Dwylo Dros y M么r yn cyrraedd 20 uchaf siartiau iTunes

Ffynhonnell y llun, ffotoNant

Disgrifiad o'r llun, Bu'n rhaid i'r cantorion ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol wrth recordio

Mae'r fersiwn 2020 o'r g芒n Dwylo Dros y M么r wedi cyrraedd 20 uchaf siartiau iTunes.

Cafodd y fersiwn diweddara ei recordio ar gyfer rhaglen arbennig i S4C gafodd ei darlledu nos Sul i ddathlu 35 mlynedd.

Y nod hefyd oedd codi arian i Gronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru dan elusen Sefydliad Cymunedol Cymru.

Mae'n cynnwys dros 30 o artistiaid y s卯n gerddoriaeth heddiw i gyfeiliant newydd o'r g芒n wreiddiol.

Elin Fflur ac Owain Gruffudd Roberts gafodd y dasg o gydlynu fersiwn newydd.

Disgrifiad o'r llun, Ddydd Mawrth roedd Dwylo Dros y M么r ochr yn ochr ag artistiaid fel Sam Smith a Miley Cyrus yn y siartiau iTunes

"Mae'r ymateb wedi bod yn hollol anhygoel," meddai Elin Fflur.

"Mae'n g芒n sy'n llwyddo i uno pobl mewn ffordd gwbl naturiol.

"Dwi'n sicr bod gallu tynnu artistiaid y sin gerddorol heddiw ynghyd wedi creu egni positif mewn blwyddyn mor anodd i gymaint o bobl.

"Mae'r symbol o ddwylo yn estyn cymorth mor berthnasol eleni ag erioed o'r blaen a dwi wrth fy modd fod ein trefniant newydd o g芒n mor eiconig wedi cyffwrdd calonnau cenhedlaeth newydd o Gymry."

Disgrifiad o'r llun, Dywed Huw Chiswell fod lleisiau newydd wedi rhoi egni a bywyd newydd i'r g芒n

'Falch iawn ohoni'

Un arall sy'n falch o weld y g芒n yn cael bywyd newydd yw'r cerddor Huw Chiswell a gyfansoddodd y g芒n wreiddiol 'n么l yn 1985.

"Doedd gen i ddim syniad y byddai Dwylo Dros y M么r yn dal i gael ei chlywed a'i chanu 35 mlynedd yn ddiweddarach," meddai.

"Dwi'n falch iawn ohoni, ac mae clywed lleisiau newydd yn rhoi egni a bywyd newydd i'r g芒n yn galonogol tu hwnt. Y briff ges i 'n么l yn '85 oedd i greu anthem fyddai pawb yn gallu ymuno ynddi yn y gytgan.

"Fe gyfansoddais i'r g芒n yn Nghaerdydd, ro'n i newydd gael fy mhiano cyntaf ac roedd hi'n ddiwrnod diflas a gwlyb a dyna lle ddaeth y linell gynta - 'Fe ddaeth y glas i guro'r to'.

"Fe ddilynais fy nhrwyn gyda gweddill y g芒n - ac fe ddaeth yn weddol hawdd o hynny."

'Argyfwng go wahanol'

Ymysg yr artistiaid sy'n rhan o ail-greu yr anthem ar ei newydd wedd mae Mared Williams, Rhys Gwynfor, Kizzy Crawford, Heledd Watkins (HMS Morris), Elidyr Glyn (Bwncath) ac Elin Fflur.

"Yn wreiddiol, 35 mlynedd yn 么l, codi arian ar gyfer argyfwng oedd yn digwydd ochr arall y byd oedd y bwriad, ond argyfwng go wahanol sydd eleni," meddai Elin Fflur.

"Mae 2020 'di bod yn flwyddyn mor anodd - mae Covid wedi effeithio pob un ohonom ni, ond mae rhai pobl yn ein cymunedau wedi cael eu taro'n ofnadwy oherwydd y pandemig.

"A dyna lle mae'r elusen yma, Cronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru yn bwysig - mae'n gweithredu ar lawr gwlad ein cymunedau ni."