Ateb y Galw: Y cyflwynydd Dafydd Meredydd
- Cyhoeddwyd
Y cyflwynydd Dafydd Meredydd sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddo gael ei enwebu gan Alex Humphreys yr wythnos diwethaf.
Mae Dafydd yn llais cyfarwydd ar 大象传媒 Radio Cymru ers 25 mlynedd bellach, ac mae hefyd yn gweithio i'r orsaf fel uwch gynhyrchydd. Bob bore Llun i Iau, mae i'w glywed ar Radio Cymru 2 yn cyflwyno'r Sioe Frecwast gyda Caryl Parry Jones.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Breuddwyd fyw iawn am anghenfilod, dinosoriaid a llosgfynyddoedd yn ffrwydro o amgylch Stad Glan-ffynnon, Llanrug, lle cefais fy magu. Dwi'n credu fod gwylio Doctor Who wedi cael effaith arna i. Ar 么l deffro, mi eisteddais i lawr wrth y bwrdd brecwast gyda paent a brwshys a thrio ail-greu'r freuddwyd mewn darlun. Yn anffodus does gen i ddim asgwrn creadigol yn fy nghorff ac roedd y llun yn un digon abstract.
Pwy oeddet ti'n ei ffans茂o pan yn iau?
Mi dorrodd Chris Evert fy nghalon. Pan glywais ei bod am briodi chwaraewr tenis arall o'r enw John Lloyd, mi es i guddio mewn wardrob yn nh欧 Nain a Taid yn Llanfairpwll.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dwi'n mwynhau mynd am dro gyda'r teulu yn ardal Llyn Padarn yn Nyffryn Peris. Unai o amgylch y llyn ei hun, neu ardal Clegir, neu hyd yn oed i fyny'r Wyddfa ar ochr arall y dyffryn os nad ydi'r mynydd yn rhy brysur.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Dwi'n mwynhau gwylio chwaraeon o bob math, ac am ryw reswm mae gwylio rhywun yn cyflawni camp anhygoel yn dod 芒 deigryn i'r llygaid. Usain Bolt yn y Gemau Olympaidd, Cymru'n sgorio cais wych, a mi o'n i'n emotional wreck trwy gydol Ewro '16.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Yn eisteddfod bentref Llanrug un flwyddyn, pan o'n i yn fy arddegau, mi ges fy ngorfodi i gystadlu yn yr unawd. Blewyn Glas ar Afon Dyfi oedd y darn, ac mi ydw i'n waeth canwr nag ydw i o arlunydd hyd yn oed.
Roedd pedwar yn cystadlu, a gadawodd un o'r cystadleuwyr y llwyfan mewn storm o ddagrau gan iddi anghofio'i geiriau ar ddechrau'r ail bennill. Mi ges i gydradd drydydd gyda'r gantores anghofus!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Roedd Bob Latchford, ymosodwr Everton yn y 1970au, yn dipyn o arwr gen i. Mi o'n i a nhad yn Goodison y noson sgoriodd o'r ddwy g么l i gyrraedd 30 mewn tymor. Dipyn o gamp yn 1978. Y sg么r terfynol yn y g锚m oedd Everton 6 Chelsea 0! Byddai'n dda dod i adnabod Bob.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Rhy niferus i'w rhestru yn 么l fy ngwraig, a fiw i mi anghytuno.
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n un o'r Warrior Pigs yn y ffilm Willow. Yn anffodus ches i ddim mynd i Hollywood - mi oeddan nhw'n ffilmio yn Chwarel Dinorwig.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
N么l yn y 90au, mi es i a chriw o ffrindiau i ddilyn t卯m p锚l-droed Cymru i'r Iseldiroedd. Er i hogia Bobby Gould gael cweir o 7 g么l i 1 yn Eindhoven, y noson ganlynol mi oedd y Manic Street Preachers yn chwarae yn y Melkweg yn Amsterdam, gyda'r Super Furry Animals yn cefnogi.
A i ddim i fewn i fanylion, ond mi oedd hi'n noson dda, a mi ddaeth y noson i ben mewn bar yn yfed coct锚ls gyda James Dean Bradfield a Nicky Wire. Dwi dal ddim yn si诺r sut ddigwyddodd hynny!
O archif Ateb y Galw:
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Trefnus, amyneddgar, anghofus.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Mae'n newid o ddydd i ddydd, ond dwi newydd orffen A Prayer For Owen Meany gan John Irving. Anrheg penblwydd gan ffrind ac mi oedd yn ardderchog.
Beth yw dy hoff g芒n a pham?
Eto'n newid yn ddyddiol bron, ond mi ydw i'n mwynhau trio efelychu Johnny Cash wrth ganu Folsom Prison Blues, tra'n cyfeilio i fi fy hun ar y git芒r.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Ar 么l lie-in (mae rheiny'n bethau prin y dyddiau yma), brecwast gyda fy ngwraig Rhiannydd, ac yna diwrnod o wylio'r plant ar y meysydd chwarae. Mae Megan wedi cynrychioli Cymru mewn rygbi cyffwrdd, a Joseff yn chwarae p锚l-droed i Gaerdydd a'r Fro, felly mae eu gwylio nhw yn dod 芒 lot o bleser i mi.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Heblaw am Johnny Cash a Bob Latchford, dwi'n ddigon hapus bod yn Dafydd Meredydd, diolch.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?
Spare ribs, st锚c fawr, pwdin reis Mam.
Pwy wyt ti'n ei enwebu?
Arwel Jones - Hogia'r Wyddfa