Storm Christoph: Symud pobl o'u cartrefi wedi glaw
- Cyhoeddwyd
Mae llifogydd wedi taro nifer o ardaloedd ar draws Cymru, gyda rhai cartrefi wedi cael eu heffeithio a nifer o ffyrdd wedi cau wrth i Storm Christoph ddod 芒 glaw trwm.
Mae rhybudd melyn am law mewn grym gan y , hyd at nos Fercher.
Eisoes mae Rhuthun wedi diodde' llifogydd yng nghanol y dref.
Aeth swyddogion Heddlu Gogledd Cymru i helpu rhai preswylwyr yno oedd wedi cael gorchymyn i adael eu cartrefi.
Dywedodd yr heddlu mewn neges ar Twitter fod "pobl nad ydyn nhw'n byw yn lleol yn gyrru i'r ardal i 'weld y llifogydd'".
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol nos Fercher, cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych fod canolfannau lloches wedi cael eu hagor yn Llanelwy a Rhuthun yn dilyn glaw trwm trwy'r dydd.
Gall trigolion sydd wedi eu heffeithio ddefnyddio'r cyfleusterau yng Nghanolfan Hamdden Rhuthun a Chanolfan Hamdden Llanelwy medd y cyngor, ac mae'r canolfannau lloches yn ddiogel o ran Covid-19.
Rhybudd am rew
Yn y cyfamser mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhyddhau rhybudd melyn am rew ar draws y gogledd a'r canolbarth o 01:00 i 10:00 fore Iau.
Gallai rhew ffurfio'n gyflym ar rai lonydd a llwybrau ar 么l i'r glaw glirio, medden nhw.
Yn 么l y Swyddfa Dywydd disgynnodd 127mm o law yng Nghapel Curig mewn 48 awr wrth i Storm Christoph daro.
Roedd wedi cyhoeddi dros 30 rhybudd llifogydd ddydd Mercher, gyda dwsinau o rybuddion i fod yn barod am effaith y glaw.
Gallai'r glaw trymaf daro gogledd orllewin Cymru, ac mae'r heddlu wedi rhybuddio teithwyr dros y rhanbarth i gymryd gofal.
Rhwng 0600 fore Llun at 0600 fore Mercher cafodd lefelau uchel o law eu cofnodi mewn sawl man.
Capel Curig - 127.6mm
Y Bala, Gwynedd - 67.4mm
Llyn Efyrnwy, Powys - 70.6mm
Tredegar, Blaenau Gwent - 63mm
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Dywedodd Gwasanaeth T芒n ac Achub y de bod swyddogion wedi eu galw i sawl digwyddiad dros nos, gyda d诺r yn mynd i mewn i adeiladau ym Mhontypridd, Porth yn y Rhondda, Pontycymer a Thredegar.
Mae rhai gwasanaethau tr锚n yn y gogledd a'r canolbarth wedi eu heffeithio, gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ar wefan .
Roedd nifer o ffyrdd wedi eu heffeithio, ac mae cyfyngiadau ar bontydd Hafren (M48) a Britannia (A55).
Mae mwy o wybodaeth ar wefan .
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2021