大象传媒

拢40m i gefnogi myfyrwyr sy'n wynebu caledi ariannol

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol BangorFfynhonnell y llun, David Stowell/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Prifysgol Bangor wedi dweud y byddan nhw'n cynnig ad-daliad o 10% i fyfyrwyr am gost neuadd breswyl

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi 拢40m yn ychwanegol i brifysgolion i gefnogi myfyrwyr sy'n wynebu caledi ariannol yn sgil Covid-19.

Y bwriad yw "helpu'r myfyrwyr y mae'r pandemig wedi effeithio fwyaf arnynt" a'r disgwyl yw bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i "fynd i'r afael 芒 'thlodi digidol', sicrhau gwell mynediad i ddysgu ar-lein, a thalu am dreuliau a chostau eraill yn sgil hunan-ynysu".

Mae yna gais ar i brifysgolion roi blaenoriaeth i "fyfyrwyr sydd fwyaf agored i niwed" a gwasanaethau cyngor a chymorth i fyfyrwyr.

Dywedodd y Gweinidog Addysg nad oedd am weld unrhyw un yn gadael byd addysg eleni oherwydd problemau ariannol.

Mae NUS Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad ac yn dweud bod angen digolledu myfyrwyr sy'n byw mewn llety preifat.

Dywed yr Athro Julie Lydon, Cadeirydd Prifysgolion Cymru bod y cyhoeddiad yn "newyddion da ac y bydd yr arian yn sicrhau parhad gofal bugeiliol".

Bydd hefyd "yn dangos i fyfyrwyr bod y llywodraeth a ni yn eu cefnogi i gwblhau eu hastudiaethau ac yn darparu y cyfleon gorau wrth i ni ailadeiladu'r genedl", meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mi nifer o fyfyrwyr wedi dweud eu bod am ganslo eu debyd uniongyrchol i brifysgolion

Wythnos diwethaf dywedodd cannoedd o fyfyrwyr ar draws Cymru eu bod yn bwriadu cynnal streic rhent yn erbyn eu prifysgolion.

Yn 么l trefnwyr yr ymgyrchoedd ym mhrifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor, dyw myfyrwyr ddim wedi cael yr hyn a dalwyd amdano o ran mynediad i'w hystafelloedd, a dyw cynigion eu prifysgolion ddim yn ddigon da.

Daw'r cyllid newydd o 拢40m o Gronfa Wrth Gefn Covid-19 Llywodraeth Cymru, i gefnogi'r ymateb cenedlaethol i'r pandemig, a chaiff ei ddosbarthu i brifysgolion gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru wedi dadlau na ddylai myfyrwyr gael eu "cosbi yn ariannol" am ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tegwen, Mirain a Sioned wedi galw am ad-daliadau rhent llety prifysgol

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: "Eleni, am resymau y tu hwnt i'w rheolaeth, mae yna filoedd o fyfyrwyr sydd heb allu dychwelyd i'w campws eto.

"Mewn rhai achosion, mae'n bosibl bod rhai yn dal i dalu am eu llety er nad ydynt yn ei ddefnyddio. Rydyn ni'n cydnabod mor anodd yw hyn, a dyna pam rydyn ni'n cyhoeddi'r cyllid ychwanegol hwn."

"Mae ein prifysgolion wedi gweithio'n aruthrol o galed i gefnogi eu myfyrwyr, gan sicrhau bod y broses ddysgu wedi parhau, a chan sefydlu mesurau i ddiogelu eu myfyrwyr, eu staff a'u cymunedau lleol ar yr un pryd.

"Bydd y cyllid hwn yn caniat谩u iddynt adeiladu ar y gwaith da hwnnw."

'Hawl cael profiad safonol'

Yn y gynhadledd newyddion, dywedodd y Gweinidog Addysg bod gan fyfyrwyr hawl i "brofiad safonol" mewn prifysgolion, ond gwrthododd wneud sylw ar alwadau am ad-dalu ffioedd dysgu.

Dylai myfyrwyr sydd 芒 phryderon am safon eu profiad dysgu gysylltu gydag undebau myfyrwyr neu brifysgolion, meddai.

Ychwanegodd Ms Williams hefyd y byddai'n rhannu mwy o wybodaeth am asesiadau i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr colegau yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, bod prifysgolion wedi gweithio'n galed i gefnogi myfyrwyr

Wrth ymateb i'r cyllid ychwanegol dywedodd Becky Ricketts, Llywydd NUS Cymru "ei bod yn ei groesawu ac y bydd y cyhoeddiad yn sicrhau bod arian yn mynd yn 么l i bocedi myfyrwyr sydd wedi wynebu caledi yn ystod y pandemig.

"Mae'n hynod bwysig bod yr arian yn cyrraedd myfyrwyr sy'n rhentu yn y sector breifat. Ry'n yn gwerthfawrogi bod pob sefydliad yng Nghymru wedi ymrwymo i ad-dalu myfyrwyr sy'n byw mewn neuadd breswyl ond mae'n bwysig bod myfyrwyr mewn llety preifat hefyd yn cael eu digolledu.

"Mae mynd i'r afael 芒 thlodi digidol hefyd yn rhywbeth i'w groesawu gan nad oes gan pob myfyriwr fynediad digonol i dechnoleg pan nad ydynt yn y brifysgol."

Mae modd cael mwy o wybodaeth am y cyllid ychwanegol gan y brifysgol neu undeb myfyrwyr.