Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymchwil i bresenoldeb siarc prin ym moroedd Cymru
- Awdur, Llyr Edwards
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Beth ydy'r cysylltiad rhwng yr Ynysoedd Dedwydd a Phen Ll欧n? Yr ateb ydy siarc arbennig sy'n hynod o brin drwy'r byd.
Mae'r Maelgi'n tyfu i ryw saith troedfedd, ac yn treulio'i fywyd ar waelod y m么r yn cuddio yn y tywod yn barod i ysbeilio rhywbeth sy'n dod trosto.
Mae 'na boblogaeth gref ohonyn nhw yn yr Ynysoedd Dedwydd, ac am ryw reswm maen nhw ym Mae Ceredigion hefyd.
R诺an mae ymchwil wedi dechrau i weld os ydyn nhw yn nyfroedd Cymru drwy'r flwyddyn.
Mae Jake Davies yn gweithio i Brosiect Maelgi Cymru, ac fel rhan o'i waith mae'n profi d诺r ar draeth Carreg y Defaid ger Llanbedrog.
Mae samplau'n cael eu cymryd yn gyson o ddeg safle gwahanol o amgylch Bae Ceredigion.
"'Dan ni'n cymryd sampl o'r d诺r er mwyn chwilio am DNA Maelgi," dywedodd.
"Pan 'dan ni'n cymryd d诺r, 'dan ni'n gobeithio ffeindio DNA oddi ar y Maelgi ei hun sef croen neu unrhyw fath o mucus.
"Ma' hwnna wedyn yn cael ei samplo, a 'dan ni'n gallu gweld ydi Maelgi wedi bod yma neu yn bresennol yma."
"Blwyddyn yma cawsom ni dair record ohonyn nhw," meddai Jake. "Ond 'dan ni wedi cael mwy o records dros y ddeng mlynedd d'wetha'... mae 'na records yn mynd yn 么l i 1812.
"So 'dan ni'n gwybod efo'r gwaith 'dan ni yn ei wneud bod nhw wedi bod yma am ganrifoedd, ond yn y 50 mlynedd d'wetha' mae'r boblogaeth wedi mynd i lawr drwy'r byd.
"Yn y deng mlynedd d'wetha' 'dan ni wedi cael mwy o records ohonyn nhw yma oddi ar arfordir Cymru. Y gobaith ydi ffeindio faint ydi maint y boblogaeth oddi ar arfordir Cymru."
Mae'r Maelgi'n cael ei warchod gan y gyfraith. Drwy gydweithio efo pysgotwyr a phartneriaid eraill y nod ydy darganfod pa mor gryf ydi'r boblogaeth oddi ar arfordir Cymru fel bod modd gwarchod y Maelgi ar gyfer y dyfodol fel rhan o dapestri lliwgar byd natur.