Cymru wedi dosbarthu 70,000 o 275,000 dos brechlyn

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Does dim ffigyrau eto am faint o'r brechlyn Oxford-AstraZeneca sydd wedi'i ddosbarthu

Mae Cymru wedi derbyn 275,000 dos o'r ddau frechlyn coronafeirws er mwyn mynd i'r afael 芒'r pandemig.

Ond ychydig dros 70,000 oedd wedi cael eu brechu hyd at ddydd Iau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei fod wedi derbyn mwy na 250,000 dos o'r brechlyn Pfizer-BioNTech a 25,000 dos o'r un gan Oxford-AstraZeneca.

Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r amser y mae'n ei gymryd i frechu pobl yng Nghymru, ond mae'r Gweinidog Iechyd wedi addo y bydd llawer mwy o bobl yn cael eu brechu yn yr wythnosau nesaf.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud mai ychydig dros 49,000 oedd wedi cael eu brechu hyd at ddydd Sul diwethaf, ond maen nhw bellach wedi cadarnhau bod dros 70,000 wedi ei dderbyn erbyn dydd Iau.

1.6% yng Nghymru wedi'u brechu

Mae'r brechlyn Pfizer wedi bod yn cael ei roi i bobl mewn saith safle ledled Cymru ers dechrau Rhagfyr, a mis yn ddiweddarach roedd 49,403 o bobl yng Nghymru wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn hwnnw.

Mae hynny'n golygu mai 1.6% o boblogaeth Cymru oedd wedi cael eu brechu hyd at 3 Ionawr, o'i gymharu 芒 1.9% yn Lloegr a 2.1% yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod beirniadaeth bod Cymru ar ei h么l hi o'i gymharu 芒 gweddill y DU, gan ychwanegu y bydd y rhaglen frechu'n cyflymu'n sylweddol gyda brechlyn Oxford-AstraZeneca.

Mae'r brechlyn hwnnw wedi bod yn cael ei ddarparu yng Nghymru ers dechrau'r wythnos, gyda Chymru wedi derbyn 25,000 dos hyd yma.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ddydd Gwener y byddai Cymru'n derbyn 25,000 dos arall yr wythnos nesaf ac 80,000 yr wythnos ganlynol.

Ychwanegodd bod darparu'r brechlyn Pfizer wedi bod yn heriol oherwydd bod yn rhaid ei gadw ar dymheredd mor isel, a'i bod yn anodd ei drosglwyddo i gymunedau.

Dywedodd Mr Drakeford bryd hynny nad oedd yn gwybod faint yn union o'r brechlyn hwnnw y mae Cymru wedi'i dderbyn, ond mae'r llywodraeth bellach wedi cadarnhau ei fod wedi derbyn 250,000 dos.

Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi cadw dosau wrth gefn cyn i'r penderfyniad gael ei wneud y byddai 12 wythnos yn cael ei adael rhwng y dos cyntaf a'r ail, ac y byddai'r brechlynnau wrth gefn hynny wedi'u defnyddio erbyn canol Chwefror.

Sefyllfa 'bryderus iawn'

Dywedodd AS Dyffryn Clwyd, Dr James Davies: "Rydyn ni oll yn gwybod bod y brechlyn Pfizer yn anodd i'w symud a'i storio.

"Ond y broblem ydy, os ydych chi'n edrych ar weddill y DU - gan gynnwys ardaloedd gwledig iawn - maen nhw wedi gallu delio 芒 hynny.

"Mae'n anodd gweld pam nad oedden nhw mewn sefyllfa i wneud trefniadau ynghynt er mwyn cynyddu'r ddarpariaeth."

Ychwanegodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod angen mwy o dryloywder gan y llywodraeth.

"Mae'n bryderus iawn darganfod ein bod wedi derbyn dros chwarter miliwn dos yng Nghymru ond mai cyfran gymharol fechan o hynny sydd wedi cael ei roi ym mreichiau pobl i'w hamddiffyn," meddai.

Mae Mr Iorwerth wedi ysgrifennu llythyr agored at y Gweinidog Iechyd yn galw am fwy o eglurder ar y rhaglen frechu er mwyn "meithrin ymddiriedaeth y cyhoedd".

Mae'n galw yn y llythyr am gael "dangosfwrdd o wybodaeth a fyddai'n caniat谩u i'r cyhoedd weld cynnydd drostynt eu hunain, gan gynnwys nifer y dosau a ddarperir ac a weinyddir gan y bwrdd iechyd a fesul gr诺p blaenoriaeth".

'Cynnydd sylweddol dros yr wythnosau nesaf'

Dywedodd Mr Gething y bydd data o'r fath yn cael ei gyhoeddi yn fuan, a bod y llywodraeth yn disgwyl y bydd y nifer sy'n cael eu brechu yn cynyddu'n sylweddol dros yr wythnosau nesaf wrth i feddygfeydd a fferyllfeydd ddechrau ei ddosbarthu.

"Rydyn ni'n mynd i gyrraedd llawer mwy o bobl, gan roi amddiffyniad sylweddol iddyn nhw gyda'r brechiad cyntaf," meddai.

"Bydd hynny'n golygu ein bod yn gallu atal y mwyafrif o farwolaethau y mae modd eu hosgoi."

Bydd mwy ar y stori hon ar 大象传媒 Politics Wales ar 大象传媒 One Wales am 10:15 ddydd Sul ac yna ar yr iPlayer.