大象传媒

Mwyafrif o ysgolion Cymru i barhau ar agor tan 18 Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
disgyblionFfynhonnell y llun, PA Media

Dywed mwyafrif o awdurdodau lleol Cymru y dylai eu hysgolion aros ar agor tan ddiwedd y tymor, er gwaethaf galwadau gan rai undebau llafur i ddod 芒 gwersi i ben yn gynnar.

Dywedodd Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yr wythnos diwethaf eu bod wedi cytuno ar "ddull cyffredin" i sicrhau cysondeb.

Dywedon nhw y bydd addysgu a dysgu personol "yn parhau tan ddiwedd y tymor" - dydd Gwener, 18 Rhagfyr.

Byddai dysgu o bell ond yn symud "lle mae'n gymesur 芒 chyffredinrwydd ac effaith y feirws yn yr ardal".

Ond bydd Blaenau Gwent, Caerffili a Rhondda Cynon Taf yn cau ysgolion yn gynnar ar 么l pwysau gan rieni.

Cyhoeddodd Cyngor Blaenau Gwent yr wythnos diwethaf y byddai ei holl ysgolion yn cau ar 么l gwersi ddydd Mercher, 9 Rhagfyr er "budd gorau lles disgyblion a'u teuluoedd".

Dywedodd llefarydd ar ran WLGA fod penderfyniad Blaenau Gwent "yn unol 芒'r sefyllfa y cytunwyd arni".

Yn y cyfamser, mae Cyngor Powys hefyd wedi dweud y bydd Ysgol Uwchradd Llanidloes yn cau o ddydd Mercher am nad oes ganddyn nhw "lefelau digonol o staff i barhau ar agor".

Mae Caerffili a Rhondda Cynon Taf wedi penderfynu cau eu hysgolion ddeuddydd yn gynnar - ddydd Mercher nesaf, 16 Rhagfyr - heblaw am ddisgyblion bregus 芒 blaenoriaeth uchel yn RhCT.

Mae undeb athrawon UCAC ac undeb gwasanaethau cyhoeddus Unsain, sy'n cynrychioli staff sydd ddim yn addysgu, wedi annog Llywodraeth Cymru i gau ysgolion yn gynnar er mwyn disgyblion, staff a'u teuluoedd.

Ond dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford wrth y Senedd fod ysgolion ymhlith y lleoedd mwyaf diogel i blant fod.

"Yr ofn yw y bydd plant sydd ddim yn yr ysgol mewn amgylcheddau hyd yn oed yn fwy peryglus."

Beth sydd wedi digwydd yn Llanidloes?

Bydd holl ddisgyblion Ysgol Uwchradd Llanidloes yn derbyn addysg ar-lein hyd at ddydd Gwener 18 Rhagfyr.

Bydd yr ysgol yn ailagor i ddysgwyr wedi gwyliau'r Nadolig ar ddydd Mawrth, 5 Ionawr, 2021.

Dywedodd y Cyng Phyl Davies, Aelod o'r Cabinet dros Addysg: "Mae'r uwch d卯m arwain yn Ysgol Uwchradd Llanidloes wedi cyflwyno nifer o fesurau i sicrhau diogelwch a lles dysgwyr a staff yn ystod y pandemig hwn.

"Fodd bynnag, mae nifer o staff yr ysgol yn absennol am amrywiol resymau gan gynnwys staff yn gofalu am blant ifanc sydd wedi cael eu hanfon adref i hunan-ynysu, staff sydd wedi derbyn cyngor i hunan-ynysu gan y T卯m Profi, Olrhain a Diogelu a rhai sydd ag aelodau o'r teulu sy'n symptomatig ac y mae gofyn iddynt hunan-ynysu.

"Mae hyn wedi golygu nad oes gan yr ysgol uwchradd lefelau digonol o staff i barhau ar agor yn ddiogel ac fe fydd yn cau erbyn hyn i ddisgyblion tan ddydd Mawrth, 5 Ionawr."

Castell-nedd Port Talbot

Ond dywed Cyngor Castell-nedd Port Talbot y bydd ysgolion yno'n aros ar agor tan 22 Rhagfyr er bod gan y rhanbarth y lefelau uchaf erioed o gyfraddau heintio Covid-19.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor mai trosglwyddo cymunedol yw'r "gyrrwr mwyaf arwyddocaol" y tu 么l i gyfraddau heintiau lleol.

Byddai cau ysgolion yn gynharach na'r hyn a gynlluniwyd, meddai, yn debygol o achosi cynnydd pellach mewn achosion coronafeirws.

Dangosodd ffigyrau o ddydd Llun mai'r gyfradd heintiau yn y sir oedd 622 achos fesul 100,000 o bobl yr wythnos yr uchaf yng Nghymru.

Yn Abertawe, roedd 446 o achosion fesul 100,000 o bobl yr wythnos.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyw Abertawe "ddim yn bell y tu 么l" i'r sefyllfa yng Nghastell-nedd Port Talbot, medd un o gyfarwyddwyr Bwrdd Iechyd Bae Abertawe

Yn 么l Cyngor Castell-nedd Port Talbot, roedd 38 achos i bob 100,000 o bobl yno ychydig cyn eu clo lleol ym mis Medi - gyda 56 o achosion fesul 100,000 yn Abertawe.

Yn 么l un o gyfarwyddwyr Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, mae yna berygl "os nad yw pobl yn gwneud y peth cywir a chadw ar wah芒n i eraill gymaint 芒 phosib" i'r feirws "ddod 芒 gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i'w gliniau".

Dywedodd y Cynghorydd Alun Llewelyn, arweinydd gr诺p Plaid Cymru Cyngor CNPT, fod "angen cymryd mwy o fesurau i ymateb i ddifrifoldeb y sefyllfa".

Pynciau cysylltiedig