Mudiad Meithrin eisiau arwain 'newid diwylliannol' yng Nghymru

Mae'r Mudiad Meithrin wedi lansio prentisiaeth er mwyn ceisio sicrhau "newid diwylliannol" a gwella amrywiaeth o fewn ei staff.

Bydd y prentisiaeth 18 mis ar agor i bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, gyda'r bwriad o gynnig gwaith llawn amser yn y pen draw.

Daw wrth i'r mudiad gydnabod nad oes digon o gynrychiolaeth wedi bod yn y gweithlu yn y gorffennol.

Dywedodd Helen Williams, pennaeth hyfforddiant, dysgu a datblygu y mudiad, bod y cynllun yn targedu "gwendid yn ein gweithlu ni", ac mai'r bwriad ydy cael gweithlu "gwirioneddol amrywiol".

"Ein gobaith ni drwy'r cynllun yma ydy y gwelwn ni gychwyn ar newid diwylliannol sylweddol nid yn unig o fewn ein mudiad ni, ond ein bod ni'n gallu arwain y ffordd i ysgogi sefydliadau gofal plant a mudiadau Cymraeg eraill i wneud yr un ffordd."

Fe fydd cyfle i gwblhau'r prentisiaeth mewn un o bedwar maes - marchnata digidol, dysgu a hyfforddiant digidol, gweinyddiaeth fusnes neu fel swyddog denu grantiau.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy 5 Chwefror.

Ychwanegodd Ms Williams: "'Da ni'n barod wedi bod yn g'neud lot fawr o waith yn codi ymwybyddiaeth ac wastad wedi croesawu pawb i'r cylch, yn ddiweddar mi wnaethon ni gynhyrchu taflenni aml-ieithog yn egluro be' ydy'r cylch a be' ydy addysg Gymraeg a manteision hynny, er mwyn 'neud yn siwr bod pawb yn gwybod bod croeso i bawb o fewn pob cylch ymhob rhan o Gymru."