Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Covid-19: 'Mae'r tri mis nesa'n mynd i fod yn galed iawn'
- Awdur, Iola Wyn
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae busnesau'n rhagweld misoedd anodd o'u blaenau, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Gwener y bydd cyfyngiadau yn cael eu cryfhau mewn rhai meysydd allweddol er mwyn atal y straen newydd o coronafeirws rhag lledaenu.
Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i fusnesau lletygarwch a manwerthu aros ar gau, oni bai eu bod yn cael eu hystyried yn hanfodol.
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd Cymru gyfan yn parhau dan gyfyngiadau lefel 4 am y tro, gan olygu na fydd unrhyw lacio ar y cyfyngiadau am o leiaf tair wythnos arall.
Mae effaith y cyfyngiadau yn amlwg ar strydoedd oer a gwag Aberaeron.
Yn 么l Glyn Heulyn, perchennog gwesty a bwyty'r Harbwrfeistr, "mae'r tri mis nesa' yn mynd i fod yn galed iawn dwi'n credu".
"Dwi ddim yn credu y byddwn ni ar agor tan o leia' canol i ddiwedd mis Mawrth, os hynny," ychwanegodd Mr Heulyn.
"Gaethon ni fel busnese haf ofnadwy o brysur, mwy na thebyg un o'r hafau mwya' prysur ni 'di gweld yn Aberaeron a'r gorllewin oherwydd o'dd neb yn mynd i'r cyfandir.
"Ond gewn ni weld be' ddaw. Y peth pwysica' yw bod y vaccine yn dod, a bod pawb yn teimlo'n hyderus wedi'r gwanwyn "
Ar fferm ym mhentre' Llwyncelyn, yn Nyffryn Aeron, mae menter The Moody Cow.
Mae'r teulu Thomas yn arfer rhedeg bwyty a maes gwersylla ar y safle, ond dim ond y siop fferm sy' 芒'r hawl i fod ar agor ar hyn o bryd.
Mae'n gyfnod anodd, yn 么l Henry Thomas.
"Dros y gaeaf, ni 'di treial adennill arian ni 'di golli. Ond doth lockdown eto. Ac mae e just 'di bwrw ni mor galed tro 'ma. 'Na gyd ni isie yw bach o help, i just cadw ni i fynd nawr.
"Ma' gefnogaeth bobol leol yn gr锚t, ma' nhw'n dod i'r siop fferm yn aml. Ond ma'r restaurant a'r bar ar gau, a'r safle carafans, a 'sneb yn gwybod pryd allwn ni agor nhw n么l lan. Gobeithio cyn y Pasg, ond mae'r Pasg yn gynnar eleni. Ma' bopeth yn dibynnu ar y vaccine."
Er gwaetha'r ansicrwydd - dyw ildio ddim yn opsiwn i'r teulu, sydd 芒 chynlluniau ar waith i ehangu busnes The Moody Cow i gynnal priodasau ar y safle maes o law.
"Ni 'di dechre buildo sied newydd ar gyfer playbarn a wedding venue. Ni mo'yn agor nawr, blwyddyn 'ma cyn yr haf, er mwyn bwrw'r summer trade, ond s'neb yn gwybod be' sy'n mynd i ddigwydd."