大象传媒

Meddygon gofal dwys yn galw am gyfnod clo cyn y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
A woman with a face mask walking past Christmas decorationsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth y cyfyngiadau diweddaraf i rym yng Nghymru ddechrau Rhagfyr

Rhaid cael cyfnod clo ar draws Cymru cyn y Nadolig er mwyn arbed bywydau, medd corff sy'n cynrychioli staff rheng flaen y GIG.

Yn 么l Cymdeithas Gofal Dwys Cymru, ni fydd gweithwyr ac unedau gofal critigol yn gallu ymdopi yn yr wythnosau sydd i ddod "oni bai bod ymyrraeth ar lefel uchel".

Mae llythyr agored gan y gr诺p hefyd yn galw am atal triniaethau sydd ddim yn hanfodol dros Gymru i geisio leddfu'r pwysau.

Fore Mawrth, dywedodd y corff sy'n cynrychioli nyrsys Cymru bod "pwysau a straen sylweddol" ar nyrsys, a bod "angen i wleidyddion edrych ar ystod o fesurau".

Mae dau o brif gyhoeddiadau'r diwydiant hefyd wedi galw am dro pedol ar y rheolau.

Fe ddaw'r rhybuddion wedi i'r nifer o achosion positif groesi 100,000 yng Nghymru, ac wrth i Gymru dorri rhai o'r llinynnau mesur allweddol sy'n penderfynu ar gyfnodau clo ychwanegol.

Dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, y bydd pobl yn "llunio eu rheolau eu hunain" petai cael cwrdd yn ystod gwyliau'r Nadolig yn cael ei wahardd.

Mae tair aelwyd yn gallu dod at ei gilydd rhwng 23 a 27 o fis Rhagfyr wedi cytundeb rhwng pob un o wledydd y DU.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Dr Richard Pugh nad oes amser i oedi tan ar 么l y Nadolig cyn gweithredu

Mewn llythyr at y gweinidog iechyd mae Dr Richard Pugh yn rhybuddio na fydd gwasanaethau gofal critigol yn gallu ymdopi ar draws y gaeaf oni bai bod ymyrraeth frys yn digwydd.

Eisoes, medd Dr Pugh, mae 184 o welyau gofal critigol Cymru yn llawn - hanner ohonynt gan gleifion Covid.

"Fydd hi ddim yn bosib i'r gwasanaethau gofal critigol gynnal gwasanaeth gofal brys ar gyfer achosion na sy'n gysylltiedig 芒 Covid na rhoi llawdriniaethau heb ymyrraeth ar y lefel uchaf un."

'Meddwl am y penderfyniad cywir'

Dywedodd cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru bod pwysau ar nyrsys oherwydd y cynnydd mewn cleifion Covid - yn ogystal 芒'r ffaith bod nyrsys eu hunain yn gorfod hunan-ynysu yn achlysurol.

"Maen nhw'n dal y feirws ac yn cael gwybod gan y profi ac olrhain bod angen iddyn nhw ynysu", meddai Helen Whyley.

"Dwi'n meddwl bod pwysau sylweddol yn y system sy'n golygu bod angen i wleidyddion edrych ar ystod o fesurau... a gwrando ar bobl broffesiynol fel ni a chydweithwyr a meddwl yn galed am beth yw'r penderfyniad cywir i boblogaeth Cymru dros y dyddiau nesaf."

Mae dau o gyhoeddiadau'r diwydiant hefyd wedi galw am beidio a llacio'r cyfyngiadau dros y Nadolig.

Mewn datganiad ar y cyd, mae'r Health Service Journal a'r British Medical Journal wedi galw am dro pedol ar y penderfyniad "byrbwyll" i ganiat谩u cymysgu rhwng aelwydydd, a dilyn esiamplau "gwyliadwrus" gwledydd y cyfandir.

Mae dau o fyrddau iechyd Cymru eisoes wedi canslo gwasanaethau - sef byrddau iechyd Bae Abertawe ac Aneurin Bevan.

Ddydd Sadwrn bu'n rhaid i'r Gwasanaeth Ambiwlans oedi'n hir cyn trosglwyddo cleifion i Ysbyty Athrofaol Y Faenor yng Nghwmbr芒n.

Dywed llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod wedi colli 174 awr i gyd oherwydd oedi - y nifer fwyaf o oriau iddyn nhw orfod disgwyl cyn trosglwyddo cleifion yn ystod y pandemig.

Dywed Dr Pugh fod hyn yn rheswm pellach i ganslo llawdriniaethau dewisol ar "lefel genedlaethol" er mwyn caniat谩u i'r GIG drin cleifion wrth i achosion o'r haint gynyddu.

"Rhaid cyflwyno y math yna o newidiadau ar frys cyn y Nadolig," ychwanega Dr Pugh.

Ychwanegodd bod unrhyw benderfyniad i gyflwyno cyfyngiadau yn anodd, ond na fyddai'r effaith i'w weld mewn ysbytai am rai wythnosau.

"O edrych ar bethau o'r rheng flaen, dwi'n ofni nad oes gennym yr amser i ohirio penderfyniadau tan ar 么l y Nadolig," ychwanegodd.

Atal gofal mewn ysbytai

Ffynhonnell y llun, Jaggery / Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Ysbyty Treforys yn un o'r rhai a fydd ond yn trin achosion brys

Cyhoeddwyd ddydd Llun bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gohirio rhai llawdriniaethau ac apwyntiadau i gleifion allanol.

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan hefyd wedi atal gofal dianghenraid gydag un ymgynghorydd yn dweud bod ei hysbyty hi yn "orlawn o gleifion".

Dywed Mr Gething fod y sefyllfa ar draws Cymru yn "gwbl ddifrifol".

Dywed bod rheolwyr ysbytai yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd er mwyn canolbwyntio ar gleifion coronafeirws er mwyn "helpu gyda'r dyddiau anodd sydd i ddod".

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus sut mae cynorthwyo y bobl sydd yn parhau mewn ysbyty ond sy'n barod i fynd adref - yn benodol pobl na sydd bellach yn heintus ac yn enwedig pobl h欧n.

Mae'r achosion o'r haint ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe bellach ar raddfa o 777.3 ymhob 100,000 o bobl - dim ond un bwrdd iechyd arall sydd 芒 nifer uwch sef Cwm Taf Morgannwg, sydd 芒 chyfradd wythnosol o 870.3.

Yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Llun dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod y GIG yng Nghymru wedi cael un o'r penwythnosau prysuraf erioed.

Ddydd Sadwrn fe wnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford, rybuddio y gallai y GIG fod mewn peryg o fod yn "wasanaeth coronafeirws gwladol" wrth i'r nifer o achosion ar draws Cymru groesi 100,000.

Ddydd Sul fe wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ymddiheuro i ddyn 73 oed wedi iddo orfod aros 19 awr y tu allan i ysbyty mewn ambiwlans.

Dywed Dr Ami Jones, sy'n ymgynghorydd gofal dwys yn Ysbyty'r Faenor bod nifer o staff yr ysbyty ddim yn y gwaith ar hyn o bryd - naill ai oherwydd eu bod dioddef o bwysau gwaith neu eu bod yn gorfod hunan-ynysu oherwydd Covid.

"Mae'n anodd, 'dan ni ddim am gyrraedd y pwynt lle na allwn ddarparu y gofal ry'n ni am ei ddarparu."

Pynciau cysylltiedig