Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diwydiant chwaraeon yn galw am ailystyried cefnogwyr
Mae rhai o sefydliadau chwaraeon amlycaf Cymru wedi uno i alw ar Lywodraeth Cymru i ganiat谩u i gefnogwyr ddychwelyd.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog, Mark Drakeford gan brif weithredwr Clwb P锚l-droed Caerdydd, Steve Borley, mae'n galw arno i ailystyried y penderfyniad i beidio gadael cefnogwyr yn 么l i wylio chwaraeon.
Mae 15 o sefydliadau, gan gynnwys Cymdeithas B锚l-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru wedi arwyddo'r llythyr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod digwyddiadau o'r fath yn annhebyg o ailddechrau cyn y gwanwyn nesaf.
Mae clybiau p锚l-droed Abertawe, Casnewydd a Wrecsam, pedwar rhanbarth Cymru yn y Pro14 - y Dreigiau, Gleision, Gweilch a Scarlets - t卯m hoci i芒 Devils Caerdydd, Clwb Criced Morgannwg a'r tri chwrs rasio ceffylau yng Nghymru - Ffos Las, Cas-gwent a Bangor Is-y-coed - i gyd wedi'u cynrychioli yn y llythyr.
Mae'r llythyr yn gofyn i Lywodraeth Cymru i "fabwysiadu canllawiau presennol yr Awdurdod Diogelwch Caeau Chwaraeon (SGSA) sydd wedi gweld cefnogwyr yn dychwelyd i chwaraeon mewn niferoedd cyfyngedig os ydyn nhw mewn ardaloedd o dan Haen 3 o gyfyngiadau yn Lloegr, ac hefyd yn mynegi rhwystredigaeth gyda'r rheolau presennol yng Nghymru".
Fe ddywed y llythyr: "Mae chwaraeon yn rhan sylfaenol o fywyd yng Nghymru. Mae'n rhoi ein cenedl ar y llwyfan byd eang, ac yn rhoi teimlad o berthyn a hunaniaeth i gymunedau ar draws Cymru.
"Ry'n ni'n rhan o ddiwydiant sy'n cyflogi miloedd o bobl ar draws y wlad, ac mae ein cyfraniad i economi Cymru, cyflogaeth a lles yn sylweddol... ond mae hyn nawr mewn perygl.
"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ei benderfyniad am ganiat谩u i gefnogwyr ddychwelyd - gyda phellter cymdeithasol - i'n caeau chwaraeon."
Gwell yn y tymor hir
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein dulliau o lacio rheolau bob tro mewn cyd-destun o'r amgylchiadau iechyd cyhoeddus, ac wrth i achosion o coronafeirws gynyddu yng Nghymru a dadwneud y gwelliannau yn y cyfnod clo byr, rydym yn cryfhau'r mesurau cenedlaethol yng Nghymru.
"Rydym mewn cysylltiad gyda rhanddeiliaid yn gyson, gan gynnwys cyfarfod o'r gr诺p o ddiwydiannau digwyddiadau heddiw (Llun) lle yr ategodd gweinidogion bod digwyddiadau yn annhebyg o ailddechrau cyn y gwanwyn - ond ein bod yn ystyried, os fydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn y Flwyddyn Newydd yn caniat谩u, i gynnal digwyddiadau prawf yn Chwefror.
"Mae'r sefyllfa yn fwy optimistaidd yn y tymor hir gyda brechlynnau a phrofion cyflym yn debyg o roi arfau ychwanegol i hwysluso cefnogwyr i fedru dychwelyd i gaeau chwaraeon."