Targed i frechu 2.5m o bobl Cymru erbyn mis Medi

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Menyw yn derbyn ei brechiad Covid ym Merthyr Tudful

Mae hi'n fwriad gan Lywodraeth Cymru i gynnig brechlyn yn erbyn Covid-19 i bob oedolyn yng Nghymru erbyn tymor yr hydref eleni.

Wrth gyhoeddi eu strategaeth brechu dywedodd y Llywodraeth eu bod nhw eisoes wedi rhoi un pigiad i 86,000 o bobl ar draws y wlad. Mae 79 wedi cael dau ddos.

Hyd yma, mae Cymru wedi derbyn 275,000 dos o'r ddau frechlyn coronafeirws er mwyn mynd i'r afael 芒'r pandemig.

Daw'r cyhoeddiad am y strategaeth wrth i'r ffigyrau dyddiol ddangos bod 17 yn rhagor o bobl wedi marw o achos yr haint, gan ddod 芒'r cyfanswm i 3,981.

Cafodd 1,793 yn rhagor o achosion positif eu cadarnhau gan ddod 芒'r cyfanswm yn ystod y pandemig i 171,547.

Mae'r Llywodraeth yn dweud eu bod nhw'n gosod tair carreg filltir penodol yn y strategaeth:

  • Erbyn canol mis Chwefror bydd holl breswylwyr a staff cartrefi gofal, staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, pawb dros 70 oed a phawb sy'n hynod fregus yn glinigol wedi cael cynnig brechiad;
  • Erbyn y Gwanwyn bydd brechlyn wedi'i gynnig i'r holl grwpiau blaenoriaeth cam un eraill. Dyma bawb dros 50 oed a phawb sydd mewn perygl oherwydd bod ganddyn nhw gyflwr iechyd sylfaenol;
  • Erbyn yr hydref bydd pob oedolyn cymwys arall yng Nghymru wedi cael cynnig brechlyn, yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).

Yn 么l y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, mae'r "cerrig milltir" yn dibynnu ar Gymru'n derbyn cyflenwadau rheolaidd o'r brechlyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn mwy na 250,000 dos o'r brechlyn Pfizer-BioNTech a 25,000 dos o'r un gan Oxford-AstraZeneca.

Y trefniadau

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn addo y bydd nifer y canolfannau brechu torfol yn cynyddu i 35 dros yr wythnosau nesaf, gydag o leiaf un ym mhob sir.

Bydd cefnogaeth filwrol yn cael ei ddarparu i'r canolfannau brechu torfol, gyda 14 o imiwneiddwyr a 70 o berson茅l eraill yn darparu cefnogaeth.

Erbyn diwedd yr wythnos hon mae'r Llywodraeth yn rhagweld y bydd 100 o feddygfeydd teulu yn darparu clinigau, a bydd y fferyllfeydd cyntaf i ddarparu'r brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn dechrau yn y gogledd o fewn yr wythnos nesaf hefyd.

Ac er mwyn brechu pawb mewn cartrefi gofal bydd 14 uned symudol, sy'n cael eu rhedeg gan nyrsys cymunedol, yn mynd 芒'r brechlyn i gartrefi gofal.

Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r amser y mae'n ei gymryd i frechu pobl yng Nghymru.

Ond mae Mr Gething wedi addo y bydd llawer mwy o bobl yn cael eu brechu yn yr wythnosau nesaf.

"Erbyn 18 Ionawr, bydd holl staff rheng flaen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cael cynnig brechiad," meddai.

"Bydd pawb sy'n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal wedi cael cynnig brechiad erbyn diwedd y mis hwn.

"A bydd nifer y meddygfeydd sy'n darparu brechlynnau yn agosach at gartrefi pobl wedi codi i 250 erbyn diwedd mis Ionawr wrth i gyflenwadau'r brechlyn Rhydychen-AstraZeneca gynyddu".

Croesawu llinell amser

Er bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd rhai fferyllfeydd yn dechrau ar y broses o frechu cyn bo hir, mae rhai'n parhau i bryderu am arafwch y broses o ddosbarthu.

"Rydyn ni wedi cael llawer o alwadau gan aelodau ein fferyllfa gymunedol yn enwedig yn ystod yr wythnos ddiwethaf sy'n wirioneddol awyddus i gymryd rhan," meddai Elen Jones, Cyfarwyddwr Cymru ar gyfer y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, wrth 大象传媒 Radio Wales fore Llun.

"Rwy'n croesawu'n fawr y bwriad heddiw y bydd cynllun brechu Covid fel bod pobl yn gwybod y llinell amser.

"Rydyn ni'n deall cymhlethdod y system ac nid yw'r un mor syml 芒 brechlyn ffliw rydyn ni wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd lawer.

"Y peth positif i ni yw bod 86% o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru wedi bod yn cynnig y brechiad ffliw eleni gyda chynnydd sylweddol yn nifer y brechiadau ffliw sy'n cael eu darparu yn 2020 o gymharu 芒 2019, hyd yn oed ar ben yr holl bwysau ychwanegol sydd ganddyn nhw yn ystod y pandemig."