大象传媒

'Pandemig yn amlygu'r angen am ysgol feddygol y gogledd'

  • Cyhoeddwyd
Dr Esyllt Llwyd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae hyfforddi a gweithio yn yr ardal yn gwella dealltwriaeth o anghenion lleol, medd Dr Esyllt Llwyd

Mae pandemig Covid-19 wedi dangos bod 'na fwy o angen nag erioed am ysgol feddygol lawn yn y gogledd, yn 么l un meddyg teulu.

Tra bod nifer cyfyngedig yn gallu astudio rhan o'u cwrs meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor drwy gynllun 芒 Phrifysgol Caerdydd, does dim modd gwneud y cwrs cyfan yno.

Yn 么l Dr Esyllt Llwyd o feddygfeydd Waunfawr a Llanrug mae'r pandemig wedi golygu bod 'na "bwysau mawr" ar y sector, a byddai'r drefn wedi bod yn "fwy effeithiol" pe bai mwy o feddygon.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ystyried achos busnes dros sefydlu ysgol feddygol lawn, a bod niferoedd recriwtio yn cynyddu.

Dros y misoedd diwethaf mae meddygon teulu wedi bod ar y rheng flaen wrth fynd i'r afael 芒 coronafeirws.

Ym Meddygfa Waunfawr mae pabell wedi ei chodi ar gyfer cleifion sydd 芒 symptomau Covid-19.

Mae prinder meddygon teulu yn amlwg o fewn y sector, ond yn 么l Dr Llwyd mae'r pandemig wedi dangos beth yn union ydy effaith hynny, gan ddweud byddai sefydlu ysgol feddygol lawn ym Mangor yn ddatrysiad clir wrth recriwtio rhagor o feddygon.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwasanaethau iechyd wedi gorfod addasu'r gyson ers dechrau'r pandemig

"Yn sicr mae'r dystiolaeth wedi bod yna ers blynyddoedd," meddai.

"Be 'da ni'n weld r诺an ydy sut mae'r gweithio rhwng meddygaeth cynradd, eilradd a'r gymuned i gyd wedi gorfod stepio fyny, ac yn 么l, wedi newid yn sydyn.

"Mae 'na bwysau mawr a baich mawr arnom ni gyd i ni 'neud pethau yn wahanol."

'Dealltwriaeth ac angerdd'

Yn 么l Dr Llwyd mi fyddai rhagor o feddygon teulu sydd wedi eu hyfforddi ac yn byw yn lleol wedi gwneud gwahaniaeth mawr.

"Y bobl yna sydd hefo dealltwriaeth a'r angerdd hefyd," meddai.

"Mae angen syniad a dealltwriaeth o broblemau gwahanol ddemograffeg ac wrth gwrs mae'n rhaid i rywun treulio amser yma a deall - yr amser i ddysgu hynny ydy tra ti'n fyfyriwr."

Daw hyn wrth i ymchwil gan raglen Post Cyntaf 大象传媒 Radio Cymru ddangos bod 6% o feddygfeydd teulu bellach yn cael eu rheoli gan fyrddau iechyd, yn hytrach na gweithredu fel sefydliadau annibynnol.

Yn y gogledd mae'r ffigwr yma yn 13%.

Mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth hefyd yn dangos fod pedwar o'r saith bwrdd iechyd - Betsi Cadwaladr, Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda - oll wedi gwneud taliadau i gwmn茂au preifat meddygol ymgynghorol sy'n cynnig gwneud peth o swydd meddyg teulu dros y ff么n.

'Dim llawer o ddewis'

Mae'r ddadl dros gael ysgol feddygol ym Mangor wedi rhygnu ymlaen er sawl blwyddyn bellach, ond yn 么l un fyfyrwraig sy'n dilyn y cwrs byddai cael cyfle i astudio'r cwrs cyfan yn y gogledd wedi bod o fudd.

"Doedd 'na ddim llawer o ddewis," meddai Magi Tudur o Benisarwaun. "Mi oedd 'na Gaerdydd yng Nghymru ond oedd bobman arall yn Lloegr".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai Magi Tudur wedi gwerthfawrogi mwy o ddewisiadau astudio meddyginiaeth yn y gogledd

"O'n i'n sicr eisiau cael rhan o'r cwrs yn y Gymraeg felly mi nes i orfod dewis Caerdydd.

"Dwi'n gwybod 'swn i wedi licio cael y dewis i gael cwrs yn y gogledd ar yr adeg yna, ac yn amlwg dwi'n ymwybodol fod 'na fwlch o feddygon yn y gogledd, a dwi'n meddwl buasai cael cwrs yn y gogledd yn neud gwahaniaeth efo hynna."

Tasglu ar waith

Ar hyn o bryd mae 'na 37 o fyfyrwyr yn dilyn cwrs meddygaeth ym Mangor wedi iddynt gwblhau blwyddyn flaenorol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ond gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor bellach wedi cyflwyno achos busnes dros ehangu'r ysgol bresennol, mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod tasglu wrthi'n edrych ar ba mor addas fyddai sefydlu ysgol lawn ym Mangor.

Ychwanegodd y llywodraeth ei bod eisoes wedi buddsoddi gwerth 拢7m yn y cynllun presennol.

Dywedodd llefarydd hefyd fod meddygfeydd sy'n cael eu rheoli'n uniongyrchol gan fyrddau iechyd yn ffordd o "sicrhau gwasanaethau angenrheidiol", a bod ffigyrau recriwtio ar eu huchaf ers tair blynedd, gyda 200 o feddygon teulu wedi eu recriwtio eleni.

Ond y prawf yn 么l sawl meddyg lleol yw sicrhau fod y meddygon hynny yn aros yn eu cymunedau.