大象传媒

Rhybudd teulu ar 么l i fam i bump farw o Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
The familyFfynhonnell y llun, Rachel Hobbs
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae plant Karen Hobbs nawr yn 14, 11, naw, wyth a phedair oed

Mae teulu mam i bump o blant sydd wedi marw ar 么l dal Covid-19 yn annog pobl i gadw at y rheolau i rwystro'r feirws rhag ymledu.

Bu farw Karen Hobbs, 40 oed, ar 19 Ionawr, wythnosau ar 么l profi'n bositif ar gyfer yr haint.

Fe wnaeth hi ddechrau dangos symptomau rhyw wythnos cyn y Nadolig, gan fethu a chodi o'r gwely.

Dywedodd ei chwaer Rachel wrth y 大象传媒: "Roedd hi'n edrych yn ofnadwy, ar ddydd Dolig roedd hi yn y gwely a methu a gwneud dim."

Ffynhonnell y llun, Rachel Hobbs
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Karen wrth ei bod yn chwarae gyda'r plant, meddai ei chwaer

"Roeddwn yn gwybod ei bod hin wael, do'n i heb weld unrhyw un fel yna o'r blaen, roedd o'n sioc gweld rhywun bron a bod methu a cerdded i'r car."

Cafodd Karen o Gaerdydd ei rhoi mewn coma ar 2 Ionawr.

"Roedd hi mor ofn, dywedodd 'Dwi angen dod allan o hyn er mwyn gweld fy mhlant eto'. Ond wnaeth hi ddim."

Ffynhonnell y llun, Rachel Hobbs
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth ei phlant wneud cerdyn 'brysiwch wella' tra bod Karen yn yr ysbyty

Cafodd y teulu wybod fod organau Karen yn raddol yn methu a'i bod yn gwanhau, hynny tua wythnos cyn iddi farw.

"Doedd ei chorff methu dioddef mwy. Dyw'r peth heb ein taro.

"Dwi'n meddwl bod y plant yn dal mewn sioc, ro'n i'n meddwl y byddai'n gwella o'r peth - ond fe wnaeth hi gael ei heintio yn ddifrifol."

Ffynhonnell y llun, Rachel Hobbs
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Rachel fod y teulu yn dal mewn sioc

Dywed Rachel fod ei chwaer yn berson iach, gyda dim problemau iechyd blaenorol.

"Doedd hi ddim yn mynd i unman, fe wnaeth hi ei siopa ar-lein.

"Roedd hi yn y t欧, felly mae'n anodd gwybod sut iddi gael ei heintio, roedd yn un o'r rhai oedd yn trio cadw'n ddiogel."

'Neb yn ddiogel'

Ond ychwanegodd y byddai ei chwaer yn flin gyda phobl oedd yn torri rheolau.

"Mae just yn dangos pa mor ddrwg yw'r haint.

"Bydda hi'n dweud 'gwnewch yn si诺r eich bod yn dilyn y rheolau oherwydd does neb yn ddiogel, mae'r feirws yn real, arhoswch adre a dim ond mynd mas pan fo raid'."

Ers ei marwolaeth mae ei ffrindiau wedi codi dros 拢20,000 ar y we, er mwyn cefnogi ei phlant a'u tad.

Pynciau cysylltiedig