Oriel luniau: Gigs T欧 Nain
- Cyhoeddwyd
Mae gr诺p o gerddorion oedd yn hiraethu am gigs wedi dod at ei gilydd i greu un rhithiol - gyda'r bandiau yn perfformio, trefnu'r digwyddiad, creu'r set, ffilmio a bod yn y gynulleidfa.
A gan fod gan bawb sawl r么l wahanol roedd yn bosib i'r criw i gyd fwynhau'r digwyddiad yn Neuadd Mynytho heb dorri canllawiau Covid-19.
Cafodd Gigs T欧 Nain ei ddarlledu ar ddydd Calan, a gobaith y trefnwyr ydi creu cyfres o ddigwyddiadau tebyg.
Un o'r bobl tu cefn i'r fenter, a'r prif berson camera ar y dydd, ydi'r ffotograffydd Dafydd Owen, fu'n dogfennu'r diwrnod i Cymru Fyw.
Oherwydd rheolau Covid-19, dim ond 15 oedd yn gallu bod yn Neuadd Mynytho, Pen Ll欧n, ar gyfer y digwyddiad.
Gan fod rhai cerddorion yn chwarae mewn mwy nag un band a hefyd yn helpu gyda'r cynhyrchu, doedd cadw at y canllawiau ddim yn broblem yn 么l Dafydd Owen:
"Roedd pawb yn helpu, felly tra ro'n i'n ffilmio ar y tracs roedd Dion o Alffa yn pwshio'r trac pan doedd o ddim yn chwarae, ac roedd gen ti bobl fel Carwyn (Williams) yn chwarae mewn dau fand.
"Dim ond dau aelod sgen ti yn Alffa, ac mae Dion hefyd yn chwarae i Malan - felly roeddan ni'n gallu cael pedwar band a chriw, efo pawb yn aros tan y diwedd - ac yn dal o dan 15 o bobl."
Roedd Ifan Pritchard (uchod) yn un o'r trefnwyr ac yn helpu gyda'r gwaith ffilmio a'r cynhyrchu ar y diwrnod pan nad oedd ei fand Gwilym yn perfformio.
Meddai: "Wnaeth pob aelod gyfrannu i'r prosiect. Wnaethon ni adnabod cryfderau unigolion, felly mae Rhys Grail yn amazing o artist ac felly'n amazing yn creu setiau, Llew Glyn ydi'r person mwya' trefnus dwi'n adnabod ac oedd yn fodlon gwneud y pethau boring doedd neb arall am wneud.
"Cwbl nes i oedd rhoi help llaw efo unrhywbeth doedd neb arall yn gallu gwneud, a helpu casglu props. Roedd pawb yn helpu - roedd yn waith t卯m go iawn."
Doedd y bandiau na'r trefnwyr ddim yn cael t芒l am eu gwaith ac roedd yn rhaid dibynnu ar garedigrwydd nifer o bobl, meddai Dafydd Owen:
"Roedd lot fawr o waith trefnu o flaen llaw, a phawb yn helpu, ond roedd cymaint wedi helpu drwy roi benthyg pethau - camer芒u gan Rhys Edward, Gwion Meredydd Jones a Dafydd Hughes, a wnaeth Bara Caws rhoi benthyg lot o'r set i ni a 'da ni mor ddiolchgar."
Roedd Gigs T欧 Nain yn cael ei ddarlledu ar YouTube dydd Calan.
"'Da ni wedi cael ymateb gwych," meddai Dafydd Owen. "Fel arfer mewn gig byw os ti'n meddwl am Clwb Ifor Bach, fydd cynulleidfa o 200 yn fan yna. Does 'na ddim llawer o lefydd mwy yn y Gymraeg - felly pan wnaethon ni ddod a'r fideo i lawr a dros 1000 wedi ei wylio roeddan ni'n hapus tu hwnt.
"Da ni'n awyddus i wneud yr un nesa r诺an. Does dim byd wedi ei gadarnhau ond mae'n sicr syniad o bwy yda ni eisiau i chwarae."
Yn 么l Ifan Pritchard roedd naws braf i'r diwrnod - yn cael perfformio a gwrando ar fandiau eto, a chael cymeradwyaeth ar ddiwedd caneuon am y tro cyntaf ers sbel:
"Dwi'n meddwl wnaeth pawb sylweddoli pan oeddan ni'n chwarae pa mor weird oedd clywed clapio. Wnaeth neb ddweud dim byd tan i ni drafod ar 么l gorffen yr holl ddiwrnod - ond roedd o'n rili c诺l.
"Ac wrth gwrs da ni'n ffrindiau ac yn ffans o fiwsig ein gilydd felly doeddan ni ddim ofn gwneud s诺n a cheerio.
"Roedd o'n ddiwrnod sbeshal ac ar y diwedd roeddan ni gyd yn teimlo mor prowd o'i wneud o.
"Roedd o'n daith wnaeth ddechrau mewn sgwrs Zoom rhwng ffrindiau a wnaeth droi mewn i waith, ond ddim gwaith chwaith achos roedda ni'n mwynhau gymaint."
Bydd Sian Eleri yn trafod Gigs T欧 Nain ar Radio Cymru heno rhwng 6.30-9pm.
Hefyd o ddiddordeb: