Addoli ar-lein wedi achosi 'chwilfrydedd' tuag at grefydd
- Cyhoeddwyd
Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, mae addoldai wedi bod ar gau am ran helaeth o'r flwyddyn ddiwethaf.
O ganlyniad, mae'r addoli wedi gorfod symud ar-lein, ac mae rhai capeli wedi croesawu ambell i aelod newydd, wrth i chwilfrydedd am grefydd danio yn ystod y pandemig.
'Nath o fy neffro i'
Doedd Llinos Jones ddim wedi bod i'r capel ers blynyddoedd. Roedd hi arfer mynd pan oedd hi yn blentyn ym Morfa Nefyn, ond roedd bywyd wedi mynd yn brysur, a'i mab yn chwarae rygbi ar fore Sul. Doedd mynd i'r capel ddim yn rhan o batrwm ei bywyd.
Ond pan ddaeth y pandemig newidiodd pethau - a hynny er bod drysau pob capel ar gau.
"Yn ystod y clo mawr dwi'n meddwl bod bywyd wedi slofi lawr rhyw fymryn a bod pobl wedi cael lot mwy o amser i feddwl a mynd ar gyfryngau cymdeithasol," medd Llinos o'i chartref yng Nghaerfyrddin. Ar dudalen Facebook un o'r capeli lleol, Capel y Priordy, daeth ar draws fideos oedd wedi creu argraff arni.
"Dyma fi'n sylwi ar y fideos oedd yn cael eu rhannu a wir teimlo mod i'n perthyn i'r gymuned yno.
"'Nath o fy neffro i a dweud y gwir a 'neud i fi gofio mod i yn Gristion, mewn ffordd."
Nid hi yw'r unig un i archwilio ei theimladau am ffydd ers i'r pandemig daro. Mae nifer o arweinwyr ffydd o wahanol grefyddau wedi dweud eu bod wedi sylwi bod pobl yn ei ffeindio hi'n haws troi at grefydd dros y we yn ystod y pandemig.
Yn 么l arolwg diweddar gan YouGov, mae pobl ifanc yn fwy tebygol o gredu mewn Duw am y tro cyntaf - aelodau o Genhedlaeth Z, sydd yn eu harddegau a'u hugeiniau cynnar yn hytrach na'r millennials yn eu hugeiniau hwyr a'u tridegau.
Yn 么l Ed Kessler, o sefydliad rhyng-grefyddol y Woolf Institute, mae'r we wedi democrateiddio crefydd.
"Mae pobl oedd efallai yn chwilfrydig am grefydd, ond yn rhy swil o ddefodau dirgel neu wisgoedd anghyfarwydd, yn medru archwilio yn ddienw, a logio mewn i wahanol wasanaethau, weithiau ar draws crefyddau."
Yn lle neud cr么l tafarn, meddai, mae modd neud 'cr么l addoldai.'
'Rhyddid' o'r adeiladau
Barn y Parch Rhys Llwyd o Gapel Caersalem yng Nghaernarfon yw bod cau capeli wedi rhyddhau 'Cristnogaeth Gymraeg.'
"Dwi'n teimlo'n gyffredinol fod Cristnogaeth Gymraeg wedi priodi yn rhy agos efallai at ddefodau mewn adeiladau."
Mae e hefyd wedi sylwi ar gynnydd yn nifer y gynulleidfa yn ei oedfaon dros y we ers i'r pandemig ddechrau.
"Y gwir amdani yw, mae ffydd yn rhywbeth personol iawn. Felly mewn sefyllfaoedd lle mae'n adeiladau wedi gorfod cau, mae pobl falle yn niogelwch eu cartref, yn eu gofod saff nhw yn teimlo yn fwy diogel i ystyried y cwestiynau yna."
Mae e hefyd yn credu bod gan lawer o Gymry Cymraeg ragfarnau am gapeli. Mae Llinos Jones yn cyfaddef ei bod hi hefyd wedi ei synnu o weld blaengaredd capel y Priordy.
"Yn bendant, mae gan rhywun rhyw deimlad bod capel yn gallu bod yn hen-ffasiwn ella; rhywbeth ma' rhywun yn mynd i ar y Sul a'r plant i gyd yn eistedd yn ddistaw a ddim yn 'neud smic. Ond yng nghapel Priordy, yn y pethau Facebook, mae'r plant yn ganolog yn y fideos. Nhw sy'n 'neud lot o'r fideos."
