大象传媒

Gohirio Eisteddfod Genedlaethol Tregaron eto nes 2022

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Mae Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion wedi cael ei gohirio am yr eildro.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion wedi cael ei gohirio am yr eildro yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cyhoeddodd trefnwyr yr Eisteddfod bod y penderfyniad "anodd" i symud y Brifwyl wedi cael ei wneud gan Fwrdd Rheoli'r sefydliad yn dilyn "nifer o drafodaethau" o ganlyniad i'r pandemig.

Y bwriad nawr, meddai'r trefnwyr, yw cynnal y Brifwyl yn Nhregaron ym mis Awst 2022, gan symud Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd i Awst 2023 a chynnal yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf yn 2024.

Ond mae'r sefydliad yn rhybuddio y bydd y penderfyniad i ohirio eto yn cael "effaith pellgyrhaeddol" arnyn nhw, ac y bydd yn rhaid iddyn nhw dorri'r gweithlu o 13 i saith o staff.

'Neb yn fwy siomedig na ni'

Roedd yr Eisteddfod yng Ngheredigion eisoes wedi cael ei gohirio o 2020 i 2021 yn dilyn pryderon am coronafeirws.

Fis Rhagfyr fe awgrymodd y prif weithredwr, Betsan Moses, nad oedd "sicrwydd o gwbl" y bydd y brifwyl yn cael ei chynnal yn 2021.

Yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru dros y misoedd diwethaf, dywedodd Ms Moses ei bod hi wedi dod yn "gynyddol amlwg... na fyddai modd cynnal Eisteddfod yn Nhregaron yn yr haf".

"Does neb yn fwy siomedig am hyn na ni, ac mae gorfod cyhoeddi hyn am yr eildro yn rhywbeth anodd iawn i orfod ei wneud," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd bwlch o dair blynedd rhwng eisteddfodau Llanrwst a Thregaron

Ar raglen Dros Frecwast ar 大象传媒 Radio Cymru, dywedodd Ms Moses: "Ble o'n ni yn gobeithio y byddai 'na ganran yn gallu cael eu brechu ac y byddai modd i wyliau i gael eu gwireddu - wrth gwrs mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i ymchwilio i weld ydy hynny yn bosib ar hyn o bryd - achos ar hyn o bryd mae'r 2 fetr yn ddeddf yma yng Nghymru... dyw digwyddiadau nac unrhyw wyliau yn rhan o'r canllaw ar gyfer ailagor.

"Felly hyd yn oed os ewn ni i lefel 1, y lefel rhybudd agosa' at y norm, does dim hawl i gynnal gwyliau - felly bydde angen i ni gyrraedd y lefel yna a gwneud y cynlluniau peilot ar gyfer gwirio ei bod hi yn ddiogel 'neud gwyliau, cyn y gallen nhw greu lefel newydd ar gyfer gwireddu gwyliau.

"Ond聽y' ni yn parhau i drafod gyda'r llywodraeth鈥 Os oes 'na wahaniaeth - os ym mis Ebrill fe fyddwn ni'n gweld bod ni mewn gwell sefyllfa - fe allwn ni edrych i weld beth yw'r opsiynau bryd hynny."

'Cyfnod hynod bryderus'

Ychwanegodd y prif weithredwr bod y flwyddyn wedi bod yn "gyfnod hynod bryderus ac anodd i bawb... [ac] yn anffodus, ry'n ni'n wynebu blwyddyn arall hynod o heriol yn ein hanes", fydd yn cael "effaith pellgyrhaeddol arnom ni fel sefydliad".

Dywedodd Ms Moses bod strwythur arfaethedig sydd wedi ei rannu gyda staff yn golygu lleihau'r gweithlu o 13 i saith.

"Fel corff sydd yn entrepreneuraidd, dim ond 12% [o'n hincwm] sydd yn dod o'r pwrs cyhoeddus - ni'n cael ein llorio drwy pandemig," meddai.

"Ry'n ni wedi gorfod dechrau ar broses ymgynghori gyda staff gan fod rhaid i ni leihau'r t卯m i hanner ei faint er mwyn gallu goroesi'r cyfnod nesaf.

"Mae cyhoeddi hyn heddiw yn dorcalonnus i bawb sy'n rhan o'r Eisteddfod."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yn rhaid i bobl Tregaron aros nes 2022 nawr i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol

Dywedodd Llywydd Llys yr Eisteddfod a chadeirydd y Bwrdd Rheoli, Ashok Ahir: "Yn naturiol, ry'n ni'n siomedig iawn ein bod wedi gorfod cymryd y penderfyniad hwn unwaith eto, ond ry'n ni'n sicr y bydd pawb yn cytuno mai dyma'r penderfyniad cywir a synhwyrol i'r Bwrdd Rheoli'i gymryd, ac na fydd y cyhoeddiad heddiw'n syndod.

"Ry'n ni'n edrych ymlaen at ddod ynghyd yng Ngheredigion unwaith y bydd y feirws wedi cilio, ac yn sicr, bydd Eisteddfod Ceredigion yn 诺yl i'w chofio a'i gwerthfawrogi bryd hynny.

"Yn y cyfamser, mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cefnogi ein gilydd a'n cymunedau ar draws y wlad a chadw'n ddiogel."

Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Ceredigion, a Llywydd y Senedd, Elin Jones: "Y dymuniad yng Ngheredigion yn sicr yw gweld Eisteddfod sydd yn llawn, sydd yn ddirwystr ac yn llawn hwyl, ac felly ni'n gynyddol ymwybodol fydd hynny ddim yn bosib eleni.

"Felly ni moyn gwarchod y syniad yna o gael Eisteddfod a hanner ar gaeau Tregaron, a'i gwarchod hi tan y flwyddyn nesaf nawr, a s'dim dowt am yr hir ddisgwyl amdani erbyn y flwyddyn nesaf, ac y bydd pawb yn eu hwyliau ac fe fydd pobl Ceredigion yn goresawgar ac yn falch i'w chynnal hi erbyn hynny."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Elin Jones mai'r dymuniad ydy cynnal Eisteddfod arferol yn Nhregaron yn 2022

Ychwanegodd arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn bod y cyngor yn "cefnogi'r Eisteddfod ar eu penderfyniad anodd i ohirio'r Eisteddfod am flwyddyn arall".

"Gyda'r holl gynllunio sydd angen ei wneud, dyw hi ddim yn ymarferol bosib i'w cynnal. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i Geredigion pan mae hi'n ddiogel i wneud hynny," meddai.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Si芒n Gwenllian AS/MS

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Si芒n Gwenllian AS/MS

Y llynedd cafodd g诺yl Eisteddfod AmGen ei chynnal yn absenoldeb y Brifwyl, lle roedd tri diwrnod o ddigwyddiadau digidol mewn partneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a 大象传媒 Cymru.

Fe gadarnhaodd yr Eisteddfod y bydd g诺yl AmGen arall yn cael ei chynnal eto eleni, gyda'r bwriad o gyflwyno "elfen gref o gystadlu yn rhan o'r arlwy", a bod trafodaethau gyda phartneriaid yn parhau.

Yn ystod cyfarfod llawn o'r Senedd brynhnawn Mawrth, fe wnaeth AS Plaid Cymru dros Arfon, Si芒n Gwenllian, drafod y pwysau ariannol sydd ar yr Eisteddfod Genedlaethol, y Llyfrgell Genedlaethol a'r Urdd.

Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans AS bod hi'n ymwybodol o'r heriau sy'n wynebu'r sefydliadau.