Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tafwyl yn cael ei chynnal yn ddigidol eto eleni
Bydd g诺yl Tafwyl yn cael ei chynnal yn ddigidol unwaith eto eleni ar ddydd Sadwrn, 15 Mai.
Yn 2020, roedd Tafwyl ymysg y cyntaf o wyliau'r DU i ffrydio o leoliad yr 诺yl, sef Castell Caerdydd.
Fe fydd yr 诺yl rithiol yn 2021 yn gyfuniad o gerddoriaeth fyw, llenyddiaeth, trafodaethau, ynghyd 芒 gweithgareddau i blant.
Bydd y gerddoriaeth yn dod yn fyw unwaith eto o gartref yr 诺yl, Castell Caerdydd.
Wrth i Tafwyl ddathlu ei phen-blwydd yn 15 oed eleni, y bwriad, yn 么l y trefnwyr, yw adeiladu ar y profiadau newydd ddaeth yn sgil yr 诺yl rithiol llynedd a throi'r her yn gyfle i ddenu cynulleidfaoedd newydd i brofi celfyddyd a diwylliant Cymreig.
Dywedodd Manon Rees-O'Brien, prif weithredwr Menter Caerdydd - trefnwyr yr 诺yl - ei bod yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn "codi calon ac ysbryd artistiaid a gwylwyr".
"Bydd yn gyfle gwych i Menter Caerdydd barhau i godi proffil y Gymraeg mewn digwyddiad byw ac arloesol, a chyflwyno'r iaith a'r diwylliant i gynulleidfa ehangach," meddai.
Bydd gweithgareddau holl lwyfannau'r 诺yl yn cael eu ffrydio'n fyw o Gastell Caerdydd trwy gyfrwng platfform digidol AM trwy ddydd Sadwrn 15 Mai.
Bydd uchafbwyntiau'r 诺yl hefyd ar gael i'w gwylio mewn rhaglen awr o hyd ar S4C, gydag ambell set ecsgliwsif ar blatfform digidol L诺p yn ogystal.
Yn 么l y trefnwyr, llwyddodd Tafwyl 2020 i ddenu cynulleidfa fyd-eang, gyda thros 25,000 yn mwynhau'r arlwy o ddiogelwch eu tai.
Gyda chynulleidfa gref yng Nghaerdydd a ledled Cymru, cafwyd nifer yn ffrydio'r 诺yl o'r UDA, Japan, Yr Iseldiroedd, Sbaen a Ffrainc, ymysg gwledydd eraill.
Yn ogystal 芒'r gerddoriaeth fyw, bydd nifer o elfennau arferol Tafwyl yn cael eu darparu hefyd, gan gynnwys sgyrsiau, sesiynau llenyddol ac ymarferion lles.
Bu dros 50 o fasnachwyr yn rhan o farchnad ddigidol llynedd, gyda gwariant o dros 拢15,000 mewn un prynhawn, a bydd y farchnad ddigidol yn 么l eleni.
Bydd gan ysgolion Caerdydd lwyfan digidol i arddangos eu talent hwythau, a rhaglen o weithgareddau a gweithdai amrywiol i blant.
Rhan enfawr o ap锚l Tafwyl bob blwyddyn yw'r bwyd a diod, ac ni fydd g诺yl ddigidol yn newid hynny.
Bydd yr 诺yl yn partneru gydag amrywiaeth o arlwywyr lleol gyda chynigion Tafwyl arbennig a gwasanaethau pryd ar glyd i helpu i ddod 芒 blas o'r '诺yl go-iawn' i gartrefi'r gwylwyr.
Mae Menter Caerdydd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a Chyngor Caerdydd i gynnal Tafwyl 2021.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg: "Mae'n newyddion gwych ein bod unwaith eto yn gallu cyd-weithio i adeiladu ar lwyddiant Tafwyl Digidol llynedd.
"Mae'r ymateb arloesol wrth rannu, dathlu a dod a phobl o'r diwydiannau creadigol a digwyddiadau ynghyd, wedi bod yn llwyddiant aruthrol - ac mae wedi darparu gobaith ac adloniant yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Bydd hwn yn gyfle arbennig i ddod ag ychydig mwy o'r Gymraeg i'n cartrefi trwy'r 诺yl boblogaidd hon."