´óÏó´«Ã½

Parciau'n 'siomedig o brysur' er y cyfyngiadau

  • Cyhoeddwyd
Police turning cars away from Brecon

Mae parciau cenedlaethol ac atyniadau eraill wedi bod yn "siomedig o brysur dros y dyddiau diwethaf" er gwaethaf cyfyngiadau ar deithio yng Nghymru.

Dywedodd warden Parc Cenedlaethol Eryri, Arwel Morris, bod "storm berffaith" o dywydd da a llawer o bobl yn cael gwyliau o'r gwaith yn gyfrifol am niferoedd uchel o ymwelwyr.

Mae heddluoedd Cymru wedi dweud bod pobl o lefydd fel Caint, Southampton a Solihull, tra bod Mr Morris wedi delio ag ymwelwyr o Lundain a Birmingham, yn ogystal â phobl o rannau eraill o Gymru.

Ddydd Gwener, dywedodd un o brif gwnstabliaid Cymru bod achosion o dorri rheolau Covid i nodi'r flwyddyn newydd yn "anwybyddu'r ffaith ein bod yng nghanol pandemig iechyd byd-eang".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Heddlu Gogledd Cymru #DiogeluCymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Heddlu Gogledd Cymru #DiogeluCymru

Gyda Chymru gyfan dan gyfyngiadau Lefel 4 ers 20 Rhagfyr, ond dan amgylchiadau penodol mae pobl yn cael gadael eu cartrefi.

Mae hynny'n cynnwys gweithio, siopa am nwyddau hanfodol neu ddarparu gofal.

Mae hefyd yn bosib mynd allan i ymarfer corff, ond dylai'r daith ddechrau a gorffen gartref.

Ar Twitter ddydd Sadwrn, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod nifer o bobl wedi teithio gyda'r bwriad o gerdded Yr Wyddfa - gan gynnwys rhai o dde Lloegr.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Heddlu Gogledd Cymru #DiogeluCymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Heddlu Gogledd Cymru #DiogeluCymru

Dywedodd Mr Morris: "Rydyn ni'n trio atgyfnerthu'r ffaith y dylai ymarfer corff ddechrau a gorffen adref, sy'n golygu na ddylai pobl yrru i rywle er mwyn ymarfer corff.

"Mae hynny wedi bod yn anodd iawn dros y dyddiau diwethaf.

"Rydyn ni wedi delio hefo pobl o Lundain, Birmingham... lot o bobl o dros ogledd Cymru yn teithio i ardaloedd hardd."

Nid yw wardeiniaid yn gallu rhoi dirwyon am dorri rheolau, a dywedodd Mr Morris bod yr heddlu wedi "gwneud eu gorau" er pwysau eraill ar swyddogion.

'Anwybyddu pandemig iechyd byd-eang'

Dywedodd lluoedd ddydd Gwener eu bod eisoes wedi cofnodi achosion eleni, a bod rhai pobl wedi teithio i Gymru o Southampton, Caint a Solihull.

Yn ôl Heddlu De Cymru, fe gofnodwyd sawl achos o dorri'r rheolau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu rhanbarth Nos Galan.

Ysgrifennodd Prif Gwnstabl Heddlu'r De, Jeremy Vaughan at Twitter bod yna achosion o "ymosodiadau, yfed a gyrru a phobl yn anwybyddu'r ffaith ein bod yng nghanol pandemig iechyd byd-eang".

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Claire Evans o Heddlu'r De: "Mae'r cyfyngiadau sydd mewn grym yna am reswm, ac mae cyn bwysiced ag erioed i ymddwyn yn gyfrifol."