Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Manylion am asesiadau disgyblion i ddod yn Ionawr
- Awdur, Bethan Lewis
- Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 大象传媒 Cymru
Mae'r dyn sy'n gyfrifol am lunio'r system asesu arholiadau ar gyfer disgyblion flwyddyn nesaf yn gobeithio y bydd dysgwyr ac athrawon yn cael eglurder erbyn mis Ionawr.
Yn 么l yr ymgynghorydd addysg, Geraint Rees, bwriad y gr诺p mae'n ei gadeirio yw sicrhau tegwch i fyfyrwyr a chreu cymwysterau sydd ag "hygrededd".
Yng Nghymru bydd arholiadau TGAU, AS a Safon Uwch yn cael eu disodli gan asesiadau yn 2021 oherwydd effeithiau'r pandemig.
Dywedodd Mr Rees y bydd yn rhaid i'r graddau TGAU a Safon Uwch sy'n cael eu dyfarnu flwyddyn nesaf fod yn rhai "teilwng i bob dysgwr, ac sydd yn dal d诺r".
Mae'r cyn-brifathro yn gadeirydd y gr诺p dylunio a darparu, wedi ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ac sydd 芒'r dasg o ffurfioli manylion yr asesiadau.
Fis diwetha' penderfynodd y gweinidog addysg, Kirsty Williams, i gael gwared ar arholiadau yn 2021 oherwydd ofnau na fyddai yna chwarae teg i ddysgwyr.
Mae penaethiaid ysgolion a phenaethiaid colegau hefyd yn rhan o'r gr诺p o 15 o bobl mae Mr Rees yn ei gadeirio.
Dywedodd Mr Rees bod y gweinidog addysg wedi cymryd penderfyniad i edrych ar y system i sicrhau bod disgyblion yn cael "cymwysterau ar y diwedd sydd yn rhai teilwng i bob dysgwr, sydd yn dal d诺r cyn belled 芒 bod y prifysgolion a chyflogwyr yn y cwestiwn."
"Does neb yng Nghymru ishe i ni gyrraedd pwynt haf nesa lle ma' unrhyw amheuon dros y graddau fydd wedi eu cyrraedd - felly ma' 'da ni rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru sy'n gorfod neud penderfyniadau pwysig, ma' 'da ni fwrdd arholi sydd 芒'i hygrededd ei hunan a ma' 'da ni'n penaethiaid a phenaethiaid colegau sy'n aelodau o'r gr诺p sydd wir ishe neud yn si诺r bod hygrededd," ychwanegodd.
"Dyna yw'r jobyn - yw neud yn siwr bod dim un brifysgol yn amau integrity ein system ni yng Nghymru - ni'n gorfod cael e'n iawn.
Mae'n gobeithio bydd y gr诺p wedi cyflwyno'i argymhellion i Kirsty William erbyn diwedd y mis.
Ei neges i ddysgwyr ifanc oedd bod yn rhaid bwrw mlaen gyda'r gwaith.
"Mae'r cyrsiau yno, mae'r adnoddau dysgu yno, mae'r athrawon yno , mae angen gweithio i ddatblygu'r ystod o wybodaeth a sgiliau achos cam ynghanol bywyd yw hwn i symud mlaen i'r pethau nesa a pheidiwch colli'r cyfle i ddatblygu'ch sgiliau a mwynhewch ddysgu," meddai.
Fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain ddoe y byddai mesurau ychwanegol yn cael eu defnyddio i "hybu tegwch a chefnogi myfyrwyr" TGAU a Safon Uwch yn Lloegr.
Fe fydd arholiadau yno dal yn digwydd and mae yna addewid i raddio'n fwy hael yn Lloegr, rhoi rhybudd ymlaen llaw o bynciau arholiad a sicrhau arholiadau "ail gyfle" fis Gorffennaf.
Dywedodd Cymwysterau Cymru ei fod yn parhau i "weithio'n agos" gyda rheoleiddwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon i ddiogelu "buddiannau dysgwyr yng Nghymru."
Dywedodd y cyn is-ganghellor ac ymgynghorydd addysg, Syr Deian Hopkin, nad oedd yn teimlo y byddai unrhyw wahaniaethau rhwng y cenhedloedd yn effeithio ar gyfleoedd myfyrwyr yn y brifysgol.
"Does gen i ddim amheuaeth o gwbl bod prifysgolion yn mynd i dderbyn myfyrwyr o Gymru yn union fel sydd wedi digwydd o'r blaen," meddai.
"Mae prifysgolion yn cystadlu am fyfyrwyr. Mae niferoedd y myfyrwyr wedi gostwng ac mae Brexit ar fin ein taro.
"Y realiti yw bod prifysgolion yn falch iawn o gael cymaint o fyfyrwyr ag y gallant ac felly rwy'n credu y bydd myfyrwyr Cymru yr un mor ddeniadol iddyn nhw - arholiad ai peidio."