Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymru i gael 22,000 dos o'r brechlyn newydd wythnos nesaf
Fe fydd Cymru yn derbyn 22,000 dos o Oxford-AstraZeneca yr wythnos nesa', yn 么l y meddyg sy'n gyfrifol am y gwaith o ddosbarthu'r brechlyn.
Yn 么l y Dr Gillian Richardson o Iechyd Cyhoeddus Cymru fe fydd y gwaith o'i ddosbarthu ledled Cymru yn "anferthol."
Dywedodd ei bod yn croesawu'r newyddion bod modd cael bwlch o 12 wythnos cyn gorfod rhoi ail ddos i bobl.
Daw hynny wrth i Weinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething gadarnhau y byddan nhw'n dilyn cyngor swyddogion meddygol y DU ac yn ymestyn yr amser rhwng derbyn y dos cyntaf a'r ail ddos o frechlyn Pfizer/BioNTech.
Yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae o leiaf 35,335 o bobl yng Nghymru wedi derbyn y brechlyn hwnnw - y cyntaf i gael ei gymeradwyo - hyd 27 Rhagfyr.
Mae'r datblygiad y brechlyn diweddaraf, medd Dr Richardson, yn "newyddion gwych" ac yn golygu fod mwy o bobl yn gallu cael eu brechlyn cyntaf yn gynharach.
Ond rhybuddiodd bod yn rhaid aros cyn i'r brechlyn effeithio ar y niferoedd sy'n gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty o ganlyniad i'r haint.
Dywedodd wrth raglen 大象传媒 Radio Wales Breakfast fod y broses yn ddibynnol ar y cyflymdra mae'n cael ei gynhyrchu.
"Erbyn yr amser y bydd Oxford-AstraZeneca yn dechrau cynhyrchu ar raddfa sefydlog fe fyddwn yn gallu dyfalu yn well o ran ei ddosbarthiad, ond ar hyn o bryd yr oll allwn ddweud ydi ein bod yn gwneud y bobl fwyaf bregus yn gyntaf, a bydd yn cyrraedd pawb yn ei dro - pl卯s byddwch yn amyneddgar. "
Galwodd hefyd ar bobl i gadw at y cyfyngiadau yng Nghymru wrth groesawu'r Flwyddyn Newydd.
Ym Mae Colwyn, dywedodd y meddyg teulu Dr Helen Alefounder, nad oedd wedi cael dyddiad penodol pryd y bydd yn derbyn y brechlyn.
Ond ychwanegodd fod eu trefniadau cynllunio mewn lle.
"Dio ddim mor syml 芒 rhywun yn cyrraedd y feddygfa a chael brechlyn, mae'n ymwneud 芒 phopeth arall sy'n rhaid cael ei ystyried.
"O ran cynllunio, mae'r dasg yn enfawr.
"Ond, rydym yn gwneud hynny o ran brechlyn ffliw yn flynyddol, felly mae yna wybodaeth cefndir da iawn o ran y pethau sydd angen eu gwneud a'u darparu.
"Pethau syml fel gwneud yn si诺r fod yna lefydd parcio ar gyfer pobl, gwneud yn si诺r fod pobl yn gallu cadw pellter cymdeithasol, a gwneud yn si诺r ein bod yn rhoi digon o amser i bobl eistedd ar 么l y brechlyn rhag ofn bod rhyw fath o adwaith."
Beth sy'n digwydd gyda brechlyn Pfizer?
Mewn datganiad ysgrifenedig ar 31 Rhagfyr fe gadarnhaodd Vaughan Gething y byddai Cymru'n dilyn yr un drefn 芒 gweddill y DU wrth newid yr amserlen ar gyfer rhoi'r ail ddos o frechlyn Pfizer i bobl.
I ddechrau roedd disgwyl y byddai cleifion sydd eisoes wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn hwnnw yn cael eu hail ddos ymhen 21 diwrnod, fel yr oedd y cwmni wedi nodi oedd yn briodol.
Ond nawr fe fydd y cleifion hynny'n aros hyd at 12 wythnos cyn cael eu hail frechlyn, gyda'r rhai sydd ar gael yn cael eu hailddosbarthu er mwyn blaenoriaethu rhoi dos cyntaf i bobl eraill.
Dywedodd Mr Gething fod pedwar prif swyddog meddygol y DU yn cytuno 芒 chyngor y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio ar wneud hynny, er mwyn "diogelu'r nifer mwyaf o bobl sy'n wynebu risg yn gyffredinol o fewn y terfyn amser byrraf posibl".
Mewn datganiad dywedodd Pfizer mai mater i lywodraethau oedd amserlen eu rhaglen frechu, ond mai dim ond bwlch o 21 diwrnod rhwng y ddau ddos y cafodd y rhan fwyaf o bobl y brechlyn yn eu treialon nhw.