大象传媒

Parciau Cenedlaethol yn gofyn i bobl aros adref

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pen Y Fan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae heddluoedd Cymru wedi bod yn brysur dros y dyddiau diwethaf

Mae holl Barciau Cenedlaethol Cymru wedi galw ar y cyhoedd i ddilyn canllawiau coronafeirws Llywodraeth Cymru trwy aros adref ac aros yn ddiogel.

Daw'r alwad wedi i rai o heddluoedd Cymru ddatgelu eu bod wedi rhybuddio nifer fawr o deithwyr am fynd i'r parciau dros y dyddiau diwethaf.

Dywedodd Heddlu De Cymru ei bod wedi atal 840 o gerbydau dros yr wythnos ddiwethaf, gan gynnwys 88 ddydd Mawrth yn unig.

Arweiniodd hynny at 69 o rybuddion a phedair cosb benodol am dorri'r rheolau.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi gyrru nifer o bobl adref o Barc Cenedlaethol Eryri gan gynnwys ymwelwyr o'r Rhyl, Llangollen, Wrecsam, Bolton a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

'Cofiwch bod Cymru ar glo'

Mewn datganiad ar y cyd rhwng Parciau Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Sir Benfro, dywedodd yr Awdurdodau: "Tra bod Cymru yn parhau i fod dan glo, mae'n amlwg bod rhai pobl yn anwybyddu rheoliadau Llywodraeth Cymru ac yn ceisio ymweld 芒 mannau harddwch poblogaidd y Parc Cenedlaethol, gan roi eu hunain a chymunedau gwledig bregus y Parc mewn mwy o berygl.

"Mae Awdurdodau'r Parciau yn atgoffa holl drigolion y DU i gofio bod Cymru ar glo gyda dim ond teithio hanfodol yn cael ei ganiat谩u, felly ni all pobl yrru i ymweld ag unrhyw un o Barciau Cenedlaethol Cymru."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymwelwyr i Ben-y-Fan ddydd Mawrth

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro: "Nid oes amheuaeth bod y rhain yn amseroedd heriol ond mae ein holl ddiogelwch yn dibynnu ar bobl yn parchu'r rheolau ac yn gwneud y peth iawn.

"Ar hyn o bryd mae hyn yn golygu aros gartref i gadw'n ddiogel a gwneud ymarfer corff o'n stepen drws yn unig.

"Os na, mae pryder gwirioneddol y bydd ein gwasanaethau iechyd gwledig yn wynebu pwysau cynyddol ac ni fydd mesurau pellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn.

"Daw'r amser eto pan allwn i gyd fwynhau harddwch ac amrywiaeth ein Parciau, ac edrychwn ymlaen yn fawr at eich croesawu yn 么l pan fydd yr amser hwnnw'n iawn ac mae'n ddiogel i chi ac yn ddiogel i'n cymunedau."