Pobl dan 40 oed oedd y lleiaf tebygol i ystyried eu hunain yn grefyddol cyn i'r pandemig daro yn 么l gwaith ymchwil canolfan Pew. Ers i Covid-19 daro, mae data Google yn dangos bod nifer y chwiliadau am y gair 'gweddi' wedi cynyddu 50% - a hynny ar draws y byd.
"Mae llawer o bobl yn dweud mai crutch yw crefydd," medd y Parch Rhys Llwyd, "a fod pobl yn troi ato fe mewn munud o angen, ond y gwir amdani yw bod Cristnogaeth yn cynnig mwy na hynny.
"Ydi mae e'n cynnig cysur mewn amser o galedi, ond mae e hefyd yn rhoi ystyr a phwrpas i fywyd yn ei gyflawnder hefyd."
Cyfleoedd newydd ar-lein
Cristnogion Catholig oedd fwyaf tebygol i ymchwilio'u crefydd ar-lein yn 么l Google, a Mwslemiaid hefyd.
Roedd llawer o weithgareddau Mwslemiaid Cymru ar-lein hyd yn oed cyn y pandemig. Mae Imams wedi bod yn darlledu'r gwedd茂au dydd Gwener o'r mosg dros drosglwyddyddion radio lleol ers yr 80au. Dros gyfnod Ramadan hefyd, roedd cymuned Fwslemaidd Cymru wedi dod ynghyd drwy Radio Ramadan Cymru.
"Roedd hyd yn oed rhaglen Gymraeg arno fe," medd Dr Abdul-Azim Ahmed o Gyngor Mwslimaidd Cymru. "Roedd y sianel yn ganolbwynt i lawer o gymunedau, gyda phregethau a darlithoedd."
Gyda gwasanaethau'n cael eu darlledu dros Zoom a Facebook Live nawr, un o'r newidiadau mwyaf yn ystod y pandemig yw bod mwy o fynediad gan fenywod i weithgareddau oedd arfer bod i ddynion yn unig.
"Yn draddodiadol, mae'r mosg wedi cael eu dominyddu gan ddynion," medd Dr Ahmed. "Mae'r shifft ddigidol yn golygu bod menywod nawr yn gallu clywed mwy o bregethau a darlithoedd. Roedd e'n digwydd yn barod, ond mae'r pandemig wedi prysuro'r broses."
Ond, cyd-addoli sydd wedi dioddef fwyaf a rhai agweddau o addoli o fewn Islam sydd ddim yn bosib ei ail-greu yn ddigidol.
'Her i ffitio mewn' yn dilyn Covid
A chyd-addoli yn ei chapel newydd yw un o'r pethau mae Llinos Jones yn edrych ymlaen ato pan ddaw'r argyfwng i ben. "Nes i anfon neges at y gweinidog, Beti Wyn, yn deud bo' fi yn gobeithio dod i gapel y Priordy ar 么l i'r Covid fod ar ben," meddai, "achos yn amlwg mae capel y Priordy i bawb a dwi'n edrych ymlaen a deud y gwir i gael bod yn rhan o'r capel."
Mae sawl gweinidog yn credu y bydd gwasanaethau yn parhau ar-lein hyd yn oed wedi i'r cyfyngiadau gael eu llacio. Mae'n fodd i gysylltu 芒 llawer o aelodau h欧n a bregus, neu rai sy'n methu cyrraedd addol-dy am ba bynnag reswm.
Yr hyn mae Rhys Llwyd yn ei gredu fydd yn bwysig i gapeli ystyried, yw sut i ddarparu cymuned yn ogystal 芒 dysgeidiaeth ffydd:
"Yr alwad i eglwysi yw 'neud disgyblion, nid jyst gwylwyr ar Facebook neu YouTube. Be' ma' pobl yn chwilio amdano ydi ystyr bywyd, cwestiynau mawr ffydd a bywyd. Ond be' ma' pobl hefyd yn chwilio amdano ydi cymuned.
"Byddwn ni methu jyst troi'r cloc nol a jyst byw fel o'n ni cynt, felly mae rhaid rhoi her i'r eglwys i ffeindio lle 'da ni'n ffitio mewn i roi ystyr a chymdeithas i bobl."
Hefyd o ddiddordeb: