ffeindio'i hunain yn Googlo'r pethau mwya randym hwyr y nos!? Am ryw reswm, mae'r cwestiynau mwya' rhyfedd yn dod ata i adeg yma fel, "Sut mae gwneud gingerbread men?", "Pwy laddodd 2Pac?", "Beth yw'r harmoni 4 rhan i'r emyn Tallis' Canon?"

Yn aml fyddai'n trio darllen llyfr yn lle, achos unwaith dwi wedi codi fy ff么n mae o fel neidio lawr rhyw dwll cwningen, ac mae cwpl o oriau'n mynd heibio mewn chwinciad! Y bore wedyn fydda i wastad yn difarru peidio rhoi fy ff么n lawr yn gynt.

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

O'n i'n fodel am gyfnod pan o'n i yn y brifysgol, ac yn gwneud sioeau byw gyda chwmn茂au fel L'Oreal a Schwarzkopf.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae gennai atgofion da o nosweithiau ffab yng nghlwb nos y Tiv ym Mwcle gyda fy ffrindiau ysgol, ond dwi'n meddwl bod rhaid i mi ddewis noson yn anialwch y Sahara. Es i ar daith o gwmpas Moroco gyda fy chwaer a fy ffrind n么l yn 2014, a 'natho ni dreulio noson o dan y s锚r ar 么l teithio yno ar gefn camel.

Dwi'n cofio fo'n cymryd oes imi gysgu achos o'n i wedi syfrdanu gyda'r holl s锚r - dwi byth yn fy mywyd wedi gweld unrhywbeth tebyg. Profiad bythgofiadwy (ond, yn lwcus, o'n i'n cysgu'n sownd pan ges i fy mrathu gan rywbeth ar fy nhalcen... dwi dal ddim isho gwbod pa greadur oedd wedi crwydro drosta i, ond roedd y briw yn ddigon mawr y bore wedyn!).

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Creadigol, poser, ffyni.

O archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Runaway Train gan Soul Asylum (nid yr un g芒n dwi'n s么n amdani uchod, er r诺an dwi'n gweld ella bod 'na ryw gysylltiad isymwybodol o'n i heb weld o'r blaen!). Mae'n un o'r caneuon 'na ti'n rhoi 'mlaen ar 么l diwrnod caled ac yn syth bin mae pob dim yn well.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Chwarae'r corned am 'chydig, a fy mhiano, yna'n treulio gweddill y diwrnod gyda fy nheulu.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Back to the Future yw fy hoff ffilm. Mae'r gerddoriaeth yn wych a'r stori'n glyfar. Y cwestiwn nesa mae pawb yn gofyn yw "pa un?" a dwi wastad yn methu dewis rhwng y cyntaf a'r trydydd.

Y cyntaf yw'r clasur, wrth gwrs, ond mae'r un ola'n gr锚t achos mae'n cyfeirio ac yn ychwanegu at bethau o'r ddau gyntaf mewn ffordd glyfar, ac mae Michael J Fox a Christopher Lloyd yn briliant gyda'i gilydd.

Es i i weld y premiere o Back to the Future: The Musical ym Manceinion ddiwedd mis Chwefror - dyma un o'r pethau ola' wnes i cyn y cyfnod clo ac o'n i'n lwcus, achos mi gafodd y sioe ei chanslo'n fuan wedyn oherwydd y pandemig.

Ffynhonnell y llun, Back to the Future: The Musical
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn eironig, roedd amser yn brin i'r sioe gerdd oedd wedi ei seilio ar y ffilm boblogaidd Back to the Future

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Beyonc茅. Cyfle i serennu mewn fideo gerddoriaeth a dawnsio mewn gwisgoedd ffab!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

Skewers cyw i芒r satay, cinio Sul Dad, a chacen gaws key lime.

Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?

Dafydd Meredydd

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 大象传媒 Cymru Fyw