Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y dyfarnwr Nigel Owens yn ymddeol o rygbi rhyngwladol
Mae dyfarnwr rygbi mwyaf profiadol y byd, Nigel Owens, wedi dod a'i yrfa ryngwladol i ben.
Mewn neges ar wefannau cymdeithasol dywedodd ei fod yn gwneud y cyhoeddiad "gyda chalon drom".
Fe gymrodd y Cymro ofal o'i 100fed gêm ryngwladol fis diwethaf - gêm Cwpan Cenhedloedd yr Hydref rhwng Ffrainc a'r Eidal - ac mae wedi cyhoeddi mai'r gêm honno fydd ei olaf.
Mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Rob Butcher, wedi disgrifio Owens fel ysbrydoliaeth "nid yn unig am ei ddyfarnu ond am ei gyfathrebu a'r ffordd y mae'n cynnal pob agwedd ar ei fywyd".
Dechreuodd Owens ei yrfa ryngwladol pan gymrodd yr awenau wrth i Bortiwgal gwrdd â Georgia yn 2003.
"Nid oes gan neb hawl ddwyfol i fynd ymlaen am byth," meddai Owens.
"Daw amser lle mae'n bryd symud ymlaen, felly bydd dyfarnu rhyngwladol yn dod i ben nawr, ac felly y gêm rhwng Ffrainc a'r Eidal oedd fy ngêm brawf ddiwethaf."
Mae'r Cymro 49 mlwydd oed wedi profi gyrfa hir a thrawiadol, ac mae'n cael ei barchu ar draws rygbi'r undeb fel un o ddyfarnwyr gorau'r byd.
Roedd wrth y llyw yn rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd 2015 yn ogystal â sawl rownd derfynol cystadlaethau Ewropeaidd, ac mae wedi dod yn enw amlwg oherwydd ei berthynas â chwaraewyr ar y cae a'i ymddangosiadau yn y cyfryngau.
Dywed Owens ei fod yn gobeithio parhau i ddyfarnu yn y Pro14 yn ogystal ag yn lleol yng Nghymru y tymor hwn, ac o bosib yn ymgyrch 2021-22.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
"Byddaf yn sicr yn parhau i ddyfarnu yn y gêm gymunedol oherwydd pan fyddwch chi'n ffodus iawn i gael cymaint o fudd o rywbeth, rwy'n credu ei bod hi'n hynod bwysig eich bod chi'n rhoi rhywbeth yn ôl iddo hefyd," ychwanegodd.
"Byddaf hefyd yn ymgymryd â rôl hyfforddi gydag Undeb Rygbi Cymru, gan helpu rhai o'n dyfarnwyr ifanc talentog sydd gennym yma yng Nghymru, felly mae hynny'n rhywbeth rwy'n eithaf cyffrous amdano.
"Ar hyn o bryd mae gennym ni bum dyfarnwr gan gynnwys fy hun yn dyfarnu ar lefel Pro14, felly bydd yn gyffrous i'w helpu i wneud cynnydd pellach, yn ogystal â'n dyfarnwyr gwrywaidd a benywaidd eraill sydd ar ddod."
Dywedodd cadeirydd URC, Rob Butcher, fod y Cymro'n ysbrydoliaeth "nid yn unig am ei ddyfarnu ond am ei gyfathrebu a'r ffordd y mae'n cynnal pob agwedd ar ei fywyd".
"Mae'n gyflawniad gwirioneddol wych i ddyfarnwr gyrraedd 100 cap," meddai Butcher.
"Ar ben hynny, mae Nigel wedi bod, ac yn dal i fod, yn llysgennad gwych i rygbi Cymru ledled y byd."