大象传媒

'Penderfyniadau anodd' yn wynebu'r Gwasanaeth Iechyd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Vaughan Gething
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae undebau sydd yn cynrychioli gweithwyr ym maes iechyd wedi croesawu datganiad ysgrifenedig Vaughan Gething

Bydd angen i'r Gwasanaeth Iechyd wneud "penderfyniadau anodd" y gaeaf hwn gan fod coronafeirws yn ymledu ar "raddfa frawychus", meddai'r Gweinidog Iechyd.

Daw wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos fod nifer y cleifion Covid-19 sydd mewn ysbytai yng Nghymru ar ei uchaf ers dechrau'r pandemig.

Mewn datganiad ysgrifenedig fe amlinellodd Vaughan Gething nifer o fesurau y byddai'n rhaid i fyrddau iechyd ddewis eu gweithredu os oedd pwysau ar y gwasanaeth yn parhau i gynyddu.

Mae'r rhain yn amrywio o atal clinigau cleifion allanol, cau gwasanaethau deintyddol cymunedol, gohirio triniaethau oedd wedi eu trefnu o flaen llaw, neu driniaethau canser nad ydynt yn rhai brys.

Mae'r datganiad ysgrifenedig yn golygu fod y Gweinidog Iechyd wedi rhoi caniat芒d i fyrddau iechyd weithredu os oes perygl y byddant yn cael eu llethu gan bwysau gwaith yn yr wythnosau sydd i ddod - ac i flaenoriaethu staff ar gyfer gofal argyfwng.

Ym mis Mawrth fe benderfynodd Llywodraeth Cymru ohirio bron pob math o ofal nad oedd yn ofal mewn argyfwng wrth baratoi ar gyfer y don gyntaf o Covid-19.

Yn ystod yr ail don mae'r GIG wedi ceisio parhau gyda chyn gymaint ag sydd yn bosib o'r gwasanaethau hyn.

Ond mae'r datganiad yn gydnabyddiaeth o'r ffaith y gall rhai triniaethau nad ydynt yn rhai brys orfod cael eu gohirio am y tro.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi fod 33 yn rhagor o farwolaethau a 1,968 achos newydd o goronafeirws yng Nghymru ddydd Iau

Yn y datganiad, dywedodd Mr Gething: "Bydd y camau hyn yn lleddfu'r pwysau ar y GIG drwy eu galluogi i roi gwasanaethau a gwelyau i eraill ac adleoli staff i feysydd blaenoriaeth.

"Yn ogystal 芒 chymryd y camau unigol o fewn cyd-destun lleol, rwyf hefyd yn disgwyl i sefydliadau'r GIG gydweithio i sicrhau gwydnwch yr ymateb brys y tu hwnt i'w ffiniau eu hunain."

'Tu hwnt i flinder'

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd undebau sy'n cynrychioli meddygon, nyrsys a staff gofal iechyd rheng flaen eraill fod ganddyn nhw bryderon sylweddol am yr effaith y bydd llacio'r rheolau am bum niwrnod dros gyfnod y Nadolig yn ei gael ar gyfraddau heintiau, a gallu'r GIG i ymdopi.

Dywedodd yr undebau fod eu staff "tu hwnt i flinder" ac y gallai trydedd don o'r haint fod yn ormod i'r staff.

Wrth groesawu'r mesurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, dywedodd yr undebau:

"Os yw'r pwysau ar y gwasanaeth yn parhau i gynyddu, rhaid inni fod yn realistig ynghylch yr hyn y bydd yn ei olygu i gleifion mewn ysbytai lle mae pob gwely yn llawn - gan wneud triniaeth yn anodd a rhestrau aros yn hirach.

"Nid ydym yn ceisio newid y penderfyniad a wnaed am y Nadolig, ond mae gennym gyfrifoldeb i helpu i leihau unrhyw effaith ar y gwasanaeth iechyd, ei staff a'i gleifion.

"Mae'r staff wedi blino'n l芒n, yn feddyliol ac yn gorfforol, ac maen nhw'n hynod bryderus am yr hyn sydd i ddod ym mis Ionawr.

"Y cyfan rydyn ni'n ei ofyn, fel rydyn ni wedi'i wneud trwy gydol y pandemig, yw pan fyddwch chi'n gwneud eich dewisiadau am y Nadolig, eich bod chi'n cymryd y risg o ddifrif ac yn lleihau cyswllt ag eraill cymaint 芒 phosib.

"Nid yw Covid-19 wedi diflannu."