大象传媒

27 yn rhagor o farwolaethau Covid yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi cofnodi 27 yn rhagor o farwolaethau gyda Covid-19, a 410 o achosion newydd.

Mae'r cyfanswm bellach wedi codi i 5,059 o farwolaethau, a'r nifer o achosion i 197,754.

Dywedodd ICC bod 28,678 yn rhagor wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn, sy'n golygu bod 684,097 bellach wedi cael un brechiad.

Mae hynny'n 21.65% o'r boblogaeth.

Mae 108 o bobl yn rhagor wedi cael eu hail ddos erbyn hyn hefyd, sy'n mynd 芒'r cyfanswm hwnnw i 3,795.

Ble'r oedd yr achosion newydd?

Roedd 55 o achosion newydd yng Nghaerdydd, 42 yn Rhondda Cynon Taf a 37 ym Mhowys.

O'r marwolaethau newydd, cafodd chwech eu cofnodi yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd, a hefyd ym mwrdd Cwm Taf Morgannwg.

Cafodd pedair marwolaeth eu cofnodi ym myrddau Hywel Dda a Chaerdydd a'r Fro.

Dros Gymru, mae cyfradd yr achosion dros gyfnod o wythnos wedi cwympo ychydig i 107 fesul 100,000 o'r boblogaeth.

Wrecsam oedd 芒'r gyfradd saith niwrnod uchaf, sef 206.7, gyda Sir y Fflint yn ail ar 187.7 ac Ynys M么n yn drydydd ar 171.3. Ceredigion oedd 芒'r ffigwr isaf gyda 46.8.

Yn 么l y ffigyrau diweddaraf, cafodd 5,075 o brofion eu cyflawni yn y 24 awr ddiwethaf.

Pynciau cysylltiedig