Galw am grantiau i'r heddlu ar gyfer cefn gwlad

  • Awdur, Mari Grug
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

*RHYBUDD: Gall un o'r lluniau isod - canlyniad ymosodiad ar ddefaid - beri pryder*

Disgrifiad o'r fideo, Colli defaid i ymosodiadau c诺n yn 'hunllefus'

Yn 么l undeb yr NFU, mae cynnydd mewn ymosodiadau c诺n ar ddefaid yn "achosi gorbryder" i ffermwyr mewn cyfnod lle maen nhw eisoes dan straen.

Mae'r aelod seneddol ar gyfer Ceredigion yn galw am newid y fformiwla ariannu fel bod "heddluoedd gwledig yn cael grant penodedig".

Mae Wyn Evans yn ffermio yn Tynygraig ger Aberystwyth.

Mae'n dweud fod ymosodiadau c诺n ar ddefaid yn digwydd yn llawer rhy aml.

"Dim mater o arian yw e, ond y dolur a'r niwed sydd wedi cael ei wneud i'r defaid," meddai.

"Oedd e'n rhywbeth hunllefus a dwi byth yn bersonol eisiau gweld y fath beth eto.

"Nes i ddim cysgu'r noson honno na bwyta'n swper, a dwi heb gysgu yn iawn ers 'ny ar 么l beth weles i."

Dros yr wythnosau diwethaf, mae 'na gynnydd wedi bod mewn achosion tebyg yng Ngheredigion gydag ymosodiadau gan g诺n ar ddefaid wedi bod yn Llambed, Ffair Rhos, Capel Dewi ac Ystrad Meurig.

Nid pob trosedd sy'n cael ei chofnodi chwaith.

Mae Dafydd Alun, o filfeddygon Ystwyth, yn dweud eu bod nhw'n delio gydag achosion yn rheolaidd.

Meddai: "Mae yna fwy o g诺n o gwmpas na sydd wedi bod ers tro a mwy o bobl yn cerdded eu c诺n ac felly mae'n bryder i ffermwyr.

"Cadw c诺n dan reolaeth sydd fwyaf pwysig o ran lles ac iechyd pawb. Mae c诺n yn gallu dychryn defaid a gwartheg ac felly mae'n bwysig o ran diogelwch unigolion hefyd."

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi bod i ymchwilio i'r digwyddiadau, ond gyda th卯m troseddau gwledig bach, byddai rhai o blaid gweld buddsoddiad pellach mewn adnoddau.

Fe ddywedodd Ben Lake, AS Ceredigion: "Maen anodd i unrhyw d卯m, os mai dau swyddog sydd, i gyfro ardal mor eang. Dyw e ddim yn deg, mewn ffordd, disgwyl iddyn nhw neud e.

"Mae angen i fformiwla'r heddlu canolog newid fel bod lluoedd fel Heddlu Dyfed Powys yn cael mwy o arian, fel rhan o'u grant gan y swyddfa gartref neu fel grant penodedig, i fynd tuag at yr amodau gwledig yma."

Mewn ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Mae Timau Troseddau Gwledig Ceredigion a Powys yn cydweithio ar draws ardal canolbarth Cymru.

"Mae nifer y swyddogion ym mhob t卯m yn seiliedig ar alw ac mae hynny'n cael ei adolygu a'i ystyried ynghyd a holl flaenoriaethau eraill yr heddlu.

"Gallai ffactorau allanol effeithio ar bresenoldeb yr heddlu ond gwneir pob ymdrech i gadw mewn cysylltiad gydag unrhyw ddioddefwyr trosedd."