Covid-19: Nifer fawr o addoldai ddim wedi ailagor

Ffynhonnell y llun, stevanovicigor

  • Awdur, Ellis Roberts
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Gyda llawer o addoldai yn dal i fod ar gau, mae'r Eglwys Gristnogol yn gorfod edrych ar ffyrdd newydd o gyrraedd addolwyr - gyda'r posibilrwydd y gallai'r dulliau hynny fod yn rhan o'r moliant yn y dyfodol.

Mae llawer o oedfaon nawr yn cael eu darlledu ar y we drwy gyfryngau fel Zoom - rhywbeth allai barhau ochr yn ochr 芒'r addoli mewn capel neu eglwys ar 么l i'r rheiny ailagor.

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru'n dweud mai chwarter eu capeli sydd wedi ailagor ers dechrau'r pandemig.

Ym mis Ionawr 2020 roedd 334 o gapeli ar agor, ond o'r rheiny dydy 261 ddim wedi ailagor. Dim ond 73 sydd wedi llwyddo i ailagor eu drysau ar ryw adeg neu'i gilydd ers i argyfwng Covid gydio.

Roedd gan yr Annibynwyr 365 o gapeli ar agor ddechrau 2020, ond maen nhw'n tybio nad ydy hanner y rheini wedi medru ailagor.

Ac yn achos Eglwys Bresbyteraidd Cymru - dim ond 15% o'r cynulleidfaoedd a wnaeth gau eu drysau ddechrau'r pandemig oedd yn cyfarfod wyneb yn wyneb erbyn mis Medi - 80 allan o 565.

Ffynhonnell y llun, Judith Morris

Disgrifiad o'r llun, "Ry'n ni gyd wedi dysgu gwersi yn sgil y pandemig," medd Judith Morris

"Fe fydd hi mae'n si诺r blwyddyn a mwy ers i rai o'n heglwysi, ein capeli a'n hadeiladau fod ar agor," meddai'r Parchedig Judith Morris, ysgrifennydd cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru.

"Ac ydyn wrth gwrs 'dan ni yn bryderus ond ar yr un pryd 'dan ni'n gobeithio y byddwn ni'n gallu bod yn gefnogol i'r eglwysi hynny wrth iddyn nhw fynd ati i ailagor.

"'Dan ni'n gobeithio 'dan ni wedi bod ben arall y ff么n ac wedi bod o gymorth felly. 'Dan ni wedi bod yn dosbarthu canllawiau a chysylltu 芒'r eglwysi hynny sydd wedi cael trafferth dod i benderfyniadau.

"Dwi'n meddwl bod ni gyd wedi dysgu gwersi o ran y pwysigrwydd o ddefnyddio'r dechnoleg, ac mae'n bwysig cofio am yr eglwysi hynny sydd ddim yn hyddysg yn y dechnoleg.

"Ond mae 'na bobl hefyd doedd ddim yn medru cyrraedd oedfa cyn mis Mawrth ond erbyn hyn drwy gyfrwng y dechnoleg newydd maen nhw'n rhan o'r gymdeithas a'r oedfaon."

'Y g锚m yn symud bron bob dydd'

Mae'r Eglwys yng Nghymru hefyd wedi bod yn manteisio ar y dechnoleg wrth gynnal gweithgareddau.

"Be' sy' 'di bod yn greadigol ydy gweld pobl yn symud pethau ar-lein." meddai Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John.

"Beth am y dyfodol? Ar hyn o bryd mae'r g锚m yn symud bron bob dydd. 'Dan ni'n trio ymateb yn bositif drwy'r we a'r rhwydweithiau sydd yma ar hyn o bryd, a jest yn gweld be' sy'n bosib."

Disgrifiad o'r llun, Mae Eglwys Gadeiriol Llandaf ymysg yr addoldai sydd wedi ailagor

Mae rhai addoldai wedi llwyddo i ailagor, er o dan amgylchiadau gwahanol, yn eu plith Capel Bro Horeb ym Mhenrhyn-coch ger Aberystwyth.

Dywedodd un o'r blaenoriaid, Eirian Reynolds: "Yr unig wahaniaeth yw ein bod ni'n eistedd ymhellach o'n gilydd a bod y gweinidog yn pregethu o'r tu 么l i sgrin.

"Dydyn ni ddim yn canu emynau, ond mae'n gweinidog yn dewis caneuon a'u chwarae ar y laptop.

"Dilyn y cyfarwyddiadau a defnyddio synnwyr cyffredin wnaethon ni. Roedd yr Ysgol Sul wedi bod yn rhithiol ers mis Medi.

"Er hynny dim ond lle i 18 sydd yn y capel o barchu'r angen i gadw pellter. Chafodd y gwasanaethau Diolchgarwch a Bore Nadolig ddim eu cynnal y llynedd oherwydd fe allai'r rheini fod wedi denu mwy na'r nifer arferol o addolwyr, a doedd y blaenoriaid ddim am orfod gwrthod neb."