Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gofalwyr ifanc dan fwy o bwysau ac yn 'teimlo'n unig'
Mae elusen yn galw am "gyllido cynaliadwy" ar gyfer gwasanaethau i ofalwyr ifanc ac i flaenoriaethu ail-gynnal cefnogaeth wyneb yn wyneb.
Dywed Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru bod angen cynllunio'r gefnogaeth sy'n cael ei gynnig "am fisoedd a blynyddoedd i ddod" er mwyn delio ag "unigrwydd cynyddol".
Yn 么l un gofalwr naw oed, mae'r gwasanaethau'n allweddol o ran helpu codi hyder a gwneud ffrindiau.
Dywed Llywodraeth Cymru fod arian ychwanegol wedi'i roi at gefnogi gofalwyr.
"Rydym yn annog gofalwyr ifanc i gysylltu gyda'u hawdurdod lleol i gael yr help a'r gefnogaeth maen nhw'n gymwys i'w cael," meddai llefarydd.
Colli'r cyfloedd i 'fod yn normal'
Gofynnodd rhaglen Wales Live wrth awdurdodau lleol Cymru sut maen nhw'n cefnogi gofalwyr ifanc yn ystod y pandemig.
O'r naw a ymatebodd, dywedodd wyth eu bod yn darparu cefnogaeth ar-lein neu dros y ff么n. Dywedodd dau o'r cynghorau bod ceisiadau am gefnogaeth ychwanegol wedi cynyddu yn y misoedd diwethaf.
Adeg Cyfrifiad 2011 roedd yna 7,544 o ofalwyr dan 16 oed yng Nghymru, ond mae'n debygol, medd yr elusen, fod y nifer yn llawer uwch mewn gwirionedd ac yn cynyddu ers dechrau'r pandemig.
Dywed yr elusen bod iechyd meddwl a lles gofalwyr ifanc "wedi dechrau dirywio" oherwydd cyfnodau clo, a bod angen blaenoriaethu ail-gynnal cefnogaeth uniongyrchol gan nad oes saib o'u dyletswyddau tra bo' ysgolion ar gau.
"Rhaid canfod ffyrdd o greu gofod iddyn nhw gael hoe," meddai, "i gael amser i fod yn nhw'u hunain, a bod yn blant mewn cyfnod gwirioneddol anodd, ac i feddwl am sut mae cynllunio'r gwasanaethau hynny."
Mae Chloe, 13, yn cyfuno dysgu o adref gyda sesiynau dialysis dyddiol ei mam, Becky.
Gofynnodd am hyfforddiant i helpu defnyddio'r peiriant dialysis a chefnogi ei mam drwy'r sesiynau, sy'n para am bedair awr.
Dywed fod y pandemig wedi bod yn "flinedig", gyda'r teulu'n cadw draw o bawb arall ers mis Mawrth rhag ofn i'w mam ddal y feirws.
Bob tro mae cyfyngiadau'r cyfnodau clo'n llacio, dydy ailddechrau gweld ffrindiau eto yn yr ysgol uwchradd "ddim yn opsiwn i mi" sy'n "eithaf trist", medd Chloe.
Mae'n mwynhau treulio mwy o amser gyda'i theulu, ond yn colli mynychu'r grwpiau gofalwyr ifanc wythnosol fu'n rhaid dod i stop oherwydd y pandemig.
"Roeddech chi gyda phobl sy'n gwybod beth ry'ch chi'n mynd trwyddo," meddai.
"Mae gyda chi le ble gallwch chi ymlacio, heb orfod poeni am bobl yn gofyn llwyth o gwestiynau. Dyna ble gallwch chi jest fod yn normal."
Erbyn hyn mae'r holl drafodaethau hyn yn digwydd ar-lein.
'Colli'r ysgol a ffrindiau'
Mae Kieran, naw, yn helpu gofalu am ei chwaer 11 oed, Tegan. Mae'r cyflwr prin Syndrom Joubert yn amharu ar ei gallu i gyfathrebu a symud.
Er bod hithau'n dod yn fwyfwy annibynnol, mae Kieran ar adegau'n ymddangos fel brawd h欧n iddi yn hytrach na brawd iau, gan helpu gyda thasgau fel rhoi ei dillad ymlaen a pharatoi am y diwrnod i ddod.
Dywed Kieran ei fod wedi teimlo'n unig yn ystod y 10 mis diwethaf.
"Rwy'n colli mynd i'r ysgol oherwydd rwy'n teimlo llawer o straen gartref ac rwy'n colli gweld ffrindiau," meddai.
Fel Chloe, mae Kieran hefyd yn cael cefnogaeth ar-lein ar hyn o bryd, ond cyn y pandemig roedd yn arfer cwrdd 芒 gofalwyr ifanc eraill trwy weithgareddau a thripiau oedd yn cael eu trefnu ar eu cyfer.
Roedd y rheiny, meddai, wedi helpu rhoi mwy o hyder iddo, ac i wneud ffrindiau newydd.
'Pethau'n anos nawr'
Mae'r cyfnod clo a'r cyfrifoldebau ychwanegol yn "cynyddu pwysau gwirioneddol" ar ofalwyr ifanc, medd cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Simon Hatch.
"Maen nhw'n rhoi gwybodaeth i ni ynghylch teimlo'n rhwystredig, yn fwy ynysig ac unig, ac yn arbennig ynghylch methu ymwneud 芒'r gwasanaethau allai fod wedi dychwelyd i raddau yn hwyr yn yr haf a'r hydref," meddai.
"Gallu bod yn yr ysgol gyda'u ffrindiau yw un o'r unig fathau o hoe sy'n bosib i rai gofalwyr ifanc, felly gallwch ddychmygu pa mor anos fyth yw pethau nawr."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Hoffwn ddiolch yr holl ofalwyr ifanc am y gefnogaeth ryfeddol maen nhw'n eu darparu yn ystod y pandemig.
"Rydym yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ddeall yn well y pwysau sy'n wynebu gofalwyr ifanc a sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth angenrheidiol.
"Rydym hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ac i gefnogi gofalwyr yn ystod y cyfnod eithriadol anodd hwn."
Wales Live, nos Fawrth, 大象传媒 One Wales am 22:30 ac yna ar iPlayer.